Felly beth sydd mor dda am y lle? Aeth yr awdur Charles Williams a'i deulu am benwythnos i Drefdraeth i weld beth oedd gan y lle i'w gynnig – ac fe gafon nhw'u rhoi ar ben ffordd!
Lle braf i ddod ar wyliau
Mae rhai trefi glan môr am y cyntaf i roi gwybod i chi eu bod nhw yno. Gallwch weld pier neu bromenâd ambell i dref filltiroedd i ffwrdd, a bron na fedrwch glywed pobl yn gweiddi o entrychion rhyw drên sgrech. Ar y llaw arall mae trefi fel Dinbych-y-pysgod a Cheinewydd, trefi harbwr o'r iawn ryw, sy'n gweld dim rheswm am wneud ffwdan dros fod mor dlws.
Yna mae Trefdraeth. Gallwch yrru drwy'r pentref bach hwn yn Sir Benfro heb feddwl ddwywaith am y lle.
Mae'r ffordd fawr rhwng Abergwaun ac Aberteifi'n culhau wrth fynd drwy gasgliad bach o fythynnod a saif mewn rhes ar un stryd.
Mae yma dafarndai a bwytai, siopau ac orielau, a rhyw fath o stryd fawr, a byddech chi'n meddwl mai dal ati i chwilio am rywle mwy y byddai'r rhan fwyaf o bobl.
Ond credwch neu beidio, mae Trefdraeth yn un o'r llefydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru i ddod ar wyliau. Fe welwch chi deuluoedd o dde Lloegr sydd wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd, yn loetran o amgylch y lle yn ddi-stŵr - er, mae'n anodd i neb beidio â chreu stŵr wrth wisgo trywsus coch llachar. Daw yma gyfryngis, twrneiod a hipsters, ac aelodau blaenllaw o'r teulu brenhinol hefyd (ddywedwn ni ddim pwy, nid felly mae gwneud pethau yn Nhrefdraeth). A ninnau, wrth gwrs: teuluoedd cyffredin fel f'un i, a glywodd sôn am Drefdraeth rai blynyddoedd yn ôl cyn dod yma i weld beth oedd mor dda am y lle. Rydyn ni'n dod yma ar ein gwyliau yn selog byth ers hynny; mae Trefdraeth wedi'n swyno ninnau hefyd.
Beth sydd mor dda am y lle, felly?
Cymysgedd ddigynnwrf o sawl peth, a dweud y gwir. Mae rhywbeth go hudolus am dref sydd mewn aber bach, rhywbeth i'w wneud efallai â sŵn y gylfinirod, a'r tirlun sy'n diflannu'n llwyr ddwywaith bob dydd.
Mae dewis anhygoel o fythynnod i'w rhentu, boed yn llefydd bach sy'n cuddio yng nghysgod y mynydd, neu'n dai mawr braf ar yr harbwr lle gallwch glywed tonnau'r môr.
Ceir archfarchnad fechan yn y dref, ond mae'n well gennym ni fynd i brynu cynnyrch lleol blasus gan y cigydd, o'r siop bysgod ac o'r deli. Mae'r Cnapan wedi hen ennill ei blwyf fel lle da am damaid i'w fwyta, ac mae Llys Meddyg yn fwyty ychydig yn grandiach sydd ag ystafelloedd i aros, ac yn yr haf byddant yn agor brasserie dros dro yn yr ardd gefn. Y Golden Lion yw'r dafarn orau gan bobl leol, ac fe gewch fwyd o'r radd flaenaf yno – ond mae croeso i bawb yno, peidiwch â phoeni. Mae digonedd o lefydd eraill lle gewch chi bryd tafarn syml a bwyty Indiaidd hefyd, os oes awydd gennych.
Ein hoff le i fynd am lymaid bach yw Clwb Cychod Trefdraeth lle mae'r plant yn medru rhoi cynnig ar gystadlaethau dal crancod wrth i'r oedolion wylio'r haul yn machlud dros y Traeth Mawr - milltir o draeth sydd dafliad carreg i ffwrdd dros Afon Nyfer. Mae modd cerdded neu nofio ar draws yr afon yn rhwydd er mwyn cyrraedd y traeth, neu gallwch fynd am filltir neu ddwy yn y car i groesi'r bont agosaf, ac fe gewch barcio'r car ar y traeth (a gyda llaw, mae cwrs golff rhagorol nid nepell i ffwrdd).
Anghofiwch am y car
Pur anaml y byddwn ni'n trafferthu mynd yn y car, serch hynny – mae traethau bach di-ri ar yr ochr yma o'r afon, traeth Parrog, ac yma mae man cychwyn rhai o rannau gorau Llwybr Arfordir Cymru.
Rydym wrth ein bodda yn mynd ar hyd y llwybr pedair milltir i Gwm-yr-eglwys, lle byddwch chi'n cerdded ar draws traethau bach hyfryd na fyddech chi byth yn eu gweld o'r car.
Wedyn mae llwybr penigamp arall o amgylch Pen Dinas, man uchaf Llwybr Arfordir Penfro, ac mae hwnnw'n dod i ben (trwy lwc a bendith) mewn tafarn arall ym Mhwllgwaelod.
Ond ein hoff le i fynd am dro yw'r mynydd bach sy'n codi dros Drefdraeth: Carn Ingli, mynydd angylion, lle mae olion hen bentref Oes Haearn, a'r perthi'n gyforiog o lus yng nghanol yr haf. Rydyn ni'n hoff iawn o eistedd yno'n bwyta beth bynnag sy'n weddill o swper y noson gynt, gyda llus rif y gwlith i bwdin, ac wrth edrych ar y golygfeydd anhygoel mae'n anodd peidio meddwl “A, dwi'n gweld. Am hyn mae pobl yn sôn wrth ganmol Trefdraeth...”