Mae Arberth wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd, ond un peth sydd wedi aros yn gyson yw ysbryd annibynnol y dref. Pan ges i fy magu yma yn y 90au, roedd yna ambell siop ddigon sylfaenol ar y stryd fawr ac oddeutu ugain o hen dafarndai. Ond roedd gan y dref sîn gelfyddydol oedd yn dechrau dod i’r amlwg, oedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw a pherfformiadau yn y dref fechan.
Maen nhw’n dweud fod y celfyddydau yn ffordd dda o adfywio, ac fe allwch chi weld hynny ar waith yn Arberth. Heddiw mae’n lle bach bywiog sydd â theimlad cryf o gymuned, stryd fawr sy’n ffynnu â siopau annibynnol a chaffis, a chalendr llawn o ddigwyddiadau.
Mae’r dref hefyd yn gorwedd ar gyrion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n ymestyn i’r mewndir ar hyd glannau afon Cleddau. Felly pan rydych chi eisiau ychydig o hoe ar ôl yr holl fwyta a siopa mae llwybrau cerdded tawel y gallwch eu dilyn drwy gaeau a choetiroedd. Heb anghofio am arfordir hyfryd Sir Benfro sydd o fewn cyrraedd yn hawdd wrth gwrs.
Siopa yn Arberth – danteithion a darganfyddiadau retro
Mae canol tref Arberth y math o le rydych chi’n picio yno i nôl peint o lefrith ac yn diweddu’n aros yno drwy’r dydd. Mae yma nifer annisgwyl o siopau diddorol i'w crwydro. Felly, ble mae dechrau?
Beth am ddechrau â siopau hen greiriau ac ogofau trysor Arberth. The Malthouse Antique Centre yw’r siop sydd wedi bod yma hiraf ac mae’n swatio ar Back Lane oddi ar y stryd fawr. Mae dewis gwych yno gyda rhyw ddwsin o wahanol unedau. Mae gan bob uned ei harbenigedd benodol, o emwaith i garpedi Nepalaidd vintage. Mae’r iard gefn a’r ardd furiog yn llawn trugareddau ar gyfer rhai sy’n hoff o arddio.
Yn ôl ar y stryd fawr, fe ddewch chi o hyd i’r siop Narberth Antiques and Interiors, yn orlawn o ddodrefn a hynodion eraill. Er mwyn chwilota drwy ragor eto o hen greiriau, gofynnwch am gyfarwyddiadau i Bazaar, sydd wedi ei guddio yn yr Hen Fragdy.
O ran dillad ac anrhegion, mae gennych chi hen ddigon o ddewis. Mae Jago yn ffefryn amlwg gyda’i ddewis o ddillad, gemwaith a phethau i’r cartref. Mae hi wastad yn braf galw heibio Six the High Street ac mae gan Tom Hughes ddewis o ddillad merched moethus. Er mwyn dod o hyd i rywbeth ychydig yn wahanol, ewch draw i’r Rock n Rolla Emporium ar gyfer dillad retro roc gwych. Mae’r Golden Sheaf yn llawn o gelf, crefftau, cardiau, teganau, a hylifau croen hyfryd, felly os ydych chi angen anrheg i rywun, dyma’r lle i fynd.
Er mwyn llenwi cypyrddau eich cegin, ewch draw i Ultracomida Deli sy’n arbenigo mewn bwydydd Sbaenaidd fel cawsiau, cnau almon, tuniau o baprica, Rioja ac olifau. Mae Wise Buys yn dda ar gyfer blasau lleol a ffrwythau a llysiau ffres, ac er mwyn dod o hyd i fwyd organig a bwydydd cyflawn, anelwch am y PlumVanilla Deli neu yr Happy Planet Green Store.
Os hoffech chi grwydro i weld ychydig o waith celf, anelwch i waelod y dref tuag at y castell a galwch yn Oriel Q Gallery a Narberth Pottery ar draws y ffordd. Mae Amgueddfa Arberth hefyd y pen yma i’r dref. Wedi ei leoli yn y Bonded Stores hanesyddol, mae yna arddangosfa ryngweithiol wych yn ogystal â siop lyfrau annibynnol a chaffi.
Bwyta ac yfed – o goffi boreol i blatiad o fwyd môr
Lle mae siopau, mae’n rhaid bod coffi wrth law, ac mae’n rhaid cael cacen. Mae Arberth yn deall hyn yn dda. Mae siopau coffi a chaffis wedi eu gwasgaru ar hyd y lle, ac mae gen i ambell ffefryn ar ben fy rhestr.
Mae’r PlumVanilla Cafe yn haeddu sylw arbennig. Mae’r gegin yma yn paratoi prydau di-fai, llawn blas bob amser, sydd wedi eu hysbrydoli gan fwyd o India, y Canoldir a thu hwnt. Fe gewch chi hefyd fowlenni o salad lliwgar a chacennau wedi eu pobi’n berffaith. Mae ganddynt drwydded i weini alcohol hefyd, felly gallwch fynd draw am frecwast neu ginio, ac archebu G&T bach slei i’ch cynnal am y dydd.
Mae gan Ultracomida Deli far tapas wedi ei drwyddedu yng nghefn y siop. Does dim modd i chi gadw bwrdd, felly byddwch yn barod i giwio cyn cael eich tywys i eistedd wrth un o’r byrddau mawr sy’n cael eu rhannu. Maen nhw’n gweini coffi cryf a bwydlen o dapas Sbaenaidd go iawn.
Os ydych chi’n chwilio am hufen ia, anelwch am Fire & Ice ar St James Street, ac ar gyfer pizza a choctels ewch draw i Top Joe’s.
Os ydw i eisiau noson arbennig, dwi wastad yn bwcio bwrdd yn y Madtom Seafood Restaurant. Mae’r cogyddion yma yn gwybod yn union beth i’w wneud â physgod sydd wedi eu dal yn lleol yn Sir Benfro. Mae byrddau y tu mewn yn o gystal â rhai mewn tai gwydr wedi eu haddurno a goleuadau bach yn yr iard.
Pan mae’n dod at ddiodydd gyda’r nos, does yna ddim curo taith fach o gwmpas tafarndai’r dref. Mae nifer o’r tafarndai rydw i’n eu cofio o pan oeddwn i’n ifanc yn dal yma; ond bod yna dipyn bach mwy o sglein arnyn nhw erbyn hyn. Ac mae’r hen jiwc bocs yn yr Eagle Inn yn dal yno hefyd.
Crwydro'r cylch – cerdded o amgylch y cyffiniau
Un peth gwych am Arberth yw nad oes rhaid mynd yn y car er mwyn cyrraedd cefn gwlad. Mae’n llythrennol ar y stepen drws. Mae llwybrau’n arwain o’r dref sy'n mynd heibio gwrychoedd llawn blagur ac choedwigoedd tawel.
Anelwch am faes parcio’r Town Moor a dilynwch y llwybr cerdded i lawr Carding Mill Lane, cyn hir byddwch wedi eich amgylchynu gan lonyddwch y coed. O’r fan honno, gallwch chi fynd yn eich blaen i Canaston Woods a mynd yn bellach eto nes cyrraedd Minwear Forest ar hyd glannau afon Cleddau.
Gwybodaeth bellach
Cymerwch olwg ar Traveline Cymru – Cynlluniwr Taith am opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.