The Drovers Rest
Mae’r Drovers Rest yn fwyty bach uchel ei barch. Yma gallwch brofi caws Cymreig, pysgod, cigoedd a llysiau ger yr Afon Irfon, gyferbyn â cherflun enwog y dref o farcud coch. Mae hefyd yn cynnig llety, ysgol goginio, cyngor ar weithgareddau lleol eraill a golygfeydd o’r wlad o’ch cwmpas.
Triathlon snorclo cors
Mae’r digwyddiad hynod, annealladwy a gwych yma, sef y triathlon snorclo cors, yn gweld cystadleuwyr yn sownd yn y mwd tra’n ceisio cyflawni wyth milltir o redeg, nofio 60 llath mewn cors fawn ddwywaith, a 12 milltir ar gefn beic mynydd. Mae yna fersiynau llai heriol i gystadleuwyr iau, neu llai eofn, hefyd, ac mae wir yn gamp drawiadol.
Llanwrtyd Wells Riding and Trekking
Awydd gweld y llwybrau marchogaeth, ffyrdd y porthmyn a choedwigoedd Dyffryn Irfon mewn steil? Bydd Llanwrtyd Wells Riding and Trekking yn llunio antur at eich dant chi, os ydych chi’n farchog profiadol neu’n deulu sy’n eistedd mewn cyfrwy am y tro cyntaf. Gellir trefnu teithiau byr neu ar gyfer diwrnod cyfan.
Seiclo seidr
Dyma ŵyl dri diwrnod o reidiau tywys a chwarae dwli ym mis Awst fel rhan o raglen flynyddol o hwyl, a drefnwyd am y tro cyntaf yn y 1980au. Mae’r Summer Cider Cycle yn cynnwys rheolfeydd ble bydd rheiny sy’n hoff o sudd afal yn medru torri eu syched ar seidr a pherai casgen a ffermdy. Mae dau bellter gwahanol a gwersylla ar gael.
Fferm Gigrin
Os ydych am gwrdd â gwir drigolion Llanwrtyd, ceisiwch gael cip ar farcutiaid coch arwyddocaol yr ardal. Mae eu canolfan fwydo ac adferiad wedi bod ar y safle 200 acer hwn ar Fferm Gigrin ers 1992. Mae’r lle’n adnabyddus am y cyfleusterau a’i natur gyfeillgar, a’r golygfeydd anhygoel o’r ardal.
Casgliad Beicio Cenedlaethol
Does dim byd llyfn na thechnolegol-gyfoes yn y stryd feicio hynafol byddwch yn cerdded ar ei hyd yn atyniad hoff yr Amgueddfa Feicio Genedlaethol, sydd wedi ei lleoli gerllaw yn Llandrindod. Mae’n talu gwrogaeth i’r Penny Farthing, raswyr eiddgar a champau ffitrwydd brawychus hanesyddol, ac mae’r 200 o gerbydau yma yn dyddio nôl yr holl ffordd i 1819, o ysgydwyr esgyrn i ffeibr carbon. Mae’n bendant werth taith fer yn y car!
Bragdy Heart of Wales
Efallai na fyddech chi’n synnu wrth glywed fod prif gwrw Bragdy Heart of Wales yn cael ei ddisgrifio fel ‘melys-moes-mwy’! Er hyn, mae yna o leiaf chwech math gwahanol i ddewis os fyddai’n well gennych chi lymaid cryfach neu ysgafnach. Wedi eu lleoli yng Ngwesty’r Neuadd Arms, datblygwyd eu cwrw cyntaf ddeng mlynedd yn ôl.
Gemau Amgen y Byd
Does dim llawer o ddigwyddiadau yn gallu addo gwledd i’r llygaid i’r gwylwyr – ond mae’r World Alternative Games yn bendant yn un sy’n medru. Ddim yn ffansïo taflu bêls gwair? Rhowch gynnig ar ras cario gwraig neu sgimio cerrig. Yn dilyn yn llwybr carn marathon dyn yn erbyn ceffyl y dref fis Mehefin, mae’r casgliad hwn o gystadlaethau anarferol yn digwydd ar hyd dwy wythnos fis Awst.