Mae gen i gof o sefyll am eiliad yn Eisteddfod Dinbych 2013 ac edrych o’m cwmpas o leoliad y maes yng nghanol Dyffryn Clwyd gan edrych i bob cyfeiriad, ar y bryniau gosgeiddig tua’r dwyrain, ac ar lawr braf gwyrdd y dyffryn o’m cwmpas, a meddwl ‘mae’n siŵr y byddai hwn yn lle braf iawn i fyw’. Chydig a feddyliais i ar y pryd y byddwn i’n cael cyfle i brofi hynny ryw ddegawd yn ddiweddarach a ninnau fel teulu newydd symud i fyw i’r dyffryn: mae’r bryniau’n dal yno, a’r gwyrddni, ac yn araf bach rydan ni’n dod i adnabod pob twll a chornel ohono.
Dod i lawr tuag at Ruthun drwy’r bwlch rhwng Moel Eithinen a Moel Gyw wnaethon ni y noson gyntaf honno, a’r fan yn llawn dop, ar hyd un o’r nifer o ffyrdd sy’n croesi drwy’r bylchau o’r dwyrain a’r gorllewin ac i lawr i’r dyffryn. Y fwyaf o’r lonydd hynny wrth gwrs yw’r A55 sy’n croesi rhwng Morfa Rhuddlan a Llanelwy, ac efallai mai oherwydd hynny y mae hi’n rhy hawdd i’r teithiwr talog fynd heibio i’r dyffryn heb wybod ei fod yno, bron, tua thirluniau mwy creigiog, dramatig ac arfordirol Eryri, Llŷn a Môn.
Ond mae i’r dyffryn ei gymeriad unigryw ei hun. Mae’r gymuned amaethyddol gref yn dyst i ffrwythlondeb y tir, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai yma roedd un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf Cymru’r oesoedd canol: yma roedd y tir bras a fedrai dyfu’r cnydau i greu’r cyfoeth yr oedd ei angen i gynnal diwylliant bywiog. Nid moelydd Eryri gewch chi yma, ac nid halen y môr chwaith, ond blas mwg a phridd a thir cyforiog o wyrdd, ac afon Clwyd ei hun yn nadreddu drwy’r cyfan ac yn dyfrio’r dyffryn i gyd. Dyma ddyffryn y mân seintiau a noddwyr y beirdd, hen eglwysi’n sefyll yn dalog ar y gwastadedd, a ffynhonnau’n eu cwman ar y llechweddau lle mae’r coedwigoedd yn crynhoi ac yn hel at ei gilydd i fyny tua Chlocaenog a Mynydd Hiraethog.
Llanelwy
Nid hanes yn unig sydd yma: mae yma fywyd a gwaith a gŵyl, a chanolfannau trefol sy’n llawn gweithgarwch a chroeso. Dyna ichi ddinas, ie dinas, Llanelwy ei hun, yn ffres oddi ar yr A55 (rhaid aros am ddiwrnod ac am erthygl arall i gael profi gogoniannau’r arfordir: Rhyl a Phrestatyn, Castell braf Rhuddlan, dringo Gwaenysgor a’r Gop a mynd i weld y rhaeadr yn rhuo i lawr drwy Ddyserth). Oedwch yma i gymryd tro wrth yr afon, taro mewn i grochendy Earthworks, ac yna ymweld â’r gadeirlan ysblennydd. Os ewch yno ar nos Wener neu brynhawn Sul cewch glywed y côr yn canu gosber. Yma hefyd y claddwyd William Morgan, cyfieithydd y Beibl, a Dic Aberdaron. Addas felly, a dau ieithydd mor fedrus yn gorwedd gerllaw, yw’r cyfle i daro mewn i Gaffi’r Cyfieithwyr yn y gadeirlan am baned cyn cychwyn drachefn ar ein taith i fyny’r dyffryn.
Dinbych
Ymlaen â ni i Ddinbych, un o brif drefi Cymru ar un adeg ac un sy’n llawn difyrrwch hyd heddiw. Dechreuwch ar gopa’r bryn yn y castell sy’n rhoi ei henw i’r dref, gan grwydro ei dyrau, ei lawntiau a’i hen geginau. Ar ein ffordd i lawr yr allt, awn heibio i dŵr Capel Ilar neu Eglwys Iarll Leicester – un o’r eglwysi Protestannaid cynharaf a mwyaf arwyddocaol – neu Borth Burgess, a chyfle i grwydro muriau’r dref hefyd gerllaw. Yn y dref ei hun cawn bori drwy ddewis eang o lyfrau Cymraeg yn Siop Clwyd neu daro i mewn am damaid i gaffi Ji-Binc neu Te yn y Grug, sydd wedi ei enwi wrth gwrs ar ôl un o lyfrau Kate Roberts, Brenhines ein Llên, a fu’n treulio rhan olaf ei hoes yn y dref yn rhedeg Gwasg Gee cyn ymddeol i ysgrifennu. Mae adeilad y wasg honno’n gofeb ddiwylliannol bwysig i waith rhai fel Thomas Gee a sicrhaodd fod Dinbych yn un o brif ganolfannau print Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os byddwch wedi mynd draw i weld yr adeilad adfeiliedig ar Stryd y Capel, ewch wedyn i dafarn y Guildhall i dorri syched. Ac os ydych chi’n dal heb gael digon, beth am inni alw heibio i’r llyfrgell neu un o amgueddfeydd difyr y dref – yr amgueddfa radio neu amgueddfa’r 1950au – cyn ffarwelio.
Pa le gwell i roi’n pen i lawr am y noson na phlasty hynafol Dolbelydr, un o gartrefi Salbriaid Lleweni, ar lan afon Elwy? Yn y bore, ymlaen â ni i fyny’r dyffryn, ond awn ni ddim ar ormod o frys. Dyma gyfle i gris-croesi llawr y dyffryn er mwyn dod o hyd i’r corneli bach distaw, sanctaidd hynny sy’n llechu rhwng pant a choedwig a thro yn yr afon. Dyna inni Eglwys Saeran, reit ynghanol llawr y dyffryn yn Llanynys, gyda’r darluniau canoloesol yn dal ar y mur tu mewn, a charreg fedd frawychus yn ein rhybuddio y tu allan: Cofia Farw. Neu i fyny at lethrau bryniau Clwyd i ymweld ag eglwys uchel Llangynhafal; neu ffefryn gennym ni, y dro i fyny o bentref Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch drwy goedlan at yr hen ffynnon, cyn troi’n ôl heibio Eglwys Dyfnog, crochendy’r Efail, ac elusendai’r Arglwydd Bagot. Yr un Bagot a greodd dro braf i’w wraig ar hyd lan afon Clywedog gerllaw, ond chawn ni ddim amser i fynd ar y dro honno o’r Rhewl heddiw – mae’n bryd cael hufen iâ! Cawn ddewis mynd i fyny i Lanychan, lle mae cwmni Chilly Cow yn gwerthu hufen iâ cartref o stondin wrth giât y fferm, neu i fferm Llwyn Banc lle cawn baned neu lefrith â blasau gwahanol hefyd o’r amrywiol beiriannau ar y buarth. Os ydi hi’n nos Wener, dyna gyfle i flasu un o pizzas cwmni Doughson sy’n gosod eu stondin yno bob wythnos.
Rhuthun
O’r diwedd dyma ni’n cyrraedd tref farchnad Rhuthun sy’n clwydo’n braf ym mhen ucha’r dyffryn ar dalpyn o graig goch. Gallem grwydro yma drwy’r dydd, yn pori drwy gyfoeth o gynnyrch Cymreig yn ogystal â’r holl lyfrau yn siop Elfair cyn mwynhau paned yng nghaffi Nest. Wedi hynny bydd gennym nerth i ymweld â’r carchar enwog lle bu Wil druan dan glo, neu dŷ hynafol Nantclwyd a’i ardd braf yn y cefn: dau atyniad hanesyddol difyr dros ben lle y cawn ni – a’r plant – oriau o ddiddigrwydd. Os ydyn nhw’n dal heb flino wedi hynny, yna tro i’r llyfrgell amdani ac i barc Cae Ddôl, lle mae’r afon a’r offer chwarae newydd sbon yn siŵr o blesio.
Os oedoch chi yn Rhewl i weld cartref Emrys ab Iwan ar ddiwedd ei oes, tarwch heibio i gapel mawreddog y Tabernacl lle bu’n weinidog, neu Bendref y capel hynaf, neu eglwys San Pedr os ydi’ch bryd ar dyrau uwch a mwy eglwysig. Yn yr haf mae’r sgwâr ar dop y dre yn llenwi â phobl ar gyfer Gŵyl Rhuthun lle mae bandiau o bob cwr o’r wlad yn rhannu llwyfan â’r holl gorau lleol sy’n ffynnu yn y dyffryn. Wedyn mae’n rhaid canfod amser i fynd i weld arddangosfa ddiweddaraf y ganolfan grefftau, a gwaith a chynnyrch rhai o’r artistiaid lleol yn eu stiwdios. Os byddwn ni’n lwcus cawn ddal marchnad ym muarth y carchar neu yn hen Neuadd y Farchnad lle mae stondinau’n gwerthu cynnyrch Cymreig bob wythnos. Mae’r criw sy’n rhedeg y lle yn prysur droi’r adeilad yn ganolfan gymunedol a phob math o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal. A gyda’r nos, pryd arbennig yn Small Plates neu No.11 amdani.
Erbyn hyn, wedi ymlâdd, trown tua Chastell Rhuthun, a godwyd yn wreiddiol gan Ddafydd, brawd Llywelyn ein Llyw Olaf ac a losgwyd wedyn gan Owain Glyndŵr ar ddechrau ei wrthryfel. Bellach mae’n westy moethus lle cawn ymlacio o flaen tanllwyth o dân ar ôl yr holl grwydro. Ond mae’n werth aros noson arall, er mwyn cael cyfle i grwydro pen y dyffryn a mwynhau amrywiaeth byd natur, wrth grwydro un o’r copaon efallai: Moel Fenlli, Moel Arthur neu Langwyfan a’u hen fryngeiri, neu Foel Famau ac adfeilion tŵr y Jiwbilî. Cawn fentro i ganol Coedwig Clocaenog ym Mod Petryal, neu fynd â’r plant drwy’r coed tuag at raeadr Rhyd y Gaseg.
Ar ôl yr holl grwydro, rydw i wedi bod yn cadw un berl fach arall ichi: fferm Llanbenwch, lle mae caffi gwych, croeso cynnes Cymraeg a siop hefyd yn cynnig pob math o anrhegion. Stopiwn i ddweud helo wrth Twm a Wil, y mulod, y tu allan, a beth am aros o gwmpas am chydig oherwydd mae’r caffi hefyd yn ganolfan weithgar sy’n lle delfrydol i gynnal pob math o weithgaredd cymunedol.
I fyny fan hyn, cawn ddod â’n taith i ben drwy ddal y bws Fflecsi i un o dafarndai’r pentrefi sy wedi eu gwasgaru o amgylch pen y dyffryn, neu cawn sefyll yn llonydd wrth ddŵr Ffynnon Sara. Yma, neu ym mhentref cyfagos Derwen efo’i eglwys hynafol a’i groes, prin y gallwn ni gredu ein bod yn yr un dyffryn â’r lle dechreuon ni yn Llanelwy a rhu’r A55 gerllaw. Mae hwn yn fyd arall, ond dafliad carreg o hyd o’n man cychwyn. Bron na allwch chi glywed y ddau le’n galw ar ei gilydd: yr eglwys fach fan hyn yn adleisio’r gadeirlan fawr, ac yn clymu dau ben y dyffryn cyfoethog, hudol hwn at ei gilydd.