Llefydd gwely a brecwast gyda golygfeydd yn y gogledd
Neuadd Coed Mawr, Conwy
Mae Neuadd Coed Mawr yng Nghonwy yn blasty hanesyddol sy’n dyddio yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg. A hwnnw’n sefyll yng nghanol prydferthwch Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r neuadd yn sefyll mewn llecyn uchel sy’n rhoi golygfeydd i gipio’r anadl o Ddyffryn Conwy, Castell Conwy, a’r môr. Gallwch hefyd edmygu’r golygfeydd o’ch ystafell wely, o’r ystafell haul, o’r teras, neu o’r arsyllfa. Mae 12 erw o goetir a gerddi yn amgylchynu’r neuadd, a’r rheini’n ferw o fywyd gwyllt a blodau. Mae’r lle gwely a brecwast 5 seren yma’n lleoliad perffaith i ymlacio a chefnu ar y byd am sbel.
Gwêl Yr Ynys, Pwllheli
Mae Gwêl Yr Ynys ym Mhwllheli ym Mhen Llŷn yn lle gwely a brecwast gyda dwy lofft sydd wedi ennill gwobr aur 5 seren. Mae’n rhoi rhai o’r golygfeydd gorau yn y gogledd-orllewin. Ffermdy modern ar fferm weithio yw’r llety hwn, gyda’r ystafelloedd gwely’n rhai helaeth a braf sy’n rhoi golygfeydd heb eu hail o Ben Llŷn, Eryri, yr arfordir, Ynys Môn ac Ynys Enlli. Ar foreau braf, cychwynnwch y dydd gyda brecwast ar y patio, neu fin nos, ymlaciwch drwy fwynhau barbeciw neu drwy glosio at y tân.
Taldraeth, Penrhyndeudraeth
Mae Taldraeth yn westy bach gyda dwy lofft sydd wedi ennill gwobr aur 5 seren. Mae i’w ganfod ym mherfeddion Parc Cenedlaethol Eryri. Gyda golygfeydd godidog o aber afon Dwyryd, mae’r gwesty bach hwn yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a brecwastau amheuthun. Mae gan y llofftydd braf ddodrefn hynafol, paentiadau o dirluniau lleol, a thecstiliau o Gymru fel ffabrig Laura Ashley a charthenni Cymreig. Hen ficerdy yw’r adeilad, a hwnnw gwta ddwy filltir o Bortmeirion. Mae’n fan canolog delfrydol i gerddwyr a seiclwyr sydd am brofi harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth.



Hen-Dy, Llandudno
Mae Hen-Dy yn lle gwely a brecwast 4 seren ar y promenâd yn Llandudno. Teulu sydd yng ngofal y llety hwn, ac mae golygfeydd godidog o’r ffenestri bae, o’r balconi, ac o’r ardd. Gallwch chi ddal car cebl neu dram i gopa Pen y Gogarth i gael golygfeydd mwy ysblennydd fyth.
1 Dolfor, Aberdaron
Llefydd gwely a brecwast gyda golygfeydd yn y canolbarth
Gwely a Brecwast Camden Lodge, Aberhonddu
O’i 5 ystafell wely, mae gwely a brecwast Camden Lodge yn rhoi golygfeydd dros y dref, dros gefn gwlad, a draw at Ben-y-Fan. Mae’i ffenestri llydan yn agor ar brydferthwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hefyd yn cynnig brecwast blasus ac egwyl heddychlon mewn lle tawel, funudau’n unig o dref Aberhonddu. Mae gan y Parc Cenedlaethol statws gwarchodfa awyr dywyll ryngwladol, sy’n golygu bod cyfle i syllu ar y sêr ar nosweithiau clir.
Y Glengower, Aberystwyth
Mae’r Glengower yn sefyll ar lan y môr yn Aberystwyth. A hwnnw’n cynnig ystafelloedd cyfforddus, bwydydd a diodydd danteithiol a gwasanaeth cyfeillgar, mae’r golygfeydd dros Fae Ceredigion hefyd yn benigamp. Ac mae’r teras haul yn lle perffaith i ymlacio a mwynhau bywyd mewn lleoliad hyfryd.

Llefydd gwely a brecwast gyda golygfeydd yn y gorllewin
Castell y Garn, Hwlffordd
A hwnnw’n sefyll ar ben craig uwchben tirlun anhygoel Sir Benfro, mae Castell y Garn yn lle moethus tu hwnt i aros ynddo. Ceir yma olygfeydd panoramig o gefn gwlad, yr arfordir a Bae Sant-y-Brid, ac mae’r castell o’r ddeuddegfed ganrif wedi’i adfer i’w hen ysblander. Mwynhewch brofiad brenhinol yn eich ystafell, neu ymlaciwch yn y lolfa, y llyfrgell neu’r ystafell haul. Mae’r lle gwely a brecwast hwn, sydd wedi ennill gwobr aur 5 seren, yn fan cychwyn gwych i weld atyniadau cyfagos fel Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Ynys Sgomer, a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.



Ael y Bryn, Eglwyswrw
A hwnnw’n rhoi golygfeydd panoramig ysblennydd o fryniau’r Preseli, mae Ael y Bryn yn lle braf a chyfoes i aros ynddo yng ngogledd Sir Benfro. Mae’r lle gwely a brecwast hwn yn sefyll mewn 14 erw o erddi a chaeau sy’n rhoi cyfleoedd gwych i fynd am dro neu i wylio bywyd gwyllt o’ch ystafell. Mae’r llety wedi ennill gwobr aur 5 seren Croeso Cymru, ac mae’n fan canolog gwych i grwydro’r ardal gyfagos, sy’n cynnwys traeth Mwnt, trefi lleol Trefdraeth ac Abergwaun, a Chastell Cilgerran.
Plas Llangoedmor, Llangoedmor, Aberteifi
Mae Plas Llangoedmor yng Ngheredigion yn lle gwely a brecwast moethus 5 seren ar gyrion Aberteifi, a hwnnw’n rhoi golygfeydd ysblennydd o’r afon, y goedwig gyfagos, a bryniau’r Preseli. Mae pob ystafell yn rhoi lle i enaid gael llonydd, ond ceir hefyd ystafelloedd cyffredin fel y lolfa, yr ystafell fwyta, a’r ystafell haul. A hwnnw’n dyddio yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, mae’r plasty’n llawn o hen bethau a gweithiau celf chwaethus. Mae’r ffaith ei fod yn agos at Raeadr Cenarth, Castell Aberteifi, a Chanolfan Natur Cymru yn gwneud y lle’n ddelfrydol i brofi’r dreftadaeth a’r harddwch naturiol lleol.
Maenordy’r Dref, Abergwaun
Mae Maenordy’r Dref yn lle gwely a brecwast 4 seren hudolus yng nghanol tref arfordirol Abergwaun yn Sir Benfro. O ystafelloedd môr neu deras gardd y tŷ Sioraidd hwn yn y dref, cewch fwynhau golygfeydd eang o’r môr, yr harbwr, y dref isaf, Bryniau’r Preseli, a chaer hanesyddol Abergwaun. Mae’n llety perffaith i’r rheini sydd am grwydro’r rhan hon o Sir Benfro.
Noyadd Trefawr, Ponthirwaun, Aberteifi
Mae Noyadd Trefawr, sydd ond yn daith fer mewn car o arfordir prydferth Ceredigion, yn blasty hanesyddol sy’n dyddio yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg. Gyda thair llofft foethus a brecwastau amheuthun, dyma lety gwledig heb ei ail. Mae ystafelloedd y gwesteion yn rhoi golygfeydd rhyfeddol o gefn gwlad a’r mynyddoedd, ac mae gardd brydferth a llyn y tu allan. Mae’r tŷ wedi’i adnewyddu a’i ddodrefnu â chyfleusterau modern, ond gwnaed hynny gan gadw’i hud a’i gymeriad gwreiddiol.
Llefydd gwely a brecwast gyda golygfeydd yn y de
Gwesty Llwyn Onn, Cwmtaf, ger Merthyr Tudful
Mae Gwesty Llwyn Onn yn lle hudolus a chlyd i aros ynddo ar ochr ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r llety 4 seren hwn yn edrych draw dros gronfa ddŵr Llwyn Onn, gyda golygfeydd ysblennydd o’r dŵr a’r bryniau. Mae’r ystafelloedd ffrynt yn edych dros y gerddi a’r llyn, tra bo’r rhai yn y cefn ac ar y llawr gwaelod yn edrych dros goetiroedd. Gyda llwybrau cerdded niferus gerllaw, mae’ch antur nesaf dafliad carreg i ffwrdd.
Gwesty Glan Afon Ffermdy Parva, Tyndyrn
Mae Gwesty Glan Afon Ffermdy Parva yn cynnig llety braf yn nhref Tyndyrn, sy’n croesawu cŵn. Mae’n rhoi golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwy, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. O foethusrwydd eich ystafell, gallwch fwynhau llonyddwch yr ardd a’r afon. Mae’n fan canolog perffaith i ymweld ag atyniadau cyfagos fel Abaty Tyndyrn a Chastell Cas-gwent.

