Ar y tudalennau hyn fe welwch wybodaeth i godi'ch archwaeth a'ch helpu i greu cynnwys anhygoel.
Sut allwn ni helpu?
Mae gennym lawer o syniadau am straeon a chynnwys arbennig i hyrwyddo Cymru i Gymry. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad gydag amrywiol fusnesau ac atyniadau ar draws y wlad i drefnu ffilmio, ffotograffiaeth neu deithiau. Gallwn roi cyngor ar bwy all roi'r trwyddedau ffilmio perthnasol , a'r llefydd gorau ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth.
Os ydych yn chwilio am luniau neu fideo o ansawdd uchel ewch i'n llyfrgell ar gyfer y wasg a'r cyfryngau.
Cysylltwch â ni i weld os allwn ni fod o gymorth i chi.
Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru (er enghraifft datganiadau, ffigyrau twristiaeth, sylwadau Gweinidogol ac ati) cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Llywodraeth Cymru.
Ffotograffiaeth a Fideo Ffotograffiaeth
Mae gennym lyfrgell o dros 30,000 o luniau o Gymru ar-lein, a chatalog o glipiau ffilm o ansawdd uchel, HD o leoliadau ar draws Cymru i’w defnyddio fel B-roll, gan gynnwys ffilmiau o’r ddaear ac o’r awyr yn defnyddio drôn a hofrennydd. Mae rhain ar gael am ddim i’w defnyddio at bwrpas heb fod yn fasnachol.
Gallwch gofrestru i gael mynediad i chwilio a lawrlwytho lluniau ar ein llyfrgell o asedau.
I gael gafael ar ein catalog o ffilmiau B-roll cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni Cysylltwch