Lle tra gwahanol fyddai Cymru heb ein straeon gwerin, ein chwedlau lleol a’r hanesion hynny sy’n rhan o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol. O Fôn i Fawddwy a Sir Frycheiniog, mae’r traddodiad llên gwerin hwnnw wedi ei wreiddio yn y tir, ac i’w weld a’i deimlo hyd heddiw, os y gwyddoch chi ym mhle i edrych. Felly dewch ar grwydr hyd Gymru benbaladr, i brofi gwefr hen stori o’r newydd.

De Cymru

Fe ddechreuwn ein taith ar garlam, gyda hanes neb llai na Guto Nyth Brân. Un o blwyf Llanwynno i’r gogledd o Bontypridd oedd Guto Nyth Brân, neu Griffith Morgan. Yn rhedwr o fri, mae straeon anhygoel am Guto, megis honno amdano yn cael ei anfon i Aberdâr i brynu burum tra bod ei fam yn rhoi’r tecell ar y tân, ac yn dychwelyd adref â’r burum cyn i’r tecell ferwi! Gallwch ymweld â bedd Guto ym mynwent Eglwys Sant Gwynno, Llanwynno. Ar ôl hynny, gallwch grwydro yng Nghoedwigaeth Sant Gwynno cyn mwynhau paned a thamaid yng Nghaban Guto (ar agor ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul).

Y llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru, mae Llyn Syfaddan i’r dwyrain o Aberhonddu wedi tanio’r dychymyg ar hyd y canrifoedd. Ymhlith y chwedlau am y llyn mae chwedl Adar Syfaddan, sy’n adrodd na fyddai’r adar yn canu ar orchymyn unrhyw un ac eithrio gwir Dywysog y Deheubarth. Dywedir i Gruffudd ap Rhys gerdded o amgylch y llyn â dau arglwydd Normanaidd, yn y cyfnod pan oedd y Saeson bron â threchu holl diroedd Brycheiniog. Fe geisiodd y Normaniaid gael yr adar i ganu ond ni ddaeth yr un trydariad i dorri ar y dydd. Dim ond yn dilyn gorchymyn Gruffudd ap Rhys y daeth cân gan bob creadur pluog. Beth am fwynhau tro o amgylch y llyn, neu logi cwch rhwyfo, a gweld os bydd yr adar yn canu i chi, cyn stopio am goffi yn yr Honey Café ger llaw?

Menyw yn cerdded dros pont ar lyn gyda cwch a choeden ar pen arall y bont.

Llyn Syfaddan

A glywsoch chi am gynllun y Tylwyth Teg a’r Adar yng Nghilfach Fargoed? Mae’n debyg mai yma yr oedd y nifer fwyaf o Dylwyth Teg Cymru yn byw ar un adeg, a hynny’n hapus nes i gawr cas symud i’r ardal, gan fwyta unrhyw dylwythen deg a ddoi dan ei droed! Bu un bachgen lleol, y tylwyth a’r adar yn cynllunio, ac un noson, gan gydweithio fe aethant ati i lofruddio’r cawr! Wedi hyn roedd rhaid llosgi ei gorff, ac ar ôl i’r tân losgi a llosgi, daethant i sylweddoli bod craig ddu, loyw yn y ddaear. Dywedir mai dyma sut y darganfuwyd glo am y tro cyntaf yng Nghwm Rhymni. Dewch yma gyda phicnic o gynnyrch lleol blasus, ac i chwilio am y tylwyth. Gellir teithio i Barc Coetir Bargoed yn rhwydd ar fws, trên neu feic. 

Y Gorllewin

Awn ar garlam tua’r Gorllewin, at fan geni un o fôr-ladron enwocaf Cymru. Un o Gasnewy-bach, rhwng Hwlffordd ac Abergwaun oedd Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu. Cafodd ei swyno gan y swnt yn llanc ifanc, ac ar y môr y bu’n gweithio ar longau masnach, hyd nes 1718. Y flwyddyn honno, cipwyd y llong yr oedd arni gan Gapten Hywel Dafydd. Wedi miwtini, lladdwyd Capten Dafydd a gwnaed Barti Ddu yn Gapten. Aeth yn ei flaen i ddal llongau niferus a’u lladrata, eu meddiannu neu eu suddo; dros 400 o longau i gyd yn ôl y chwedl! Beth am aros gerllaw ac ymweld â rhagor o safleoedd difyr yr ardal? Mae gan faes gwersylla Llys-y-frân gyfleusterau gwych a digonedd o weithgareddau dŵr a thir - mae gan Dŵr Cymru bump o safleoedd tebyg ar hyd y wlad. Mae’r dafarn gymunedol, Tafarn Sinc, yn gweini prydau cartref gerllaw yng nghanol Mynyddoedd y Preseli. 

Yn swatio reit ar arfordir deheuol Sir Benfro mae Capel Sant Gofan. Rhaid cerdded lawr grisiau cerrig i gyrraedd at y capel bach sydd wedi ei godi yn erbyn y graig. Yn ôl y sôn, mae sawl gris sydd yno yn amrywio os ydych chi’n cyfrif wrth fynd i fyny neu wrth ddod i lawr! Tu mewn i’r capel mae allor a meinciau o gerrig, ac wrth gerdded trwy ddrws mewnol dewch at hafn siâp corff dyn yn y graig. Mae un chwedl yn honni i’r graig agor yn wyrthiol i guddio Sant Gofan, ac eraill yn dweud i Iesu Grist ei hun guddio yma rhag yr Iddewon. Mae’n sicr yn lle sy’n ennyn chwilfrydedd. Beth am fynd am dro hyd draeth gogoneddus Bae Barafundle tra’ch bod yn yr ardal?

Capel bychan, carreg ar lan clogwyn.
Capel bychan, carreg ar lan clogwyn.

Capel Sant Gofan, Sir Benfro

Y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yw lleoliad Tollborth Yr Efail Wen, y gyntaf o dollbyrth yr ardal i gael ei dinistrio gan ‘Ferched Beca’, ym 1839. Dyma hanes sy’n rhan mawr o lên gwerin yr ardal, wedi i griw benderfynu gweithredu yng ngwyneb anghyfiawnder costau a gormes economaidd tollbyrth y cyfnod. Mae hanesion lu am helyntion ‘Merched Beca’; dynion oedd yn pardduo eu hwynebau, ac fel arfer yn gwisgo dillad merched. Mae’n debyg mai Twm Carnabwth o Fynachlog-ddu oedd y Beca gyntaf hon yn Yr Efail Wen. Os am ddiwrnod amrywiol, beth am ymweld â Noddfa lamaod Sir Benfro ar ôl bod yn Yr Efail Wen? Bydd rhywbeth at ddant pawb!

Y Canolbarth

Ein stop nesaf yw Pontarfynach yng Ngheredigion, ble mae pont enwog yn fwa gosgeiddig a chadarn dros afon Mynach. Nid llaw dyn a gododd y bont hon yn ôl y chwedl… Roedd buwch Megan Llandunach wedi croesi i ochr bellaf hafn ddofn yn afon, a thra ei bod yn pendroni sut i’w chael yn ôl, ymddangosodd y diafol. Cynigiodd y diafol godi pont i Megan, er mwyn iddi nôl ei buwch, ond gwyddai Megan yn iawn y byddai’r diafol yn hawlio enaid y cyntaf i groesi’r bont. Y bore wedyn, â’r bont wedi ei chwblhau, taflodd Megan dorth i ben arall y bont, a sgrialodd ei chi llwglyd ar ôl y dorth. A dyna’r diafol wedi ei dwyllo! Enaid y ci a gawsai, nid enaid Megan graff. I wneud eich trip yma yn un bythgofiadwy, beth am gyrraedd ar y trên stem o Aberystwyth? Cyn galw yng Ngwesty’r Hafod Arms am damaid o ginio.

Gan ddilyn lôn B4343 i’r de wedyn fe ddowch i bentref Tregaron, man geni un sydd wedi esgor ar nifer fawr o chwedlau a straeon gwerin; Twm Siôn Cati. Mae ambell un o’r chwedlau yn ei bortreadu fel lleidr pen ffordd, ond eraill yn honni mai dyn da ydoedd, yn dwyn gan y cyfoethog a rhoi i’r tlawd. Mae un stori dda amdano yn addo crochan am ddim i ŵr tlawd oedd ar ei ffordd i brynu crochan newydd. “Mae twll yn y crochan yma!” meddai Twm Siôn Cati wrth berchennog y siop, “rhowch o ar eich pen ac fe welwch y golau yn dod i mewn!” A thra bod hwnnw’n sefyll â chrochan ar ei ben, bachodd Twm grochan newydd sbon i’r gŵr tlawd. Gallwch weld yr ogof ble’r arferai guddio tua milltir i’r gorllewin o Ystrad Fflur. Cofiwch gadw awr i ymweld â’r abaty canoloesol crand lle claddwyd cenedlaethau o dywysogion Cymru a’r bardd, Dafydd ap Gwilym.

Gatiau haearn wedi'u haddurno â symbolau Celtaidd. Mae drws abaty Ystrad Fflur tu ôl i'r giât.

Abaty Ystrad Fflur

Tra’ch bod yn y canolbarth, beth am droi eich clust tua’r môr i geisio clywed clychau Cantre’r Gwaelod? Yn ôl y chwedl adnabyddus, boddwyd un ar bymtheg o ddinasoedd hardd yng Ngantre’r Gwaelod wedi i Seithennyn anghofio cau’r llifddorau, ar ôl yfed gormod o fedd. Mae’r olion mawn a boncyffion coed sydd i’w gweld ar drai mawr hyd draethau’r arfordir wedi bwydo’r chwedl hon ers canrifoedd. Os yn lwcus, efallai y cewch gip ar ddolffiniaid Ceredigion cyn troi am adref. Beth am syllu tua’r gorwel gyda sglodion i orffen y diwrnod?

Gogledd Cymru

Fe ddown yn ein blaenau tua’r gogledd, ble mae llawer o lên gwerin enwog wedi ei wreiddio, gan gynnwys chwedlau trist Gelert y ci, a Rhys a Meinir draw yn Nant Gwrtheyrn. Ond trown ein sylw at rai ddwy chwedl arall y tro hwn, gan ddechrau gyda chwedl Sant Beuno, ym mhentref Clynnog, ar y ffordd fawr rhwng Caernarfon a Nefyn. Gellir cyrraedd yma ar fws o’r naill le yn ddigon rhwydd. Mae sawl chwedl am Beuno, gan gynnwys yr un amdano yn croesi dros y dŵr i bregethu yn Ynys Llanddwyn, a digwydd gollwng ei lyfr pregethu i’r môr. Dywedir i’r gylfinir ei godi o’r môr a’i osod ar garreg yn ddiogel. Wedi hynny, bendithiodd Sant Beuno y gylfinir er mwyn eu diogelu, a dywed i hyn ddod yn wir gan mai anodd iawn yw darganfod nyth yr aderyn prin. Mae un o deithiau cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn cychwyn a gorffen yn Eglwys Sant Beuno

Ewch dros un o’r pontydd wedyn draw am Ynys Môn, gan stopio am gynhaliaeth ym mwyty enwog Dylan’s ym Morthaethwy os dymunwch, cyn mynd yn eich blaen i bentref Niwbwrch a thraeth Llanddwyn (mae’r goedwig gerllaw yn gartref i’r wiwer goch - cadwch lygaid amdanynt!). Mae maes parcio mawr a thoiledau yma. Ar ôl cyrraedd y tywod, trowch i’r dde a chroesi’r traeth eang nes cyrraedd giât o bren; dyma chi wedi cyrraedd Ynys Llanddwyn. Yn ôl y chwedl o’r bumed ganrif, roedd Dwynwen am briodi Maelon, ond dywedodd ei thad na allai hyn ddigwydd. Daeth ysbryd at Dwynwen yn ei chwsg gan ddweud wrthi fod Maelon wedi ei ddal mewn talp o rew, ac y byddai hithau yn cael tri dymuniad. Dymunodd i ddadmer Maelon o’r rhew, dymunodd i’w henw gael ei gysylltu â gwir gariad am byth, ac yn olaf, dymunodd na fyddai fyth yn priodi. Daeth y tri dymuniad yn wir, a daeth Dwynwen yma i’r ynys i fyw bywyd tawel fel lleian, ac mae bellach yn cael ei chofio fel nawddsant y cariadon yma yng Nghymru. Mae’n werth ymweld ag adfeilion yr eglwys, y goleudy, ac os ydych chi’n lwcus mae’n bosib y gwelwch ferlod gwyllt ar yr ynys. 

Goleudy gwyn ar ynys. Mae'r haul yn disgleirio yn y cefndir.
Coedwig gyda choed pinwydd ger y môr.

Ynys a choedwig Llanddwyn, Ynys Môn

Felly ewch ati i ddewis chwedl a lleoliad, a chychwyn ar grwydr. Mae llond gwlad o hanesion yn aros amdanoch.

I ddysgu mwy am chwedlau a llên gwerin Cymru, mynnwch gopi o Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf (Y Lolfa, 2023) 

Straeon cysylltiedig