Tro rhai o gymoedd enwocaf de Cymru yw hi i groesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni. Bydd Parc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd yn gartref i dros 1,000 o weithgareddau a digwyddiadau o bob math rhwng 3 - 10 Awst 2024, gydag ambell beth hefyd yn cael eu cynnal yn y dref ei hun.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau artistig, cerddorol a llenyddol wedi ei chyhoeddi ac mae modd prynu tocynnau mynediad i’r maes a chyngherddau’r nos o wefan yr Eisteddfod

Gydag Eisteddfod drefol daw cyfleodd lu i ddarganfod y fro tu hwnt i ffiniau’r Maes. Dyma ardal sydd â chyfoeth o hanes diwydiannol a diwylliant Cymreig cryf. Gyda’r Eisteddfod yn cael ei hariannu i raddau helaeth gan y cymunedau sy’n cynnal yr ŵyl, manteisiwch da chi ar y cyfleoedd i grwydro tu hwnt i’r Maes a chwrdd â chymeriadau’r cymoedd.

Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024

Profiadau Ponty a thu hwnt

Zip World Tower

Mae’r wifren sip â sedd gyflymaf yn y byd yn Zip World Tower. Wrth wibio ar y Phoenix o ben mynydd Rhigos cewch olygfeydd anhygoel ar draws Rhondda a Chwm Cynon. Mae’r Tower Coaster ac antur sip fach ar gyfer anturiaethwyr iau hefyd. Mae'r caffi ar y safle yn cynnig mwy o olygfeydd anhygoel a phrydau gwych i deuluoedd. 

Lido Cenedlaethol Cymru

Mae tri phwll nofio yn adeilad rhestredig Gradd II Lido Pontypridd. Mae’n boblogaidd iawn gyda theuluoedd a nofwyr hamddenol o bob oedran felly mae’n well archebu eich tocynnau (rhesymol iawn) ymlaen llaw.

Llun o'r awyr o lido a pharc
Dwy ferch mewn harneisiau a hetiau yn barod i fynd ar y wifren sip

Zip World Tower a Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd 

Taith Pyllau Glo Cymru - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad unigryw sy'n cyflwyno hanes diwydiannol y cymoedd a Chymru. Bydd plant yn mwynhau taith i’r pwll glo gyda chyn-löwr a theithio ar dram glo mewn profiad sinematig 4D.  Rhaid gorffen y daith gyda chacen yng Nghaffi Bracchi, sydd hefyd yn gwerthu danteithion Chocolate House. 

Amgueddfa Cwm Cynon a Pharc Gwledig Cwm Dâr

Mae gan Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr dair oriel, siop a chaffi, ac mae’n lle braf i ddod am dro ac i glywed mwy am hanes y cwm. Dwy filltir o’r amgueddfa mae Parc Gwledig Cwm Dâr - parcdir 200 erw gyda llwybrau a thraciau beicio, llynnoedd pysgota a pharciau chwarae i blant. Mae'r parc yn safle awyr dywyll hefyd, gyda’r sêr a’r cytserau i’w gweld yn glir ar noson ddigwmwl. Mae safle carafanio yn y parc hefyd.

Profiad y Bathdy Brenhinol

Mae'r Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw sy’n brofiad difyr i blant a theuluoedd. Mae gweithgareddau addysgiadol a rhyngweithiol sy'n apelio'n arbennig at blant, gan gynnwys cyfle i ddylunio eu darnau arian eu hunain a dysgu am hanes arian mewn ffordd hwyliog. Lle da i ddysgu a chwarae ar yr un pryd. 

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Yn Nghrochendy Nantgarw y lluniodd William Billingsley borslen gorau'r byd. Ynghyd ag amgueddfa ddiddorol yn llawn cwpanau, soseri cywrain a mwy, mae gweithdai cerameg ac arddangosfeydd celf. Galwch draw i'r ystafell de glyd am baned a chacen hefyd.

Amgueddfa Pontypridd

Wedi'i lleoli mewn hen gapel sy'n dyddio'n ôl i 1861, mae Amgueddfa Tref Pontypridd yn wledd o ddarganfyddiadau hynod sy'n dangos hanes cyfoethog y dref. Yn eu plith mae eiddo personol Evan a James James - y tad a'r mab a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru.

Cerflun Shaun y Sheep wrth mynedfa Profiad y Bathdy Brenhinol.
Mini wedi'i orchuddio â darnau arian yn y Profiad y Bathdy Brenhinol.

Profiad y Bathdy Brenhinol

Parciau a Theithiau Cerdded

Mae llu o barciau a theithiau cerdded gwych sy’n cynnig cyfle unigryw i ddarganfod treftadaeth a thirwedd yr ardal. 

Mae parc Barry Sidings yn enwog am ei lwybrau cerdded prydferth ag ardaloedd picnic. Mae ardal chwarae wych ar gyfer plant yn ogystal â llwybrau beicio mynydd i'r rhai sy'n chwilio am fwy o antur. 

Mae Pen-pych ym Mlaencwm, un o dirnodau enwocaf cymoedd y de, yn sefyll ar ben uchaf Cwm Rhondda Fawr, gyda golygfeydd arbennig dros yr ardal. Gallwch naill ai gymryd llwybr cylchol o amgylch copa’r mynydd, neu ddringo’n syth i’r top ac yn ôl i lawr eto. 

Mae Llwybr Treftadaeth Pontypridd yn daith 3.2km o hyd sy’n cychwyn yn Amgueddfa Pontypridd ac yn gorffen ym Marchnad Pontypridd, ac yn para tua awr. 

Chwilio am rhywbeth mwy heriol? Mae taith gylchol Pontypridd, sy’n 12 milltir o hyd, yn cynnig golygfeydd hardd ar draws y cymoedd tua'r môr a thua Bannau Brycheiniog. Neu, dilynwch ôl traed yr hen seintiau ar Ffordd Pererindod Penrhys. Mae'r llwybr cyfan o Gaerdydd i Benrhys yn y Rhondda yn 21 milltir, ond mae wedi'i rannu'n chwe rhan hawdd sy'n cymryd ychydig oriau yr un.

Cerflun efydd o ddyn yn chwarae’r delyn a menyw yn sefyll wrth ei ochr.

Cofeb Evan James a James James, Parc Ynysangharad, Llwybr Treftadaeth Pontypridd

Bwyd rhyngwladol rhagorol

Awydd camu yn ôl mewn amser? Ewch i gaffi eiconig Princes ym Mhontypridd. Teulu’r Gamborinis sydd wrth y llyw ers 1948 yn gweini cacennau enfawr a chroeso hyd yn oed yn fwy. Mae Café Royale a Café Fresco yn dda hefyd ac yn adlais o ddylanwad mewnfudwyr o’r Eidal i’r cymoedd ar ddiwedd y 19g. 

Mae bwyty Janet's ym Mhontypridd yn cynnig profiad bwyta unigryw a chofiadwy. Mae’r fwydlen yn wledd o brydau o bob rhan o dde-ddwyrain Asia. Mae wedi ei leoli yng nghanol Pontypridd a’n boblogaidd iawn felly mae’n well archebu bwrdd ymlaen llaw. 

Tu hwnt i Ponty mae parlwr hufen iâ Subzero yn Williamstown yn wych. Mae dewis eang o flasau unigryw, ffres a chreadigol ac mae'r staff wastad yn groesawgar.

Iechyd da!

Disgwylir rhaglen lawn o adloniant Cymreig traddodiadol a chyfoes yng Nghlwb y Bont, Llanofer Arms ac Alfred's ym Mhontypridd dros wythnos yr Eisteddfod. 

Bydd cerddoriaeth fyw a pherfformiadau yng Nghlwb y Bont, clwb Cymraeg Ponty, tra bydd tafarn hanesyddol y Llanofer Arms, ble roedd Beirdd Clic y Bont yn cwrdd, yn cynnig awyrgylch clyd a chwrw lleol. 

I dorri syched tu hwnt i’r Maes beth am daith i fyny’r cwm i ddistyllfa Penderyn? Mae’r wisgi enwog , sydd ar gael mewn dros 40 o wledydd, yn cael ei greu ger Hirwaun yng ngogledd Cwm Cynon. Mae taith ddistyllfa awr o hyd yn cynnwys sesiwn flasu ar y diwedd.

Prynu’n Lleol - cefnogi'r cymoedd

Yn Storyville ym Mhontypridd mae amrywiaeth o lyfrau a gemau bwrdd ar gyfer bob oedran. Mae The Toy Emporium yn lle da i danio dychymyg plant hefyd. I brynu nwyddau amrywiol ac am groeso cynnes y cymoedd ewch i siop Pete's ym Mhontypridd, mae’n enwog yn yr ardal!

Mae’r Siop Groggs ym Mhontypridd hefyd yn eiconig - dyma’r lle i brynu ffigurau cerameg sy'n portreadu chwaraewyr rygbi, cerddorion, a chewri Cymru. 

Fe enillodd Treorci teitl Stryd Fawr Gorau’r DU yn 2019 a hawdd yw gweld pam. Mae bron i 100 o siopau ar y stryd fawr gyda chanran uchel yn siopau annibynnol.

Ar dy feic

I feicwyr, mae Llwybr Cynon yn dilyn afon Cynon o Hirwaun i Abercynon - cyfuniad braf o bentrefi cyfeillgar a llwybrau wedi’u hamgylchu â choed o tua 11 milltir.

Mae Llwybr Taf yn rhedeg drwy Rhondda Cynon Taf gan ddechrau yn Ffynnon Taf, ac yn mynd trwy Drefforest a Phontypridd ac ymlaen i Abercynon. I’r rhai heini yn eich mysg mae modd beicio'r holl ffordd i Fae Caerdydd! Am lwybr byrrach i goesau bach, rhowch gynnig ar lwybr Cymunedol Pentre'r Eglwys, sy’n mynd trwy goetiroedd a dolydd braf.

oedolyn a plentyn yn reidio beic ar hyd llwybr gyda choed y naill ochr.

Beicio ar hyd Llwybr Taf

Darganfod mwy

Teithio i’r Eisteddfod

Teithio i’r Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus yw’r opsiwn gorau os yn bosibl. Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (chwiliwch am ‘Eisteddfod’) a dilynwch sianeli pwrpasol Croeso RhCT ar Facebook a X am y newyddion teithio diweddaraf.

Bydd gwasanaeth parcio a theithio rhwng 7am a hanner nos o ddydd Sadwrn 3 Awst i ddydd Sadwrn 10 Awst 2024 o'r lleoliadau canlynol:

  • Abercynon (CF45 4UQ) - ar gyfer teithwyr o Ferthyr Tudful a’r gogledd. 
  • Y Ddraenen Wen (CF37 5AL) - ar gyfer teithwyr o  Gaerdydd a’r de.

Mae map a mwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd yr ŵyl ar gael yma.

Croeso Rhondda Cynon Taf

Am fwy o wybodaeth am yr ardal ewch i wefan Croeso Rhondda Cynon Taf.

Arwydd Eisteddfod 2024 ac awyr las.

Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, Parc Ynysangharad, Pontypridd 

Straeon cysylltiedig