Ar eich beic
Mae antur ar ddwy olwyn o amgylch Sir Gaerfyrddin yn addas ar gyfer y teulu cyfan. Mae'r llwybrau beicio mynydd Sir Gâr yn dueddol o fod yn hawdd, gyda llwybrau lefel gwyrdd mewn mannau fel Allt Nant-y-Ci ger Saron, Coedwig Crychan ger Llanymddyfri, a Pharciau Gwledig Llyn Llech Owain a Phen-bre. Mae pob un yn cynnig cyfle delfrydol i feicwyr iau bedlo'n hamddenol drwy goedwigoedd deiliog.
Edrych am rywbeth mwy heriol? Llwybr coch Fforest Cwm Rhaeadr ym mlaenau Dyffryn Tywi gyda'i llethrau a'i neidiau, gyda golygfeydd o raeadr yw'r un i chi. Neu, pedlwch lwybrau amrywiol Coedwig Brechfa sy'n cynnig rhywbeth i bob gallu.
Ceir llwybrau esmwyth, heb geir, sy'n wych ar gyfer beicio fel teulu. Dewiswch o blith Llwybr Arfordir y Mileniwm ar hyd arfordir hardd Sir Gâr, llwybr Dyffryn y Swistir, sydd oddi ar yr heol, a llwybr Dyffryn Aman o Bantyffynnon i Frynaman ar hyd Afon Aman i fwynhau rai o olygfeydd gorau Sir Gaerfyrddin ar gefn beic.
Eisiau gwyliau beicio go iawn? Mae cymaint â 23 llwybr heol gwych i roi cynnig arnynt, gan gynnwys llwybrau arfordir, heolydd bach y wlad a threfi marchnad prysur.
Dysgu rhywbeth newydd
Mae digon yma i danio dychymyg plant (ac oedolion hefyd!). Gallwch droi eich llaw at bannu am aur a dysgu sut yr arferai’r Rhufeiniaid gloddio amdano ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi. Ac yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, a leolir yn hen Felin Cambrian, gallwch ddysgu sut aeth y cwilt Cymreig yr holl ffordd i Bennsylvania.
Yng Nghanolfan Gwlyptir WWT Llanelli, bydd plant wrth eu bodd yn dysgu am hwyaid a gwyddau. Mae cyfle i’w bwydo, hyd yn oed. Yn ystod yr haf, gallwch ddysgu padlo drwy rwydwaith o nentydd a llynnoedd mewn canŵ.
Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn lle bendigedig arall ble gallwch gael ysbrydoliaeth gan fyd natur. Ynghyd â’r planhigion anhygoel yn nhŷ gwydr un bwa mwyaf y byd, gallwch edrych yn fanwl ar yr hyn sy’n byw mewn pyllau dŵr yn yr Aqualab, darganfod nodweddion iachaol planhigion yn yr ardd feddyginiaethol a dysgu am hebogau, gweilch a barcutiaid yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain.
Yn Aberglasney, gallwch gael cip olwg ar erddi’r oes o’r blaen yng Ngardd y Cloestr o Oes Elisabeth y Cyntaf – yr unig enghraifft i oroesi yn y DU. Neu beth am dipyn o ddiwylliant? Ewch i Dalacharn. Yma cewch weld sut y cafodd un o’n beirdd enwocaf, Dylan Thomas, ei ysbrydoli i ysgrifennu.
Darllen mwy: Syniadau am ddyddiau gyda’r teulu yn Sir Gaerfyrddin
Cipio castell (neu blasty)
Mae Sir Gâr yn gartref i rai o’r cestyll â’r lleoliadau mwyaf rhamantus o blith holl gestyll a thai bonedd Cymru. Dyna i chi Gastell Carreg Cennen ar gopa serth, creigiog; Castell Llansteffan ar glogwyn sy’n agored i’r pedwar gwynt; Castell Talacharn ble mae dau dŵr carreg enfawr yn gwarchod gweddillion plasty Tuduraidd ysblennydd a Chastell Cydweli, ble ceir ystafelloedd a thyrrau di-ri i’w darganfod.
Mae yma blastai i’w crwydro hefyd. Mae Plas Tŷ Llanelly yn Llanelli’n adeilad Sioraidd hardd ble gallwch blymio i’r gorffennol gyda theithiau tywys. Efallai y dewch chi wyneb yn wyneb ag un o’r ysbrydion sy’n byw yma!
Ym Mhlas Dinefwr, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ynghyd â thŷ crand Gradd II*, mae 800 erw o barcdir gyda cheirw a gwartheg prin i’w cyfarfod. Dyma’r unig barcdir yng Nghymru i gael statws Gwarchodfa Natur Genedlaethol ac mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mynd am dro
Mae digoneddo lwybrau i'w cerdded yn Sir Gâr - gallwch fynd am dro bach neu heicio am ddyddiau. Mae Parc Arfordir y Mileniwm yn cynnig golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr. Mae’n berffaith ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn gyda thros 10 milltir (16 km) o lwybr gwastad fwy neu lai i’w fwynhau, a digon o gyfle i aros am baned neu hufen iâ. Yn nes ymlaen, mae darnau pellach o Lwybr Arfordir Cymru’n cynnwys cestyll, twyni, fforestydd bythwyrdd a golygfeydd gwych o ben clogwyni. Gallwch hefyd gyfuno taith ar y trên gyda mynd i gerdded. Ar hyd lein Calon Cymru gallwch gerdded yn un cyfeiriad ac wedyn neidio ar y trên i ddod yn ôl.
Mae llwybrau i'r rhai sy'n caru bywyd gwyllt hefyd, o fynd o gwmpas gwarchodfeydd natur fel RSPB Rhandirmwyn a Chanolfan Gwlyptir WWT Llanelli sy’n gyforiog o adar a bywyd gwyllt, i deithiau drwy goedwigoedd rhwng coed hynafol yn fyw gan adar a thrychfilod a llynnoedd sy’n gartref i was y neidr ac iâr fach yr haf.
Os hoffech fynd i gerdded o ddifri, ewch am y Bannau. Ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ysblennydd, mae’r cymoedd rhewlifol hyn a’u llynnoedd fel gwydr yn cynnig golygfeydd ysgubol a dringfeydd i godi curiad eich calon.
Awyr iach
Mae digonedd o weithgareddau awyr agored eraill i droi eich llaw atynt yn Sir Gaerfyrddin. Ewch i Barc Gwledig Pen-bre, er enghraifft. Mae yma barc chwarae antur, golff gwirion, pitsho a phytio, trên bychan, llwybr slediau a llethr sgïo sych. Gallwch ddarganfod y 500 erw o barcdir ar droed, ar gefn beic (gellir llogi) neu ar gefn ceffyl.
Llecyn perffaith ar gyfer marchogaeth yw’r traeth ym Mhentywyn. Dyma draeth gwastad agored 7 milltir (11 km) o hyd ble gosodwyd pedwar record cyflymder ar dir rhwng 1924 a 1927. Gall marchogion o bob gallu ymuno yn yr hwyl gyda Chanolfan Farchogaeth Marros. Neu os mai diwrnod o fwynhau’r traeth sydd gennych mewn golwg, ewch draw i weld yr 8 milltir euraidd o draeth arobryn yng Nghefn Sidan.
Chwant castio lein bysgota? Brithyll y môr, gwyniedyn, penllwyd – mae gan frithyll mudol y môr sawl enw, ond yng Nghymru, mae’r sewin uwchlaw pob pysgodyn arall. Mae afonydd Tywi, Teifi a Chothi’n mannau gwych i bysgota am sewin. A digon hawdd yw dal un heb wlychu yn un o’r marchnadoedd lleol niferus.
Darllen mwy: Beth i’w weld ar daith ar hyd glannau Teifi
Siopa'n lleol
Mae sawl un o drefi bach Sir Gaerfyrddin yn gartref i gymunedau prysur o grefftwyr sy’n creu pob math o bethau difyr i’w prynu – perffaith ar gyfer pori a siopa ychydig. Serameg, nwyddau gwydr, cerfluniau, paentiadau, gemwaith – mae llawer o artistiaid yn creu pethau unigryw o hyfryd.
Mae Llandeilo’n gartref i ddetholiad prysur o siopau bach annibynnol sy’n gwerthu nwyddau i’r tŷ, celfi unigryw, dillad a chrefftau. Chwiliwch am Oriel Mimosa am waith celf gwreiddiol gan artistiaid lleol ac ystafell arddangos y dylunydd gemwaith lleol Mari Thomas, a’i chynlluniau cain mewn arian ac aur.
Mae Llanymddyfri’n dref hyfryd gyda thai hynafol o gwmpas sgwâr heddychol, adfeilion castell a manwerthwyr diddorol, gan gynnwys nifer sy’n arbenigo mewn creiriau.
Mae gan Gastellnewydd Emlyn siopau creiriau, sebon a wnaed â llaw, siop deganau Masnach Deg ac orielau’n gwerthu gweithiau celf a gemwaith unigryw gan artistiaid lleol.
Fe welwch chi ddigonedd o ddafarndai a delis lleol cyfeillgar ymhob un o’r mannau hyn os oes chwant bwyd arnoch ar ôl yr holl siopa.
Crwydro mannau cyfagos
Er bod digon i’ch cadw’n brysur yn Sir Gâr, mae’n hawdd iawn ymweld â mannau eraill o Gymru sy’n boblogaidd iawn gan ymwelwyr hefyd. Bannau uchel Brycheiniog, traethau deniadol ac addas i deuluoedd yn Sir Benfro a Phenrhyn Gŵyr, neu edrych am Ddolffiniaid Bae Ceredigion – mae’r cyfan o fewn cyrraedd hawdd mewn car – perffaith ar gyfer mynd am dro am y dydd.
Lleolwch eich hun yn Sir Gaerfyrddin ac mae’n hawdd cadw pawb yn hapus– gellir cyfuno traethau, cerdded ac atyniadau diwylliannol ar gyfer gwyliau delfrydol i’r teulu oll.