Pryd o fwyd allan
Thomas by Tom Simmons, Caerdydd
Bwyd Ffrengig sydd wedi ysbrydoli’r fwydlen ym mwyty'r cogydd adnabyddus Tom Simmons, ond cynhwysion lleol sydd wedi eu defnyddio i greu’r prydau. Mae bwydlen Santes Dwynwen arbennig y bwyty yn cynnig gwledd chwe chwrs am £75 gyda chynhwysion fel cig oen Sir Gaerfyrddin a bara becws Ground yn serennu.
Pryd o fwyd adref
Dylan’s, Porthaethwy a Chonwy
Mae gan Dylan's siopau ym Mhorthaethwy a Chonwy yn gwerthu cynnyrch lleol ffres a phrydau a phitsas i bobi adref. Yn ddiweddar fe lansiwyd Pasta Môn - dewis o basta ffres, sawsiau ac antipasti. Y ffordd hawdd o goginio pryd rhamantus adref.
Bocsys blasus
Mae nifer o fusnesau yn cynnig bocsys o ddanteithion wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Santes Dwynwen, y gellir eu postio i unrhyw le. Mae bisgedi Sweet Snowdonia o Gonwy yn anrheg perffaith i gyd-fynd â chwpan o goffi neu wydriad o bybli, ac yn gallu cael eu dosbarthu yn lleol yn ardal Conwy neu eu hanfon trwy’r post i unrhyw le.
Digwyddiadau unigryw
Gigs Santes Dwynwen
Gigs 25 Ionawr, 2025
- Steve Eaves a Rhai Pobl, Lloft, Y Felinheli. Bydd bwydlen tapas arbennig ar gael.
- Bob Delyn a'r Ebillion, Neuadd Ty'n y Porth, Penmachno.
- TewTewTennau, Bau Cat + Maddy Elliot, Neuadd Goffa Llanfair Talhaearn
- Gwilym Bowen Rhys Trio + Elin a Carys, Cae Cymro, Clawddnewydd
- Morgan Elwy, Tŷ Siamas, Dolgellau
- Pedair, Neuadd Coedybryn, Ffostrasol
- Alffa + Mattoidz + Ffatri Jam, Cwrw, Caerfyrddin
- Rhys Gwynfor a'r Band + Cwtsh, Clwb y Bont, Pontypridd
Am fwy o gigs Cymraeg ewch i wefan awni?
Celf, crefft a chariad
Dathliad o gariad platonic trwy gelf a chrefft. Cyfle i greu breichledi gyda ffrindiau a theulu dan arweiniad yr artist Mari Gwenllian (HIWTI).
Gŵyl Caru dy Iechyd Meddwl
Digwyddiadau amrywiol yn Sain Ffagan, Big Pit a'r Amgueddfa Wlân yn dangos sut all amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth wella eich iechyd meddwl. Ymysg y gweithgareddau mae gweithdai gwehyddu, perfformiadau cerddorol, teithiau natur, a gweithdy creu calon metel gyda gof.
Anrhegion
Mêl Gwenyn Gruffydd
Mêl Cymreig a gynhyrchir yn Sir Gaerfyrddin. Mae Gwenyn Gruffydd yn gwerthu pecynnau Santes Dwynwen arbennig sy'n cynnwys canhwyllau a nwyddau harddwch wedi eu creu o gwyr gwenyn.
Siocled Mr Holt's
Siocled Cymreig y cogydd o Fôn, Richard Holt. Mae'r ffatri yn Llangefni yn cynhyrchu wyth o fariau siocled gwahanol, pob un gydag enw Cymraeg. Y cwmni teuluol sydd hefyd yn rhedeg Melin Llynon.
Macarŵns melys
Macarŵns mafon a fanila gan un o gaffis gorau'r gorllewin, Crwst. Archebwch ar-lein ac yna casglu o'r siop yn Aberteifi.