Am y tro cyntaf ers 1988, mae Eisteddfod yr Urdd ar ei ffordd i Faldwyn. Rhwng 27 Mai – 1 Mehefin bydd miloedd o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu ar lwyfan y pafiliwn, yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol fel celf a dylunio, trin gwallt a harddwch, stand-yp a choginio.

Tu hwnt i’r cystadlu bydd gwledd o stondinau ar hyd y maes yn cynnig crefftau, cynnyrch a bwydydd Cymreig. Bydd Gŵyl Triban yn cloi’r ŵyl gyda llu o fandiau, artistiaid a chomedïwyr. Ymysg yr enwau mae Bwncath, Eden, Gwilym, Dom a Lloyd a HMS Morris

Eisteddfod yr Urdd

O’r Maes i Meifod

Mae’r Maes wedi ei leoli ar gaeau fferm Mathrafal, Meifod. Cewch hyd i bentref bychan Meifod ar hyd y B4389 sy’n dilyn cwrs yr Afon Efyrnwy. Mae Dyffryn Meifod yng nghanol Sir Drefaldwyn, gyda Llanfair Caereinion i’r de orllewin a’r Trallwng i’r de-ddwyrain.

Mae’r eglwys yn rhan bwysig o’r pentref. Dywedir i’r eglwys gynharaf gael ei hadeiladu gan Sant Gwyddfarch tua c.500. Daeth Meifod yn ganolfan bwysig, ac un o’i disgyblion enwocaf oedd Sant Tysilio, oedd yn fab i Brochwel Ysgithrog, Tywysog Powys.

Os ydych yn aros ar faes yr Eisteddfod eleni ewch am dro i’r siop leol ym Meifod, sy’n Swyddfa Bost hefyd. Yma gallwch lenwi eich carafán gydag amrywiaeth eang o gynnyrch lleol. Hefyd dafliad carreg o’r maes mae Llaeth y Bont, sy’n gwerthu llaeth ffres o Fferm Newbridge a gwahanol flasau o ysgytlaeth. Dychwelwch ym mis Hydref er mwyn pigo eich pwmpen eich hun ar gyfer dathlu Calan Gaeaf!

Gwledda ar y gororau

Wrth deithio am yr Eisteddfod ar hyd yr A458 o Fallwyd, byddwch yn dod ar draws Caffi Dyffryn a Chaffi Cwpan Pinc ar eich ffordd. Mae’r ddau ar agor yn ddyddiol ac yn gweini prydau ysgafn a phoeth, gyda byrddau i eistedd tu allan mewn tywydd braf.

Gerllaw yn ardal Llansanffraid ym Mechain mae The Sun Hotel yn gweini prydau cartref gwych, a draw yn Llanfechain ym Mhlas yn Dinas gallwch fwynhau noson bitsa bob nos Fawrth, yn ogystal â’i bwydlen lawn weddill yr wythnos.

Draw yn Y Trallwng gallwch ymlacio a mwynhau bwyd blasus yn The Royal Oak Hotel a’r Raven Inn - bwydlenni llawn cynnyrch lleol sy’n cael eu diweddaru’n aml.

Am fwyd safonol mewn awyrgylch anffurfiol archebwch fwrdd yn The Checkers, Trefaldwyn – tŷ bwyta pum seren sy’n gweini bwydlen gwerth chweil yn llawn cynnyrch lleol.

Ond os am fwynhau golygfa gyda’ch pryd o fwyd mae’n anodd curo tamaid o tapas yng ngwesty’r Lake Vyrnwy ar lan llyn Efyrnwy.

Tu allan i westy adeilad du a gwyn. Mae planhigyn gyda dail coch ym mlaen y llun.
Pryd o fwyd tapas ar fyrddau pren. Mae golygfa o lyn i'w weld trwy'r ffenestr.
Person yn gwisgo siaced denim yn dal gwydr o win ac yn edrych allan ar lyn hardd.

Gwesty Llyn Efyrnwy

Torri syched

Mae gwledd o dafarndai yn yr ardal, gan gynnwys y dafarn adnabyddus y King’s Head sydd o fewn tafliad carreg i’r maes, a gafodd ei hadeiladu yn 1799 ar gyfer Dr Davies o Lanfyllin. Erbyn heddiw tafarn gartrefol sydd yma sy’n gweini bwyd cartref – sydd hefyd yn cynnal gigs a digwyddiadau drwy’r flwyddyn. 

Tair tafarn sydd erbyn hyn yn Llanfair Caereinion - The Red LionThe Black Lion a'r Goat. Ond dros 100 ’mlynedd yn ôl roedd gan y pentref 16 o dafarndai, a phob tafarnwr yn bragu cwrw eu hunain gyda chefnogaeth tri bragdu mawr oedd wedi eu lleoli ar Stryd Wesley, Ffordd Mount a Poplars. Roedd y cwrw hefyd yn cael ei gyflenwi i drefi Dolgellau a Machynlleth.

Codi stêm

Mae’n werth mentro o’r maes am dro i Lanfair Caereinion, i gael modd i fyw ar drên stêm sy’n teithio taith 16 milltir ddwyffordd drwy gefn gwlad canolbarth Cymru. Agorwyd trên bach Llanfair a Trallwng yn 1903 i gysylltu tref farchnad Y Trallwng â chymuned wledig Llanfair Caereinion. Ar ddiwedd (neu ddechrau) eich taith gallwch ymweld â’r siop a chael pryd ysgafn yn yr Ystafell De yn yr orsaf yn Llanfair. Yna ewch i’r Ganolfan Ymwelwyr i ddysgu mwy am hanes a chysylltiadau’r rheilffordd.

Trên stêm gwyrdd, du a coch.
Arwydd mewn gorsaf drên 'Llanfair Caereinion'

Trên bach Llanfair a Trallwng

O gastell i gastell... i gastell!

Mae’r ardal arbennig hon wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru, ac mae olion hynny i’w gweld ar hyd a lled y sir.

Mae’r unig dri chastell sy’n dal i sefyll yn y sir oll o fewn 15 milltir i’w gilydd. O Gastell Powis, adeiladwyd yn wreiddiol gan Gruffydd ap Gwenwynwyn yn y 13eg ganrif, sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i olion cestyll Trefaldwyn a Dolforwyn.

Hefyd o fewn y sir mae un o safleoedd hanesyddol mwyaf nodedig ein gwlad, olion cyn-lys Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr, yn Sycharth. Yma gallwch fwynhau picnic ar ben y mwnt ac edmygu golygfeydd o’r ardal.

Adfeilion castell ac awyr las yn y cefndir.
Castell a Gardd Powis.

Castell Trefaldwyn a Chastell Powis

I gael blas o hanes mwy diweddar, mae’n werth ymweld â stad trawiadol Gregynog, sy’n un o drysorau Cymru ac yn enwog fel cyn-gartref y chwiorydd Davies, y casglwyr celf wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i hanes celfyddyd yng Nghymru. Ym 1920, fe brynodd Gwendoline Davies a Margaret Davies, wyresau i David Davies, Neuadd Gregynog gyda’r bwriad o greu cymuned gelf a chrefft yno. Daeth yn gartref i Wasg Gregynog, ac erbyn hyn mae’n ffynnu fel canolfan gerdd a chynadledda. Mae’r gerddi, llwybrau a gwarchodfa natur yn werth eu gweld. 

Plasty crand du a gwyn a gerddi o'i flaen.

Neuadd Gregynog

Cig da a siopa difyr

Wrth grwydro’r ardal rydych yn siŵr o ddod ar draws nifer o siopau annibynnol yn gwerthu cynnyrch lleol o safon.

Hawdd yw gweld pwysigrwydd amaethyddiaeth yn yr ardal, ac mae’n debyg felly nad yw’n syndod bod sawl cigydd safonol i’w canfod yma. Os yn Llanfair Caereinion, tarwch mewn i’r siop fwtchar lleol i weld Richard Williams yn ‘Pandy Butchers’, sydd ag amrywiaeth eang o gigoedd lleol ac yn paratoi prydau parod blasus o bob math.

Yn nhref marchnad Llanfyllin cewch siopau annibynnol, yn ogystal â chynnyrch lleol safonol gan y cigydd Peter Tomlinson, ac mae’r dref brydferth Trefaldwyn yn llawn siopau bach difyr, o siop lyfrau i siop flodau, deli Castle Kitchen a marchnad yn gwerthu cig, pysgod a llysiau lleol.

Yn Y Trallwng dewch ar draws ‘The Old Station’- cafodd yr orsaf ei agor yn 1860 i gysylltu Aberystwyth a Whitchurch ar hyd lein Rheilffordd Cambrian. Galwodd y trenau olaf yn yr orsaf wreiddiol yn 1992. Heddiw siop a chaffi sydd yma - mae dewis eang iawn o nwyddau i’w brynu!

Ar y stryd fawr mae siop Celtic Company yn gwerthu llu o anrhegion a chardiau achlysuron arbennig, The Little Welsh Bakery yn gweini cacennau a bara ffres ac Alexanders sy’n gwerthu offer coginio, campio a nwyddau tŷ - mae tipyn o bopeth yma!

 

Hen adeilad brics coch a choeden o'i flaen.

Y Trallwng 

Golygfeydd godidog

Does dim prinder teithiau cerdded a thirluniau trawiadol ym mro’r Eisteddfod eleni. Beth am fwynhau taith gerdded i Bistyll Rhiwargor, taith feicio hamddenol, neu fwynhau byd natur ar ei gorau ar lan llyn Efyrnwy (neu lyn Llanwddyn i drigolion lleol)? 

Mewn rhigwm Saesneg a ysgrifennwyd tua diwedd y ddeunawfed ganrif mae Pistyll Rhaeadr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn cael ei adnabod fel un o Saith Rhyfeddod Cymru – ac hawdd yw gweld pam! Mae caffi bach wrth droed y rhaeadr serth ble gellir mwynhau golygfa werth chweil – ac er bod teithiau cerdded di-ri yn arwain oddi yma, os yw’r traed yn brifo wedi dyddiau o grwydro’r maes yna na phoener – mae golygfa odidog i’w gweld dafliad carreg o’r maes parcio!

Rhaeadr a gwyrddni o'i chwmpas.
Llyn a bryniau yn y cefndir. Mae adeilad cronfa ddŵr ar y dde, a chwch bach glas gyda dau berson ynddi.

Pistyll Rhaeadr a Llyn Efyrnwy

Mae’r plasty ysblennydd Glansevern hefyd werth ei weld – ac yma gallwch grwydro’r gerddi cyn cael paned a chacen yn Caffi Naissance. 

Does dim llawer o lefydd sy’n fwy arbennig na Phennant Melangell, a siom fyddai i unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal adael heb brofi tawelwch a heddwch yr eglwys fach ddiarffordd, heddychlon hon. Yma hefyd mae bedd Nansi Richards, telynores Maldwyn ac un o gymeriadau mwyaf gwerthfawr yr ardal. Pan aeth Nansi Richards draw i America ar un o’i theithiau tramor roedd yn canu’r delyn deires i deulu’r Kellogg a daeth yn ffrindiau gyda W.K.Kellogg. Dywedodd Nansi fod Kellogg yn swnio’n debyg iawn i air Cymraeg ‘ceiliog’ ac erbyn heddiw llun ceiliog a welwch ar focs Corn Flakes - mae’n debyg mae Nasi ddylanwadodd ar logo’r cwmni!

An aerial shot of a manor house and garden surrounded by countryside.

Plasty a gerddi Glansevern 

Crwydro capeli a chamlesi

Does dim prinder llwybrau a theithiau cerdded ym Maldwyn, gan gynnwys Llwybr Ann Griffiths, sy’n dechrau ym mhentref Llwydiarth. Taith saith milltir o hyd yw hon ac wrth ei dilyn byddwch yn mynd heibio Dolwar Fach, cartref yr emynyddes nodedig, yn ogystal â’r capel coffa iddi yn Nolanog. Ar y daith o Ddolanog i Bontrobert gallwch hefyd weld cartref y cenhadwr John Davies a Hen Gapel Pontrobert.

Taith boblogaidd arall yw Llwybr Glyndŵr, sy’n 135milltir o hyd i gyd, ond os ydi hynny fymryn yn uchelgeisiol wedi dyddiau o grwydro stondinau yna mae modd cerdded rhannau bychain o’r daith, sy’n dechrau o Kington ac yn gorffen ar hyd y gamlas yn Y Trallwng.

llwybr camlas, gyda rhedwr a cherddwyr a chamlas, gyda chychod.

Camlas Maldwyn, Y Trallwng 

Y tu hwnt i’r Maes ym Maldwyn

Felly os yn ymweld â’r Eisteddfod eleni peidiwch da chi â cholli’r cyfle i fwynhau ychydig o’r cyfoeth sydd gan yr ardal amaethyddol, arbennig hon ei chynnig. Siom fyddai i unrhyw un adael y fro heb gael cyfle i fwynhau ei thrysorau, dathlu ei chymeriadau a dysgu am ei chyfraniad hollbwysig i hanes ein gwlad.

Straeon cysylltiedig