Beth sydd ymlaen ar Ynys Môn?

Mae calendr digwyddiadau Ynys Môn yn llawn dop. Gwyliau bwyd, sioeau amaethyddol, digwyddiadau i blant, perfformiadau a ffeiriau – yn enwedig dros y gwanwyn a’r haf. Am y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd ar Ynys Môn, edrychwch ar dudalen Facebook Croeso Môn.

Pont fynedfa yn mynd i mewn i gastell.
Llwybr Arfordir Cymru, Porth-y-nant, Ynys Môn.
pobl yn cerdded ar draeth.

Henebion, llwybrau cerdded deniadol a thraethau cudd – mae’r cyfan yma.

Deg peth i’w gwneud ar Ynys Môn

Yn ôl y coelion Celtaidd, cafodd y goresgynwyr Rhufeinig ofn enfawr pan ddaethant wyneb yn wyneb â derwyddon Môn. Rydyn ni’n falch o ddweud bod croeso cynhesach i ymwelwyr erbyn heddiw!

Pont Grog y Borth (Pont Menai)

Mae’n annhebygol y gallwch osgoi’r uchafbwynt hwn ym Môn, sef pont grog Pont y Borth. Mae’n bosib iawn y byddwch chi’n gyrru drosti.

Adeiladwyd y bont gan Thomas Telford a’i hagor yn 1826, a dyma’r bont grog fodern gyntaf yn y byd. Mae’n cysylltu’r tir mawr â Phorthaethwy – un o bum tref Môn. Cyn adeiladu’r bont, byddai ffermwyr gwartheg yn gorfod perswadio’u gwartheg i nofio ar draws Afon Menai er mwyn eu gwerthu yn y farchnad.

Pont y Borth o’r awyr.

Pont Menai, Ynys Môn

Llwybr Arfordir Ynys Môn

Mae nifer o leoedd sy’n werth ymweld â nhw ar hyd 140 milltir/225km Llwybr Arfordir Môn. Mae’n amgylchynu’r ynys gyfan. Mae gan wefan Cyfeillion Llwybr Arfordir Ynys Môn fapiau defnyddiol a disgrifiadau manwl o 12 adran y llwybr.

Yn ogystal â mynd heibio’r arfordir ysgubol, mae’r llwybr yn arwain cerddwyr drwy dir fferm, rhostir arfordirol, twyni a rhannau bach o goedwig. Ymysg yr uchafbwyntiau mae goleudy Ynys Lawd, bwaon y môr ym Mwa Gwyn, a blodau gwyllt ac adar twyni Aberffraw.

Rhywun ar bont garreg yn edrych i gyfeiriad traeth.

Cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru yn Aberffraw

Ynys Llanddwyn

Y darn rhamantus hwn o dir sy’n ymestyn o dir mawr Môn yw un o’r lleoliadau harddaf yng Nghymru.

Bu’r adfail o eglwys yn gartref unwaith i Santes Dwynwen, nawddsantes y cariadon, tua’r bumed ganrif AD. Pan drowyd ei gwir gariad Maelon yn rhew, bu Dwynwen yn ddigon doeth i symud i Landdwyn – ac mae’n siŵr na fu iddi ddifaru am eiliad. Mae traeth Llanddwyn yn gildraeth clyd â thywod perffaith, a choedwig enfawr yn gefn iddo, sy’n gartref i’r wiwer goch. 

Darllen mwy: Dydd Santes Dwynwen 

Goleudy Llanddwyn a'r traeth yn haul cryf y gaeaf
Llun o'r goleudy ar y graig yn y môr

Ynys Llanddwyn, Ynys Môn

Y Deyrnas Gopr

Cewch eich syfrdanu ymhob cwr o Fôn, ac un o’r syrpreisys mwyaf yw Amlwch. Dyma fwynglawdd copr mwyaf y byd ar un adeg.

Rhaid gweld tirwedd unigryw Mynydd Parys cyn credu eich llygaid – ehangder o gopaon a chymoedd ymhob lliw brown, melyn ac oren y gallwch ddychmygu. Yn y ddeunawfed ganrif, daeth pobl o bob cwr o’r DU yma i gloddio am gopr, gan ddechrau ar y Rhuthr Cymreig am Gopr. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn adrodd straeon y bobl fyddai’n gweithio yma dan amodau peryglus yn aml.

Goleudy Ynys Lawd

Mae Goleudy Ynys Lawd yn unigryw – fe’i lleolir ar ynys (Ynys Lawd), oddi ar ynys (Ynys Cybi), oddi ar ynys (Môn) yng nghyrion pellaf gorllewin Môn.

Mae cyrraedd y fan yn antur ynddi’i hun (ac efallai ddim y syniad gorau os ydych chi’n dioddef o’r bendro). Rhaid dringo 400 o risiau ar ochr y clogwyn, a chroesi pont fry uwchlaw’r tonnau brochus. Gall ymwelwyr fynd ar daith o gwmpas yr ystafell beiriannau cyn dringo’r grisiau cul a serth i’r pen i gael golygfeydd ysgubol allan i’r môr.

Mae modd gweld pob math o adar môr fan hyn; cyn bo hir, byddwch chi’n chwarae’r gêm adnabyddus ‘gweld-y-pâl’! Os ydych chi’n ffodus iawn, efallai y gwelwch rai o’r brain coesgoch prin sy’n byw yma ymysg y gwylogod a’r llursod sy’n glynu wrth y graig.

Goleudy ar glogwyn gyda glaswellt

Goleudy Ynys Lawd, Ynys Môn

a Gerddi Plas Newydd

Arferai Tŷ a Gerddi Plas Newydd, a leolir ar lan Afon Menai, fod yn gartref i Ardalydd Môn, ac mae’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif.

Bellach, rheolir y safle gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’n wledd o ystafelloedd addurnedig Neo-glasurol, a llawer ohonynt yn cynnwys papur wal a deunyddiau cywrain. Mae’r lle’n llawn dop o gelfi anarferol hefyd. Efallai mai’r eitem fwyaf nodedig yma yw’r darlun enfawr a beintiwyd gan yr artist Rex Whistler, a arferai ymweld yn rheolaidd â’r tŷ tua dechrau’r ugeinfed ganrif. Y tu fas ceir gerddi sy’n cynnig golygfeydd panoramig dros Afon Menai i gyfeiriad mynyddoedd ysblennydd Eryri – ac mae yma arboretwm Awstralaidd hefyd. Mae’r tŷ wrthi’n cael ei adnewyddu’n helaeth, felly gwiriwch wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael manylion.

Golygfa allanol o Blas Newydd dan drwch o dyfiant deiliog coch gyda’r môr yn y cefndir.

Tŷ a Gerddi Plas Newydd, Ynys Môn

Gwarchodfa Natur Nant y Pandy

Os ydych chi’n chwilio am las y dorlan, cnocell y coed ac ieir dŵr, dyma’r lle i chi.

Dyffryn coediog hynafol 25 erw o faint yw Gwarchodfa Natur Nant y Pandy. Dyma guddfan heddychlon sy’n drwch o glychau gog yn y gwanwyn, ac sy’n gartref i bob math o fywyd gwyllt. Gosodwyd pomprennau, rhodfeydd a meinciau i’w gwneud hi’n haws mwynhau afon Cefni wrth iddi fyrlymu drwy’r coed. Cadwch lygad ar agor am y cerfluniau gan artistiaid lleol, gan gynnwys gwas y neidr a chodau hadau enfawr.

Melin Llynon

Melin Llynon, a adeiladwyd yn 1775, yw'r unig felin wynt gweithredol yng Nghymru. Mae'n cynhyrchu blawd mal gwenith cyflawn yn defnyddio grawn organig. Mae yma hefyd ddau dŷ crwn, sy'n nodweddiadol o fywyd ffermwyr yr Oes Haearn, tua 3000 o flynyddoedd yn ôl. Ar y safle heddiw mae'r pobydd adnabyddus, Richard Holt, yn gweini ei fwyd a diod greadigol, gan gynnwys Mônuts, siocled a jin.

Traethau

Mae’n anodd dewis ffefryn, ond Traeth Lligwy yw un o’r goreuon – bae eang, cysgodol ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr ynys. Mae’r llethr yn raddol iawn yma, a’r dŵr yn fas. Mae digonedd o dywod euraid hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant. Efallai y gwelwch forloi a dolffiniaid yn y môr ac mae’r awelon cyson yn golygu bod hwn yn lle poblogaidd gan hwyl-fyrddwyr a barcut-fyrddwyr hefyd.

Edrychwch ar fap o draethau Ynys Môn, a darganfyddwch draethau braf gan gynnwys Benllech, Porth Dafarch a Llanddwyn

Teulu yn archwilio traeth creigiog a thywod yn y pen pellaf
Traeth Niwbwrch o’r awyr.

Traethau Benllech a Llanddwyn

Castell Biwmares

Mae Cymru’n gartref i gannoedd o gestyll, yn llythrennol, ond hwn, heb os, yw un o’r goreuon – cadarnle enfawr sydd bron yn hollol gymesur.

Castell Biwmares yw’r castell mawr olaf o fri i’w adeiladu ond heb ei orffen yn llwyr, dan ofal Edward I yn y 13eg ganrif. Pan gafodd ei adeiladu, dyma oedd y cynllun mwyaf arloesol erioed ar gyfer dylunio cestyll. Oherwydd diffyg arian, a thrafferth gyda chadw’r Albanwyr trafferthus mewn trefn, ni lwyddwyd i orffen porth y de na’r chwe thŵr mawr i’w taldra bwriedig. Peidiwch â meddwl am eiliad fod hyn yn rheswm dros osgoi ymweld, cofiwch – mae digonedd o goridorau dirgel a grisiau tro cul sy’n aros i gael eu darganfod.

Castell Biwmares o’r awyr.

Castell Biwmares, Ynys Môn

Straeon cysylltiedig