Neidio i’r prif gynnwys
Golygfa o'r awyr o gastell Biwmares, Ynys Môn

Castell Biwmaris, Ynys Môn

Ymchwil

Mae Cymru yn rhan nodedig o’r DU. Gyda’i gymeriad, ei ddiwylliant a’i ffordd o fyw ei hun – miloedd o flynyddoedd ar y gweill, ac yn esblygu’n barhaus.

Am Gymru

Wales.com yw prif wefan hyrwyddo Cymru i’r byd. Mae Cymru yn lle gwych i fyw, astudio, gweithio a gwneud busnes ac mae gwefan Wales.com a’r cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig yn dangos i’r byd yr hyn agallwn ei gynnig. 

Mae VisitWales.com yn wefan Saesneg rhyngwladol sydd wedi’i hanelu at amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd byd-eang sy’n siarad Saesneg. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Visit Wales, y tîm o fewn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r economi ymwelwyr yng Nghymru.

Ein prif nod yw annog pobl i ddod ar eu gwyliau yma oherwydd mae Cymru yn wych! Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth a chefnogi’r diwydiant gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru. Mae Cymru’n cynnig antur o’r radd flaenaf, diwylliant creadigol ac iaith a thirweddau gwarchodedig eithriadol – ac lle sydd eisiau gofalu amdanynt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwefan ar gyfer cynulleidfa sy’n siarad Cymraeg ydi Croeso.Cymru a mae fersiwn o Visit Wales hefyd ar gael yn Almaeneg VisitWales.com/de. Mae pob gwefan wedi’i pharatoi’n benodol i fodloni anghenion y cynulleidfaoedd gwahanol hyn.

Ymchwil a ffigurau

Mae ymchwil sy'n cael ei wneud gan dîm Croeso Cymru yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych gais am ymchwil penodol cysylltwch â ni a fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Zip World, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru

Brand ac ymgyrchoedd

Nod ein hymgyrchoedd marchnata yw i adeiladu ac ehangu ar ein brand, sydd wedi hen ennill ei blwyf ac yn cael ei gefnogi gan y diwydiant twristiaeth ledled Cymru.

Mae’r brand wedi’i wreiddio yn y cysyniad ‘Bro a Byd’ – hynny yw ein bod yn gallu rhagori yng Nghymru pan fydd y lleol yn cwrdd â’r byd-eang mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys, yn greadigol ac yn fyw.

Mae strategaeth y brand yn glir, yn fyr ac yn syml ac yn canolbwyntio ar y pum amcan craidd canlynol. Dylai ein brand a’r holl weithgareddau cysylltiedig geisio:

  • Codi ein statws
  • Syfrdanu ac Ysbrydoli 
  • Newid canfyddiadau
  • Gwneud pethau da
  • Bod yn gwbl Gymreig.

Mae rhagor o wybodaeth am y brand ar gael ar safle Brand Cymru.

Argae yng Nghwm Elan, Powys

Cwm Elan, Powys

Cymru arobryn

Mae Cymru yn aml yn cael ei henwi ar y rhestrau uchaf o leoedd i ymweld â nhw ac wedi ennill sawl gwobrau cyrchfan.