Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am ein diwrnod arbennig a'r fenyw y tu ôl iddo.
Pwy oedd Santes Dwynwen?
Tywysoges Gymreig o’r 4edd ganrif oedd Dwynwen, oedd yn byw yn lle’r ydym ni’n ei alw nawr yn Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ni chafodd Dwynwen rhyw lawer o lwc â chariadon ac felly fe benderfynodd fod yn lleian. Gweddïodd y byddai cariadon eraill yn cael gwell lwc na chafodd hi.
Sut ddaeth Dwynwen yn nawddsant cariadon Cymru?
Dwynwen oedd y ferch harddaf o blith 24 o ferched Brenin Brychan Brycheiniog. Syrthiodd mewn cariad â bachgen lleol o’r enw Maelon Dafodrill, ond roedd ei thad eisoes wedi trefnu ei bod yn priodi tywysog arall. Nid oedd Maelon yn hapus o gwbl pan glywodd y newyddion ac felly fe ffodd Dwynwen yn ei dagrau i’r goedwig ac erfyniodd ar Dduw i’w helpu hi. Daeth angel i ymweld â Dwynwen a rhoi hylif hud melys iddi er mwyn iddi allu anghofio am Maelon ac fe drodd Maelon yn golofn o iâ.
Yna rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Ei dymuniad cyntaf oedd i Maelon gael ei ddadlaith; ei hail ddymuniad oedd i Dduw helpu cyplau oedd yn caru ei gilydd, a’i thrydydd dymuniad oedd na fyddai hi byth yn priodi. Yn ddiolch i Dduw, trodd Dwynwen yn lleian a sefydlu lleiandy ar Ynys Llanddwyn, llecyn bach hardd ar Ynys Môn. Ystyr ei henw yw ‘merch â’i bywyd wedi ei fendithio’.
Fel mae’n digwydd, yn ogystal â bod yn nawddsant cariadon Cymru, mae Dwynwen hefyd yn nawddsant anifeiliaid sâl. Felly os yw eich byji yn sâl, gallech chi roi cynnig ar weddïo ar Santes Dwynwen cyn galw’r milfeddyg (dydyn ni ddim yn addo y bydd hyn yn gweithio, cofiwch).
Pryd mae Dydd Santes Dwynwen?
Rydym ni’n dathlu Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr bob blwyddyn.
Beth sy'n digwydd ar Ddydd Santes Dwynwen?
Rydym ni’n rhoi ac yn derbyn cardiau ac anrhegion, yn anghofio am y byd a’i bethau ac yn mwynhau prydau bwyd arbennig gyda’r rhai rydym ni’n eu caru... bydd rhai yn mynd am dro hir ar hyd draethau diffaith ac eraill yn swatio o flaen tanllwyth o dân.
Ymweld ag Ynys Llanddwyn
Llanddwyn yw un o’r mannau harddaf a mwyaf rhamantus yng Nghymru. Fe ddowch o hyd i’r lle yng nghornel de-orllewin Ynys Môn, heibio pentref Niwbwrch. Dyma dri rheswm da pam y dylech chi ymweld â Llanddwyn:
- Mae’n eithriadol o hardd. Mae traeth baner las Llanddwyn, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel traeth Niwbwrch, yn cuddio tu ôl i dwyni a choedwig sy’n gartref i wiwerod coch a haid o gigfrain (adar sy’n paru am byth, yn ddigon addas). Mae’r ardal gyfan yn warchodfa natur â golygfeydd syfrdanol dros y Fenai tuag at fynyddoedd Eryri.
- Mae Ynys Llanddwyn yn benrhyn - a pan mae'r llanw ar drai mae modd cerdded draw, ond cofiwch edrych ar yr amseroedd llanw a pharatoi o flaen llaw. Ar y pentir fe welwch ddau oleudy, ambell fwthyn ar gyfer peilotiaid (sy’n troi’n ganolfan ymwelwyr yn ystod gwyliau’r haf) ac adfeilion prydferth Eglwys Santes Dwynwen. Fe’i codwyd ar dir y lleiandy a sefydlwyd ganddi yn y 5ed ganrif, a dyma lle y dywedir iddi gael ei chladdu.
- Mae sawl ffynnon a ffrwd ar yr ynys, gan gynnwys Merddyn Cil a Ffynnon Dafaden (mae ei dŵr yn gallu iacháu dafadennau – sydd ddim yn beth rhamantus iawn rhaid cyfaddef). Yn bwysicaf oll ar gyfer cariadon, mae’n debyg fod Ffynnon Dwynwen yn gartref i lyswennod sy’n gallu rhagweld a yw eich perthynas yn mynd i lwyddo ai peidio.
Ac os nad yw ynys brydferth ac arni lyswennod hud ddim yn rysáit perffaith ar gyfer rhamant, yna cofiwch am ddywediad enwocaf Santes Dwynwen: ‘Does dim yn ennill calon cystal â sirioldeb’.
Anfonwch gerdyn Santes Dwynwen
I'ch helpu i ddathlu Dydd Santes Dwynwen, mae gennym gerdyn prydferth y gallwch ei anfon at eich cariad.
Mae un fersiwn y gellir ei hargraffu (argraffwch y cerdyn mewn lliw ar bapur A4 - plygwch, yna plygwch eto), neu mae llun y gellir ei osod mewn negeseuon e-bost i anfon neges electronig o gariad.