Barod am reid eich bywyd? Mae RibRide, y cwmni teithiau cychod o Ogledd Cymru, yn gobeithio y bydd ei eFoil newydd yn cynhyrfu’r dyfroedd yn y diwydiant twristiaeth Prydeinig, ac yn trawsnewid ardal Afon Menai’n gyrchfan antur rhyngwladol. Fe wnaethon ni holi Tom Ashwell, cyfarwyddwr yn FoilRide, i gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan eFfoilio o gwmpas llonyddwch Afon Menai i’w gynnig.
I bobl sydd erioed wedi clywed am eFoil, sut fyddech chi’n ei ddisgrifio?
Bwrdd syrffio gyda motor trydan yw eFoil, sy’n hedfan uwchlaw adain hydroffoil. Mae’r motor bron yn ddi-sŵn a gellir ei wefru gan ynni o ffynhonnell adnewyddadwy. Mae’n ffordd ragorol o ymwneud â harddwch ein hamgylchedd, heb darfu arno.

Sut mae’r eFoil yn gweithio?
Mae’r eFoil yn gymysgedd o’r holl chwaraeon gorau: syrffio, hwylio barcud, hedfan ac eirafyrddio eira powdr dwfn. Gosodir motor trydan nerthol ar adain islaw bwrdd syrffio perfformiad uchel. Mae’r ffoil a’r adenydd yn cyfuno i alluogi reidwyr o bob gallu i hedfan uwchlaw unrhyw arwynebedd mawr o ddŵr.
Sut wnaethoch chi ddarganfod yr eFoil?
Rydyn ni’n farcud-fyrddwyr brwd yn ein hamser hamdden, ac rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar y datblygiadau technolegol newydd sydd wedi bod ar y gweill o ran gosod ffoil o dan fwrdd gyda motor trydan. Oherwydd datblygiadau newydd mewn technoleg batris sy’n gallu cael eu hailwefru, mae prototeipiau wedi dod ar gael yn fasnachol. Fe ddaethon ni o hyd i gyflenwr oedd yn creu cynnyrch ardderchog, felly roedden ni eisiau dod yn ysgol hyfforddi.

Ydy hi’n anodd defnyddio’r eFoil?
Dyma’r gyfrinach fawr: mae modd bod yn arwr ar ôl un wers! Gellir dysgu reidio’r eFoil mewn ychydig oriau gan unrhyw un sy’n meddu ar y gronyn lleiaf o gydbwysedd a chydsymud, ar yr amod eu bod nhw’n 16 oed neu’n hŷn, ac yn gallu nofio. Yn gyntaf, mae rhywun yn gorwedd yn wastad ac yn codi i safle ar ei bengliniau. O benlinio, mae rhywun yn codi’n llyfn i safiad y ‘syrffiwr’ – dyna ble mae’r cyfleoedd i reidio ac anturio’n ymagor go iawn. Ar hyd y ffordd, fe allet ti ddisgyn i ffwrdd neu wlychu o ddifri, ond mae hynny’n iawn: rydyn ni’n rhoi cymorth arnofio a siwt wlyb addas i ti cyn i ti ddechrau.
Tom AshwellCyn bo hir, byddi di’n hedfan dros y dŵr, sy’n brofiad anhygoel!”

Ble all pobl fynd i reidio’r eFoil, a beth allen nhw weld?
Rydyn ni wedi ein lleoli yng Ngogledd Cymru, yng nghanol morlun rhyfeddol, ac mae creaduriaid gwyllt y môr o bob math i’w gweld. Mae ein gwersi’n digwydd yn nyfroedd cysgodol hyfryd Afon Menai, lleoliad perffaith i gael y profiadau eFoil gorau wrth i chi hedfan uwchlaw wyneb y dŵr.

Pryd fydd pobl yn gallu rhoi cynnig ar yr eFoil a faint fydd e’n gostio?
Byddwn yn dechrau cynnal gwersi yn 2020. Mae Hediad Cyntaf yn gwrs 3 awr o hyd, sy’n cymryd dechreuwyr pur a’u troi’n eFfoilwyr (tri myfyriwr, un eFoil yr un, un hyfforddwr, £200 yr un). Mae Celf Hedfan yn brofiad 3 awr o hyd ar gyfer pobl sy’n bwriadu prynu eFoil (un myfyriwr, un hyfforddwr yn reidio wrth eich ochr, £495 yr un). Gallwch weld mwy o wybodaeth ar wefan RibRide.

Archwiliwch draethau Môn drosoch eich hun
Traeth Biwmares
Mae Traeth Biwmares, o boptu i Bier Biwmares, yn adnabyddus fel cyrchfan hwylio, ac oddi yma bydd y cychod yn mynd ar daith i Ynys Seiriol. Mae’n rhan o Lwybr Arfordir Môn (sy’n werth ei archwilio) ac mae’n cynnig golygfeydd ysgubol ar draws Afon Menai i gyfeiriad Bangor, Eryri a Phen y Gogarth ger Llandudno.
Traeth Benllech
Benllech yw un o’r traethau mwyaf poblogaidd ar Ynys Môn. Mae gan y traeth Baner Las hwn filltiroedd o dywod euraidd a dŵr clir glas. Mae pobl wrth eu bodd yn torheulo ar y traeth gwastad cyn mynd i drochi’u traed neu roi cynnig ar SUP yn y môr. Mae modd i bobl mewn cadair olwyn neu goetsh fynd ar y traeth, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd.

Traeth Porth Swtan
Am lecyn mwy gwledig, ewch i Borth Swtan, traeth tywod a cherrig sydd ddim wedi’i ddatblygu. Rhaid dringo i lawr llwybr troed serth o bentref Porth Swtan, ac mae’r traeth yn swatio o olwg y torfeydd. Ewch am sgawt trwy byllau’r creigiau, ewch i nofio, pysgota neu syrffio, i elwa o’r harddwch naturiol.
Porth Dafarch
Os ydych chi’n chwilio am draeth eang sy’n cynnig digonedd o gyfle i wneud pethau, rhowch gynnig ar Borth Dafarch, cildraeth tywodlyd rhwng Bae Trearddur a Chaergybi. Mae’n draeth sy’n hygyrch i feicwyr, gyda ramp cychod ac mae’n boblogaidd gyda chanŵwyr, SUP-eriaid a phlymwyr, yn ogystal â theuluoedd.
