Gwymon a golygfeydd yn Halen Môn

Ewch i ymdrochi yn y baddonau gwymon gwyllt unigryw yn Halen Môn. Fan hyn, maen nhw’n mwydo gwymon mewn dŵr cynnes, cyn rhoi’r hylif mwynol mewn hen gasgenni wisgi. Cewch chithau wedyn ymlacio yn y casgenni mewn ffordd dra gwahanol i’r sba traddodiadol. Mae’r dŵr pur, sy’n un o sgil-gynhyrchion proses gynaeafu Halen Môn, yn cryfhau’r effeithiau dadwenwyno, tra bo’r golygfeydd ysblennydd dros afon Menai yn gefnlen heb ei hail.

Casgen dderw yn llawn dŵr gyda dwylo yn y dŵr yn dal gwymon
Roedd dau berson yn eistedd mewn casgenni derw wedi'u llenwi â dŵr a gwymon yn edrych allan ar draws cae gwyrdd gyda darn o ddŵr yn y pellter y tu hwnt.

Baddonau Gwymon Gwyllt, Halen Môn, Ynys Môn.

Sawnas hynod ar y traeth

Mae traethau Cymru wedi dod yn fwy atyniadol drwy’r flwyddyn gron ers i sawnas ddechrau ymddangos ar draethau ledled y wlad. Yn eu plith nhw mae Tŷ Sauna ar draeth hyfryd Bae Oxwich, Sawna Bach ym Mhorth Tyn Tywyn, Ynys Môn, Wildwater Sauna yn Nolton Haven, Logi Saunas yn Sir Benfro, a Willow Springs yn Nyffryn Afan. A’r peth gwych yw bod modd camu i’r sawnas hyn i gynhesu’n gyflym ar ôl ymdrochi yn y môr oer.

Dyn a menyw yn sawna yn edrych allan i'r traeth.
Sawna cludadwy ar y traeth.

Tŷ Sawna, Bae Oxwich, Gŵyr, Gorllewin Cymru

Syllu’n syfrdan ar y sêr

Cymru yw un o’r llefydd gorau yn y byd yn grwn i syllu ar y sêr. Mae gennyn ni dri safle Awyr Dwyll Rhyngwladol, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri ac Ystad Cwm Elan. Ynys Enlli oedd y safle cyntaf yn Ewrop i gael ei ardystio ac i ennill statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol. O ran canran, mae gan Gymru fwy o dir Awyr Dywyll na’r un wlad arall drwy’r byd. Dyma felly un o’r llefydd gorau ar y ddaear i fwynhau golygfeydd clir, heb lygredd, o filoedd o sêr, comedau a galaethau. Dewch i ddarganfod y profiadau gorau sy’n rhoi cyfle i syllu ar y sêr yng Nghymru.

Llwybrau sêr uwchben argae.

Llwybrau’r sêr uwchben argae Garreg Ddu, Cwm Elan, Canolbarth Cymru.

Hedfan y tonnau

Profiad FoilRide cwmni RibRide oedd ysgol e-ffoil gyntaf y Deyrnas Unedig, a honno’n rhoi cyfle i bobl ddysgu crefft unigryw e-ffoilio. Fe gewch chi hofran uwch dyfroedd Afon Menai ar fwrdd syrffio trydan, a hwnnw’n cael ei yrru gan adain hydroffoil. Mae’r antur hon, sydd bron yn gwbl dawel ac yn llesol i’r amgylchedd, yn gyfle i hedfan dros y dŵr, ac mae’n ffordd hynod o gyffrous ac unigryw o fwynhau prydferthwch y gogledd.

Profiad FoilRide cwmni RibRide, Ynys Môn, Gogledd Cymru.

Tŷ bach twt yng Nghonwy

Hawdd iawn fyddai peidio â sylwi ar dŷ lleiaf Prydain Fawr, Tŷ'r Cei, sy’n sefyll ar lannau’r dŵr yn nhref brydferth Conwy. Dim ond 72 modfedd yw lled y tŷ bychan hwn, sydd wedi’i baentio’n goch. Roedd yn gartref go iawn i bobl ar un adeg, ond mae bellach yn atyniad i dwristiaid sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd.

Y tu allan i'r tŷ bach wedi'i baentio'n goch.
Y tu mewn i adeilad bach

Tŷ Lleiaf Prydain Fawr, Conwy

Ysbrydoliaeth Eidalaidd

Wrth grwydro strydoedd cobls ac adeiladau lliwgar Portmeirion, byddai rhywun yn maddau i chi am feddwl eich bod chi ar Rifiera’r Eidal yn hytrach nag mewn pentref yng ngogledd Cymru. Yn rhyfeddod pensaernïol Syr Clough Williams-Ellis, fe ddewch chi ar draws gwestai a bythynnod trawiadol, ynghyd a bwytai a siopau o fri, a’r cyfan mewn gerddi isdrofannol bendigedig. Does unman tebyg yn y byd – a does dim syndod chwaith bod y lleoliad gwefreiddiol hwn wedi ymddangos ar gynyrchiadau ffilm a theledu rif y gwlith.

Golygfa o'r awyr o bentref Eidalaidd.

Pentref Portmeirion, Gogledd Cymru

Rhyfeddodau Llwybr Arfordir Cymru

Mae llwybr arfordir Cymru, sy’n ymestyn am 870 milltir, yn unigryw ynddo’i hun. Mae hynny heb sôn am y trysorau niferus sy’n britho’r daith, fel Capel Sant Gofan, capel bychan o’r oesoedd canol sy’n nythu yn y clogwyni ar arfordir Penfro. Mae modd cyrraedd y capel drwy risiau cerrig serth, ac mae’n rhoi golygfeydd ysblennydd o’r môr a’r dirwedd gyfagos.

Capel bychan, carreg ar lan clogwyn.
Capel bychan, carreg ar lan clogwyn.

Capel Sant Gofan, Sir Benfro, Gorllewin Cymru.

Gavin, Stacey a’r Barri

Yng Nghymru – ac yn fwy penodol, yn y Barri – fe gaiff cefnogwyr y gyfres deledu boblogaidd 'Gavin and Stacey' fodd i fyw. A hynny drwy fynd ar daith swyddogol Gavin and Stacey o amgylch y dref glan môr lle ffilmiwyd y rhan fwyaf o’r sioe. Neidiwch ar fws gwreiddiol Dave’s Coaches i weld rhai o leoliadau eiconig y gyfres, fel tŷ Gwen, yr arcêd, yr eglwys, a’r garafán lle’r oedd Nessa a Dave yn byw.

Exterior of Marco's Coffee shop, Barry Island.

Siop goffi Marco’s, Ynys y Barri, De Cymru

Llyfrgell heb ei thebyg

Ar arfordir y gogledd-ddwyrain ym Mhenarlâg fe ddewch chi ar draws Llyfrgell Gladstone – llyfrgell hynod drawiadol a’r unig un yn y Deyrnas Unedig sydd hefyd yn cynnig llety. Y gwladweinydd a’r cyn-Brif Weinidog, William Gladstone, a greodd y llyfrgell hon, lle mae’i gasgliad personol o dros 250,000 o lyfrau, ynghyd â llawysgrifau, llythyrau ac arteffactau’n ymwneud â’i fywyd a’i waith. Yn fwy na hynny, gallwch chi hyd yn oed dreulio’r noson yn un o’r 26 ystafell gyfforddus. Prin yw’r bobl sy’n gallu honni iddyn nhw gysgu’r nos mewn lle mor ddylanwadol ac ysbrydoledig.

Golygfa fewnol o'r llyfrgell gyda nenfwd uchel a silffoedd pren a phobl yn eistedd wrth ddesgiau ar y llawr gwaelod

Llyfrgell Gladstone, Sir y Fflint, Gogledd Cymru.

Gwely yn y gwaelodion

Ydych chi’n dyheu am noson o gwsg heb ei thebyg? Gallai’ch breuddwydion ddod yn wir yn Deep Sleep, y llety dyfnaf yn y byd yn grwn! A’r rheini yn rhan ryfeddol o anturiaethau dan y ddaear Go Below, mae’r cabanau clyd a’r ogof fach ramantus wedi’u lleoli 1,375 o droedfeddi o dan fynyddoedd Eryri, yng nghrombil hen chwarel lechi Fictoriaidd. Dyma brofiad cwbl wahanol ac unigryw.

Magu stêm i’r copa ar Reilffordd yr Wyddfa

Dim ond yng Nghymru y gallwch chi fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o gopa ein mynydd uchaf, yr Wyddfa, a hynny heb orfod ymlafnio’n gorfforol i gyrraedd yno. Mae modd cyrraedd copa’r Wyddfa o bentref Llanberis ar drên. Neidiwch ar un o drenau Rheilffordd yr Wyddfa i gael siwrnai heb ei thebyg.

Y cerbyd Lili’r Wyddfa yn teithio i fyny Rheilffordd yr Wyddfa.

Un o drenau Rheilffordd yr Wyddfa yn dringo’r mynydd, Gogledd Cymru

Enw da (a hir iawn)

Nepell o ysblander Pont Menai a glannau afon Menai ar Ynys Môn y mae pentref bach sydd ag enw mawr. Dyma gartref yr enw lle hiraf yn Ewrop, a’r ail hiraf yn y byd i gyd sy’n defnyddio un gair yn unig. Yn wir, mae Llanfair­pwllgwyngyll­gogery­chwyrn­drobwll­llan­tysilio­gogo­goch yn rheswm arall dros roi Cymru ar y map rhyngwladol! Mae’n rhaid cael hunlun wrth yr arwydd uwchben y siop yng nghanol y pentref neu yn yr orsaf drenau. Cofiwch sefyll yn ddigon pell er mwyn ffitio pob un o’r 58 llythyren yn y ffrâm. A chofiwch hefyd fynd i’r siop i gael stamp yn eich pasbort!

Arwydd Cymraeg yn dweud Llanfairpwllgwyngyll
Arwydd ar orsaf reilffordd sy'n dangos yr enw hiraf 58 cymeriad.

Llanfair­pwllgwyngyll­gogery­chwyrn­drobwll­llan­tysilio­gogo­goch, Ynys Môn, Gogledd Cymru.

Llareggub go iawn Dylan Thomas?

Roedd Dylan Thomas, un o feirdd enwocaf Cymru, yn ŵr go anghyffredin. Ac mae ymweliad â’i gyn-gartref, y Tŷ Cwch, a’i sied ysgrifennu yn Lacharn ar lannau aber afon Taf yn brofiad gwefreiddiol. Tref fach brydferth yn Sir Gâr yw Lacharn, ac yn ôl y sôn, dyma leoliad rhai o weithiau enwocaf y bardd, fel Under Milk Wood a Poem in October. Mae’r teipysgrifau gwreiddiol a mân drugareddau i’w gweld yn ei hen gartref a’i sied ysgrifennu. I gael y profiad cyflawn, ewch am dro ar hyd Llwybr Dylan, sy’n pasio Castell Lacharn, y Tŷ Cwch, ei sied ysgrifennu, a’i fedd yn Eglwys Sant Martin.

Tŷ gwyn a gardd yn edrych dros y môr
Sied ysgrifennu yn edrych allan dros aber.

Tŷ Cwch a sied ysgrifennu Dylan Thomas, Lacharn, Gorllewin Cymru.

Yr ardd sy’n wydr i gyd

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw cartref tŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd, ac mae yno gasgliad o dros 8,000 o rywogaethau planhigion o chwe chyfandir gwahanol, gan gynnwys planhigion prin a phlanhigion sydd mewn perygl o ddiflannu. Mae’r ardd fotaneg yn lle addysgol a chadwraethol, a chewch ddarganfod am amrywiaeth a phrydferthwch planhigion a’u pwysigrwydd i les pobl.

Golygfa o'r awyr o ardd, gyda gromen enfawr, gerddi a llwybrau strwythuredig.
Blodau a phlanhigion lliwgar o dan do cromen gwydr

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gâr, Gorllewin Cymru.

Hen draddodiad y Fari Lwyd

Os ymwelwch chi â rhai rhannau o Gymru dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, efallai y dewch chi ar draws y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl gyda llygaid poteli gwydr. Bydd hwnnw wedi’i addurno a rhubanau, clychau a chlogyn gwyn hir. Dyma draddodiad Cymreig sy’n dyddio yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i griwiau dywys y Fari o amgylch pentrefi rhwng diwrnod Nadolig a Nos Ystwyll. Pan fydd criw yn cyrraedd tŷ, byddan nhw’n canu caneuon Cymraeg i gael mynd i mewn, neu’n cymryd rhan mewn ymryson odli gyda’r trigolion. A hithau’n ganol gaeaf noethlwm, cadwch lygad felly am y Fari frawychus! 

Mae’r Fari Lwyd yn hen draddodiad yn Ne Cymru yn ystod tymor y Nadolig.

Straeon cysylltiedig