Mwynhau sioe
Mae Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, a adeiladwyd trwy ddefnyddio copr disglair a llechi o Gymru, yn gartref i theatr, cerddoriaeth a chelfyddyd fyd-eang a Chymreig. Cymerwch gipolwg ar y sioeau a gaiff eu perfformio yn ystod eich arhosiad.
Lleoliadau theatrig eraill:
- Theatr Everyman – sinema fwtîg fechan
- New Theatre – dramâu a sioeau teithiol llai
- Sherman Cymru – theatr a dawnsio cyfoes
- Canolfan Gelfyddydau Chapter – sioeau indie, celfyddyd a sinema artistig ac arbrofol
Ymweld â chartref chwaraeon Cymru, Stadiwm Principality
Ychydig o ddinasoedd a all ymfalchïo mewn canolfan chwaraeon fel hwn. A hithau wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, mae Stadiwm Principality wedi cynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, digwyddiadau’r Gemau Olympaidd yn 2012, Cwpan Rygbi’r Byd a sioeau gan sêr y byd cerddorol (yn cynnwys James Brown, The Rolling Stones, Beyonce, Jay-Z ac Ed Sheeran). Ewch am dro y tu ôl i lenni’r lleoliad anhygoel hwn.
Canfod celfyddyd ein bro a'r byd
Mae casgliad celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymhlith y gorau yn Ewrop. Cewch weld 500 mlynedd o baentiadau, darluniau, cerfluniau, eitemau arian a chrochenwaith o Gymru a ledled y byd, yn cynnwys un o’r casgliadau gorau yn Ewrop o gelf yr Argraffiadwyr – y casgliad mwyaf o’i fath y tu allan i Baris. Mynediad am ddim!
Treuliwch fore Sul ym Marchnad Fwyd Glan-yr-afon
Ar lannau'r Afon Taf, gyferbyn â Stadiwm Principality, bob bore dydd Sul cewch fwynhau cynnyrch lleol blasus ym Marchnad Fwyd Glan-yr-afon. Yno, bydd ffermwyr o’r cyffiniau yn gwerthu cawsiau a chigoedd Cymreig traddodiadol, a bydd cogyddion, pobyddion a gwneuthurwyr lleol yn rhannu eu nwyddau artisan.
Crwydro Castell Caerdydd
Castell Caerdydd yw’r perl yng nghoron y ddinas. Mae’n edrych dros ganol y ddinas ac mae o fewn pellter cerdded rhwydd i’r holl atyniadau eraill. Cofiwch edrych i fyny ar y ‘wal anifeiliaid’ hynod, lle gwelwch gerfluniau 100 oed o eirth, morloi a chreaduriaid eraill uwch eich pen.
Uchafbwyntiau hanesyddol eraill:
- Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan – amgueddfa awyr agored; cewch weld adeiladau a ailgodwyd yn ofalus, sy’n cyfuno i adrodd hanes Cymru
- Amgueddfa Caerdydd – amgueddfa yng nghanol y ddinas sy’n sôn am ddechreuad a hanes cosmopolitan Caerdydd
- Cardiff on Foot – teithiau cerdded sy’n treiddio’n ddwfn i orffennol y ddinas neu sy’n canolbwyntio ar gyfnod hanesyddol penodol
Archwilio’r arcedau a’r marchnadoedd Fictoraidd
Beth am fwynhau’r arcedau a’r marchnadoedd Fictoraidd, archwilio brandiau’r stryd fawr neu chwilio trwy’r siopau annibynnol niferus.
Cofiwch fynd i Arcêd y Castell ac Arcêd Morgan i siopa am bopeth dan haul, o decstilau Cymreig traddodiadol a llwyau caru yn y siopau nwyddau Cymreig niferus, i esgidiau heb eu hail yn The Brogue Trader neu gerddoriaeth yn Spillers Records (a sefydlwyd ym 1894), sef siop recordiau hynaf y byd. I rai ohonoch sydd ag awydd i gerdded drwy'r arcedau yn profi bwyd o siopau amrywiol y ddinas yna mae Loving Welsh Food yn darparu teithiau.
Os oes syched arnoch chi, beth am alw yng nghaffi The Plan i gael coffi; neu os ydych chi awydd rhywbeth cryfach, ewch i Gin and Juice i flasu ambell goctel unigryw.
Arcedau a marchnadoedd eraill:
- Yr Arcêd Frenhinol – dyma arcêd hynaf Caerdydd, ac mae’n cynnwys siopau dillad annibynnol, siopau gemwaith a siopau ffotograffiaeth.
- Arcêd y Stryd Fawr – caffis a bwytai soffistigedig, yn ogystal â siop farbwr a siopau dillad vintage.
- Marchnad Canol Caerdydd – cynnyrch ffres o ansawdd ac awyrgylch lleol cynnes; y farchnad Fictoraidd dan do hon yw curiad calon Caerdydd ac mae’n cynnig profiad siopa unigryw.
- Marchnad Jacob – tri llawr yn llawn o hen greiriau ac eitemau vintage, retro a chasgladwy. Hefyd, ceir teras to gyda golygfeydd o’r ddinas.
Mynd am dro
P'un a ydych chi eisiau mynd am dro bach hamddenol, rhedeg mewn man gwyrdd hardd neu fynd ar yr Olwyn Fawr yn y Bae – yn ddi-os, mae'r cyfan yng Nghaerdydd.
Mae Parc Bute yn lle poblogaidd. Ewch am dro ar hyd y llwybrau coediog, rhedwch ar hyd yr afon neu troediwch Lwybr Taf. Cewch drafferth credu eich bod yng nghanol y ddinas! Os yw’n well gennych chi daith fwy hamddenol, ewch ar y bws dŵr o Barc Bute ar hyd Afon Taf ac i Fae Caerdydd.
Mae cerddwyr, beicwyr a rhedwyr wrth eu bodd â chylchdaith 10 cilometr Morglawdd Bae Caerdydd. Bydd y llwybr hwn yn eich tywys o’r Bae i dref glan môr Penarth, ac ar y ffordd cewch wledd o dreftadaeth ddiwydiannol. Beth am oedi i gael hufen iâ ar Bier a Phromenâd Penarth?
Anturiaethau llawn adrenalin
Beth am gyflymu curiad eich calon trwy gymryd rhan yn un o anturiaethau trefol niferus Caerdydd. Ewch i rafftio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ewch ar daith mewn cwch cyflym ym Mae Caerdydd, rhowch gynnig ar ddringo yng Nghanolfan Ddringo Dan Do Boulders, gwibiwch o gwmpas y lle mewn gwibgart yn TeamSport Caerdydd, neu rhowch gynnig ar weithgaredd arall a fydd yn siŵr o roi cic i’r adrenalin.
Gorffwyso ac ymlacio
Mae gan Gaerdydd ddigonedd o lefydd aros i weddu i bob poced, yn cynnwys gwestai sba 5* moethus, llefydd Gwely a Brecwast bwtîg a fflatiau hunanarlwyo yng nghanol y ddinas.
Beth am aros yng nghalon y ddinas yn yr Hilton Caerdydd, a leolir yn union gyferbyn â Chastell Caerdydd; neu os hoffech chi gael golygfeydd godidog o’r glannau, beth am ddewis voco® St David's Hotel ym Mae Caerdydd, lle cewch chi yfed diod a gwylio’r haul yn machlud wrth eistedd ar eich balconi preifat.
Opsiynau eraill:
Gwesty Indigo, Caerdydd - gwesty 4* yng nghanol y ddinas gyda golygfeydd epig ac ystafelloedd moethus gyda thema Gymreig.
Gwesty'r Parkgate, Caerdydd - gwesty 4* moethus gyda sba thermol o safon ar y to - drws nesaf i Stadiwm Principality.
Bwyta ac yfed yn y brifddinas
Mae’r ddinas yn cynnig gwledd o fwyd a diod i weddu pawb.
Am stecen wedi’i grilio ar siarcol a bar sy’n cynnig cwrw crefft a choctels, ewch i Pasture. Neu am dafarn draddodiadol lle gallwch chi gael peint a gwrando ar gerddoriaeth acwstig fyw, ewch i The Old Arcade. Beth am flasu pizza yn Ffwrnes, a leolir ym marchnad hanesyddol Caerdydd.
Ar Lôn y Felin yng nghanol y ddinas mae yna sawl bar ffansi sy’n gweini coctels, ac ar y Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair mae yna nifer o fwytai da, fel The Potted Pig.
Dewch o hyd i ragor o leoedd bwyta yn ein canllaw ar fwytai annibynnol yng Nghaerdydd.