Bwytai gyda llety yn y gogledd

Plas Tan-Yr-Allt, Porthmadog

I fwynhau profiad bwyta sy’n cyfuno hanes, llenyddiaeth a gastronomeg, ewch ar eich pen i Blas Tan-Yr-Allt. Yma cewch wledda mewn ystafell gain sy’n llawn paentiadau gwreiddiol a hen greiriau. Maen nhw’n cynnig bwydlen swper gyda phedwar cwrs, a’r prydau’n cynnwys cig oen o Gymru, hwyaden wedi’i rhostio, a bwyd môr lleol. Dyma hen gartref y bardd Percy Shelley, ac mae modd aros dros nos yn yr ystafelloedd braf sydd wedi’u henwi ar ôl gwesteion enwog. Mae gan rai ystafelloedd olygfeydd ysblennydd o Eryri neu aber afon Glaslyn. Taith fer mewn car yw hi o Blas Tan-Yr-Allt i Ben Llŷn a Phortmeirion.

Bar Bwyd Llety Cross Foxes, Dolgellau

Mae'r Cross Foxes yn lle clyd a ffasiynol ym mherfeddion Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r fwydlen amheuthun yn llawn prydau sy’n defnyddio cynhwysion lleol fel cig oen a chig eidion o Gymru, bwyd môr ffres, ynghyd â dewisiadau llysieuol. Mae’r llety’n braf ac yn gyfforddus, gydag ystafelloedd en-suite a Wi-Fi am ddim. Gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd rhagorol o’r mynyddoedd a chefn gwlad o’u hystafelloedd neu o’r teras awyr agored.

Golygfa ochr o Cross Foxes Hotel o'r tu allan
Ystafell wely atig gwesty.

Gwesty Cross Foxes, ger Dolgellau, Gogledd Cymru.

Gwesty Neuadd y Palé, Bala

Plasty Fictoraidd mawreddog yw Gwesty Neuadd y Palé a hwnnw wedi’i adfer yn ofalus i’w hen ogoniant. Mae’r ystafell fwyta’n un ysblennydd, ac ynddi nodweddion gwreiddiol, dodrefn hynafol, a phaentiadau. Yma cewch fwynhau prydau bwyd creadigol ac amheuthun sy’n dathlu cynnyrch lleol a thymhorol y gogledd. Mae’r llety’n foethus ac yn gain, a’r ystafelloedd i gyd wedi’u dodrefnu’n unigryw. Mae gan rai welyau pedwar postyn, llefydd tân, a baddonau jacuzzi. Gall gwesteion ymlacio yn y lolfa, y llyfrgell, y bar neu’r ystafell haul. Ewch am dro drwy’r gerddi tirlun, lle mae coetir a llyn, neu crwydrwch Barc Cenedlaethol Eryri sydd gerllaw.

Plasty mawr gyda lawntiau dilychwin a choetir o’i amgylch.
Ystafell fwyta gain mewn plasty Fictoraidd. Waliau gwyrdd golau, byrddau crwn gyda phlatiau a llestri arian, ffenestri â golygfeydd o lawnt werdd.
Platiad o fwyd wedi’i gyflwyno’n brydferth, gyda gwydrau gwin a dŵr wrth ei ochr.

Gwesty Neuadd y Palé, Y Bala

Bwytai gyda llety yn y canolbarth

Y Trewythen, Llanidloes

Mae’r Trewythen yn fwyty cyfoes a ffasiynol sydd hefyd yn cynnig lle i aros dros nos, a hynny yn nhref farchnad hanesyddol Llanidloes. Mae gan y bwyty fwydlen soffistigedig ac amrywiol sy’n llawn o brydau Prydeinig, a’r rheini’n defnyddio cynhwysion lleol ac organig pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae’r prydau blasus yn cael eu cyflwyno’n brydferth dros ben, ac mae’r rhestr winoedd yn cyd-fynd â nhw’n wych. Mae’r llety en-suite yn braf ac yn gyfforddus. Mae gan rai o’r ystafelloedd falconïau neu derasau sy’n rhoi golygfeydd o’r bryniau neu’r dref.

Gwesty a Bwyty’r Falcondale, Llanbedr Pont Steffan

Mae Gwesty a Bwyty’r Falcondale yn fwyty ac yn blasty gwledig hudolus yng nghanol Dyffryn Teifi. A hwnnw wedi’i amgylchynu gan 14 erw o erddi tirlun a choetir, mae’n rhoi golygfeydd ysblennydd o gefn gwlad. At hynny, mae gan y bwyty ddwy o rosglymau’r AA. Mae’n cynnig prydau amheuthun sy’n amlygu’r gorau o gynnyrch Cymru, gan gynnwys cig oen, cig eidion, bwyd môr a chaws. Mae gan y rhestr winoedd ddewisiadau gwych o bob cwr o’r byd. Mae’r llety 4 seren, sy’n croesawu cŵn, yn gain ac yn cynnig ystafelloedd hyfryd sy’n rhoi golygfeydd o’r ardd neu o’r dyffryn.

Felin Fach Griffin, Aberhonddu

Mae Felin Fach Griffin yn llety perffaith i’r rheini sydd am grwydro golygfeydd ac atyniadau rhyfeddol y canolbarth. Mae’r bwyty clyd a braf hwn, sydd hefyd yn cynnig lle i aros, i’w ganfod ar odreon Bannau Brycheiniog. Mae’r bwyty wedi ennill gwobr Michelin Bib Gourmand. Mae’n cynnig prydau hyfryd a thymhorol sy’n dathlu cynnyrch lleol a chynnyrch organig ar ei orau. Mae’r llety en-suite yn gynnes ac yn groesawgar, ac mae radios Roberts a charthenni Cymreig yn yr ystafelloedd. Fin nos, gall gwesteion ymlacio gyda pheint o gwrw lleol yn y bar. Pan ddaw’r bore, bydd cyfle i fwynhau brecwast swmpus Cymreig.

byrddau mewn bwyty.
Asennau yn Felin Fach
bwyty a gwesty mewn cefn gwlad.

Felin Fach Griffin, Aberhonddu

Bwytai gyda llety yn y gorllewin

Plasty Trefloyne, Penalun

Mae Plasty Trefloyne yn fwyty cain a hanesyddol sydd hefyd yn cynnig llety ym mhentref glan môr Penalun, ger Dinbych-y-pysgod. Mae gan y bwyty fwydlen amrywiol a chreadigol sy’n cynnig prydau modern Ewropeaidd, a’r rheini’n defnyddio cynhwysion ffres a thymhorol o’r ardal leol. Mae’r prydau’n cael eu cyflwyno’n gelfydd, a’r rheini’n llawn blas, tra bo’r rhestr winoedd yn helaeth ac yn gytbwys. Mae’r llety’n croesawu cerddwyr a beicwyr, ac mae’r ystafelloedd yn foethus ac yn braf. Mae gan rai ystafelloedd falconïau neu derasau sy’n rhoi golygfeydd o’r cwrs golff neu o’r môr. Dyma leoliad perffaith i gychwyn crwydro Sir Benfro.

Plasty Crug-Glas, Solfach

Mae Plasty Crug-Glas yn fwyty prydferth sydd hefyd yn cynnig llety ym mhentref arfordirol hardd Solfach, ger Tyddewi. Mae’n lle rhamantus a heddychlon i aros yn y gorllewin. Mae’r bwyty, sydd â rhosglwm yr AA, yn cynnig y cynnyrch gorau o Gymru, fel cig oen, cig eidion a physgod. Mae’r llety en-suite yn gyfforddus tu hwnt, ac mae saith o ystafelloedd ar gael. Mae gan rai o’r ystafelloedd lefydd tân, soffas neu welyau pedwar postyn.

Bwytai gyda llety yn y de

1861 Restaurant with Rooms, Y Fenni

Mae 1861 Restaurant with Rooms yn fwyty cyfeillgar sydd yng ngofal teulu, a hwnnw hefyd yn cynnig llety ym mhentref Cross Ash, ger y Mynyddoedd Duon a’r Fenni. Mae’r bwyty, sydd â rhosglwm yr AA, yn gweini prydau tymhorol amheuthun gan gogydd profiadol. Mae’r llety 5 seren yn atyniadol tu hwnt, gydag ystafelloedd en-suite sydd wedi’u henwi ar ôl blodau. Mae ganddyn nhw welyau anferth a charthenni gwlân. Mae yma hefyd lolfa i’r gwesteion ymlacio ynddi. Mae gan yr ystafelloedd ymolchi i gyd faddonau a chawodydd, heblaw am ystafell hygyrch y Friallen, sydd ag ystafell wleb fawr.

Straeon cysylltiedig