Cabanau a gwersylloedd glampio clyd yng Nghymru
Cytiau Bugail Tyddyn Ffrwd, Pen Llŷn yn y gogledd
Lle sy’n croesawu oedolion yn unig yw Cytiau Bugail Tyddyn Ffrwd, ac mae wedi ennill gwobrau niferus am ansawdd ei lety. Mae’r cytiau’n sefyll mewn dôl sy’n llawn blodau gwyllt, gyda llyn preifat gerllaw, ac mae’r golygfeydd yn hyfryd yma. Cabanau sipsi moethus, clyd yw Elen a Marared, gyda gwlâu dwbl cyfforddus, ystafell ymolchi en-suite, a llosgydd coed. Mae’r safle mewn lleoliad perffaith i grwydro Pen Llŷn a’r gogledd.
- Nodweddion: Twll tân, profiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw, gan gynnwys sinema breifat. Mae croeso i anifeiliaid anwes yn rhai o’r cabanau.
- Pethau i’w gwneud gerllaw: Mwynhewch deithiau cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru gyda digonedd o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt.
Glampio Dôl Swynol, ger Aberystwyth yn y canolbarth
Mae lle i 1-2 o bobl gysgu yn y caban bwtîg prydferth yn Nôl Swynol – caban sydd wedi’i adeiladu â llaw. A hwnnw’n sefyll mewn dôl sy’n llawn blodau gwyllt, mae digonedd o le yn y caban cyfforddus yma. Mae’n bosibl ymlacio a dadflino, neu gael gwyliau egnïol drwy grwydro’r ardal leol. Y tu mewn, mae llosgydd coed, ystafell ymolchi en-suite a chegin bwrpasol. Y tu allan, mae dec cysgodol gyda bwrdd a chadeiriau, ac ardal ac ynddi simenea yn y ddôl.
- Nodweddion: Baddon awyr agored, awyr dywyll, tafarn hyfryd o fewn pellter cerdded.
- Pethau i’w gwneud gerllaw: Ewch ar daith ar hyd Reilffordd Dyffryn Rheidol, neu ewch i dref Aberystwyth sydd â digonedd o siopau annibynnol a phromenâd Fictoraidd milltir o hyd.
Glampio Barlwyd, Blaenau Ffestiniog yn y gogledd
Fe gewch chi deithio yn eich bygi golff eich hun i gyrraedd cytiau bugail diarffordd Glampio Barlwyd. Dyma leoliad perffaith i unrhyw bâr sy’n awyddus i gefnu ar brysurdeb y byd am sbel. Mae’r cabanau cyfforddus hyn, sy’n sefyll ar rostir a hwnnw’n rhoi golygfeydd godidog dros Barc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig gwelyau anferth, llosgwyr coed, ac ystafelloedd en-suite.
- Nodweddion: Lle sy’n croesawu cŵn, awyr dywyll, sawna coed ar y safle, man gwych am lwybrau cerdded ac anturiaethau awyr agored.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Ewch am dro ar Reilffordd Ffestiniog, cwmni rheilffordd annibynnol hynaf y byd. Neu am brofiad go wahanol, ewch i Ogofâu Llechi ZipWorld yn Llechwedd, a mwynhau profiad cyffrous, gwefreiddiol ar wifren wib wrth i chi hedfan uwchben chwarel Llechwedd.
The Hiveaway, ger Llandysul yn y canolbarth
Mae gan The Hiveaway ddau o gabanau bwtîg sydd wedi’u hadeiladu â llaw, a’r rheini’n nythu mewn dôl sy’n llawn blodau gwyllt. Dyma’r lle perffaith am wyliau rhamantus neu wyliau bach i chi’ch hun. Mae gan bob caban ystafell ymolchi en-suite, gwlâu anferth, llosgydd coed, tyllau tân y tu allan gyda gril, a chegin.
- Nodweddion: Safle i oedolion yn unig, twb poeth sy’n cynhesu â thân coed, goleuadau solar, awyr dywyll.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Ewch i’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol i weld sut mae gwlân yn cael ei brosesu, o’r cnu i’r ffabrig. Rhowch gynnig ar nyddu eich hun, cyn mynd i edmygu’r cynhyrchion gwlân a’r carthenni Cymreig yn y siop.
Canvas & Campfires ym Mhant yr Hwch, ger Llanbedr Pont Steffan yn y canolbarth
Mae gan Canvas & Campfires brofiad glampio moethus i’w gynnig i barau, i deuluoedd neu i grwpiau o ffrindiau. Mae pump o bebyll saffari ar gael ar dir y tyddyn hwn, a phob un yn dal hyd at chwech o bobl. Mae gan y rhain wlâu cyfforddus, toiledau, ceginau, deciau, a thyllau tân. Mae twb poeth yn Seren sy’n cael ei gynhesu â choed tân. Ar y safle, gallwch chi wylio’r anifeiliaid fferm neu’r barcutiaid coch yn hedfan uwch eich pen.
- Nodweddion: Llety sy’n croesawu cŵn, ac yn hygyrch.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Mae’r gwersyll yn lle gwych i aros wrth grwydro prydferthwch Mynyddoedd Cambria, gyda nifer o safleoedd darganfod awyr dywyll lle gallwch chi syllu ar y sêr.
Wilder Retreats, Hwlffordd yn y gorllewin
A hwnnw’n sefyll ar gyrion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae’r chwe chaban ffrâm-A yn Wilder Retreats yn cyfuno moethusrwydd a chynaliadwyedd. Mae’r safle 24 acer yn llawn bywyd gwyllt o bob math, gyda dolydd blodau gwyllt a choetiroedd yn amgylchynu’r cabanau. Mae gan bob caban, sydd â lle i ddau, ffenestri anferth sy’n wynebu’r gorllewin, gwlâu anferth, ystafelloedd ymolchi moethus, cegin, llosgwyr coed a hyd yn oed system sy’n hidlo aer.
- Nodweddion: Oedolion yn unig, rhaid aros dwy noson, tybiau poeth yn yr awyr agored sy’n cael eu cynhesu â thân coed, bywyd gwyllt a gwylio adar.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Mae nifer o draethau hyfryd gerllaw, sy’n llefydd poblogaidd i wneud chwaraeon dŵr, i gerdded ac i fynd am dro. Mewn cwta hanner awr, fe fyddwch chi yn nhref glan môr hudolus Dinbych-y-pysgod neu yn ninas hanesyddol Tyddewi.
Tafarndai a gwestai clyd yng Nghymru
Bar Bwyd Llety Cross Foxes , ger Dolgellau yn y gogledd
Ar ochr yr A470 ger Dolgellau, mae Bar Bwyd Llety Cross Foxes yn cynnig llety a chyfle i ymlacio mewn ardal hyfryd. Mae gan y dafarn draddodiadol chwech ystafell foethus, ac mae hi’n gweini bwyd lleol, tymhorol gan gynnwys cinio Sul traddodiadol. Os hoffech chi rywbeth gwir arbennig, yr ystafelloedd ar y llawr uchaf amdani. Gyda lolfa ar wahân, cyfleusterau moethus a golygfeydd heb eu hail, dyma’r lle perffaith i gael gwyliau bach cysurus.
- Nodweddion: Lleoliad gwych i wneud gweithgareddau awyr agored ac ymweld ag atyniadau yn yr ardal, gan gynnwys cerdded, beicio mynydd a golffio.
- Pethau i’w gwneud gerllaw: Beth am fagu archwaeth drwy ddringo Cader (neu Gadair) Idris? Neu am dro mwy hamddenol, ewch i fwynhau pleserau Dolgellau, tref farchnad sy’n llawn o siopau annibynnol, caffis a thafarndai.
Yr Hand yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog yn y gogledd
Mae gan yr Hand yn Llanarmon bopeth y byddech chi’n ei ddisgwyl gan dafarn glyd yng nghefn gwlad. Ymhlith y nodweddion traddodiadol mae estyll pren, llefydd tân, bwyd penigamp ac awyrgylch cartrefol. Mae’r ystafelloedd gwlâu yn fodern ac yn odidog.
- Nodweddion: Sba gyda sawna arbennig a thwb poeth yn yr awyr agored, bwyd o wir safon yn y bwyty.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Ar garreg y drws mae prydferthwch Dyffryn Ceiriog, ac mae’r Waun a Llangollen hefyd gerllaw, lle mae digonedd o weithgareddau awyr agored ac atyniadau dan do i’w cael.
Llys Meddyg, Trefdraeth yn y gorllewin
Tŷ tref Sioraidd cain yw Llys Meddyg a hwnnw wedi’i droi’n westy moethus gyda bwyty llwyddiannus dros ben. Mae yma wyth ystafell odidog, a sawl un yn rhoi golygfeydd gwych dros gefn gwlad, soffas i swatio arnyn nhw, a baddonau dwfn sy’n berffaith i ymlacio. Mae’r bwyty diddos yn arbenigo mewn bwydlenni sy’n defnyddio cynnyrch cartref a chynnyrch lleol tymhorol.
- Nodweddion: Croeso i deuluoedd a chŵn, gweithiau celf lleol ar y waliau.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Mae Trefdraeth yn bentref arfordirol prydferth tu hwnt lle cewch chi ddigonedd o orielau, siopau annibynnol a chaffis. Mae porthladd pysgota bach a thraeth i’w grwydro, ac mae’n lle delfrydol i ymlacio a mwynhau’r tymor.
Bythynnod hunanarlwyo clyd yng Nghymru
The Old Stables, Penfro yn y gorllewin
Bwthyn hunanarlwyo moethus ar gyrion Penfro yw The Old Stables, gyda rhai nodweddion unigryw, digon anghyffredin. Yn eu plith nhw mae lle i ymlacio mewn hamog! Mae lle i hyd at wyth o bobl gysgu yn y bwthyn cysurus hwn, gyda dwy ystafell ddwbl ac ystafell wely i deulu. Mae gan y llofft ar y llawr gwaelod ystafell wleb hygyrch sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
- Nodweddion: Croeso i gŵn, cyfleusterau coginio a bwyta rhagorol yn yr awyr agored, a baddon bendigedig.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Ewch i fwynhau’r diwylliant a’r dreftadaeth leol drwy ymweld â chastell Penfro a murluniau ac Amgueddfa Penfro.
Yr Hen Swyddfa, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, Beddgelert yn y gogledd
Bwthyn hunanarlwyo clyd ger Beddgelert yw’r Hen Swyddfa. Mae yno ddwy ystafell wely (gyda lle i 4 gysgu) ac mae’n addas i deuluoedd a ffrindiau sy’n chwilio am wyliau bach. A hwnnw’n rhan o res o fythynnod cerrig mewn hen floc stablau, mae’r llety mewn lle gwych i fwynhau gweithgareddau awyr agored Eryri.
- Nodweddion: Ystafell ymolchi en-suite yn y ddwy lofft, croeso i anifeiliaid anwes, llwybrau cerdded drwy gefn gwlad ar garreg y drws, WiFi ond dim signal ffôn symudol.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Ewch i glywed stori’r ci ffyddlon a roddodd i bentref Beddgelert ei enw. Ac ewch am dro ar Reilffordd Eryri sy’n cyrraedd Caernarfon ar arfordir y gogledd a Phorthmadog yn y gorllewin.
Byre 2, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ystagbwll yn y gorllewin
A hwnnw’n rhoi golygfeydd anhygoel o’r môr, bwthyn unllawr cysurus yw Byre 2 gyda dwy ystafell wely. Mae yno bopeth sydd ei angen arnoch chi i gael egwyl heddychlon. Ar ôl diwrnod yn crwydro prydferthwch Llwybr Arfordir Cymru neu’r traeth hyfryd ar garreg eich drws, ewch i swatio o flaen y llosgydd coed.
- Nodweddion: Gardd sy’n cael ei rhannu, a honno’n arwain at draeth diarffordd.
- Pethau i’w gwneud gerllaw: Ewch am dro i Warchodfa Natur Ystagbwll, i Byllau Lili Bosherston ac i Fae Barafundle.
Flyfisher's Cottage, Corwen yn y gogledd
Gyda dec preifat a thwb poeth yn edrych i lawr ar afon Dyfrdwy, mae’r Flyfisher's Cottage yn fwthyn sydd wedi ennill gwobrau a hwnnw’n sefyll mewn lle hyfryd i gael hoe hydrefol. Yn rhan o ystad wyliau fechan, mae lle i hyd at chwech o bobl gysgu yn y tyddyn clyd. Mae yma losgydd coed, system sain wych, a soffas cyfforddus tu hwnt. Mae digonedd i’w weld yn yr ardal hefyd.
- Nodweddion: Croeso i gŵn, gwefrwyr cerbydau trydan ar y safle, ystafell gemau yn cael ei rhannu ar y safle.
Pethau i’w gwneud gerllaw: Yn nhrefi Bala a Llangollen, mae cyfleoedd i wneud chwaraeon dŵr, siopau annibynnol, caffis, a llwybrau cerdded hyfryd drwy gefn gwlad.