Gogledd Cymru
Porthdinllaen, Pen Llŷn
Saif Tŷ Coch reit yng nghanol traeth un o bentrefi glan y môr harddaf y wlad, ac fe gewch yno ddewis gwych o ddiodydd lleol. Mae Porthdinllaen ei hun yn bentref bach sy’n cael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae ceir wedi eu gwahardd, ac felly er mwyn cyrraedd yno mae’n rhaid cerdded rhywfaint unai ar hyd y traeth, dros frig y clogwyn neu ar hyd cwrs golff enwog Nefyn. Unwaith y cyrhaeddwch chi Dŷ Coch, bydd gennych chi wydr yn eich llaw, mi welwch chi gopaon yr Eifl yn ymestyn dros y bae, gallwch olchi’ch traed blinedig yn y môr a bydd popeth yn dda yn y byd.
Darllen mwy: Cerdded a chrwydro Llŷn
Llwybr Hanes Llangollen, Dyffryn Dyfrdwy
Eglwysi canoloesol, adfeilion cestyll, golygfeydd dros Ddyffryn Dyfrdwy a llwybrau cerdded (gweddol) hawdd – mae llawer o bethau i’w hargymell ar hyd Llwybr Hanes Llangollen. Gyda lwc, fe welwch chi ddyfrgwn ger Rhaeadr y Bedol – ond os ddim, gallwch chi wylio’r caiacau yn gwibio i lawr yr afon o deras tafarn y Corn Mill yn Llangollen, neu wylio trên stêm Rheilffordd Llangollen yn tuchan i’r orsaf ar draws yr afon.
Yr Wyddfa, Eryri
Llwybr Llanberis yw’r llwybr mwyaf poblogaidd i fyny’r Wyddfa, yn naw milltir (14.5km) o hyd ac yn rhedeg ochr yn ochr â Rheilffordd yr Wyddfa yr holl ffordd i’r copa. Gallwch chi hefyd barcio ym Mhen y Pas a dechrau ar hyd Llwybr y Mwynwyr, ond mae’n hanfodol eich bod yn rhagarchebu lle parcio – neu gorau oll, daliwch y bws Sherpa i lle rydych chi’n bwriadu dechrau. Os ydych chi awydd peint ar ôl yr holl gerdded, mae’r Vaynol Arms yn lle da, tra bo Pen-y-Ceunant Tea House yn cynnig diodydd lleol a digon o gymeriad.
Gorllewin Cymru
Yr Heol Aur, Sir Benfro
Mae cerddwyr wedi troedio Mynyddoedd y Preseli ers canrifoedd. Mae’r Heol Aur yn llwybr masnach Neolithig sy’n eich tywys chi i weundir sy’n frith o gylchoedd cytiau Neolithig a meini hirion. O’r mynyddoedd hyn y daeth cerrig gleision Côr y Cewri. Y nod yw cyrraedd Foel Cwmcerwyn, copa uchaf y mynyddoedd hyn. Yr ail nod yw ymweld â Thafarn Sinc: wedi ei adeiladu o haearn rhychiog, cafodd y dafarn ei hachub gan y gymuned leol wedi apêl rhyngwladol i godi arian.
Gerllaw mae Trefdraeth, y lle gorau ar gyfer cerdded yr arfordir. Fe gewch chi beint a chroeso gan Gymry Cymraeg lleol yn nhafarn y Llwyngwair, neu ewch draw i’r Golden Lion am fwyd tafarn o safon uchel.
Darllen mwy: Tafarndai Cymunedol Cymru
Abereiddi i Borth-gain, Sir Benfro
Byddai llunio rhestr lawn o’r holl deithiau cerdded tafarn ar hyd arfordir hyfryd Sir Benfro yn beryg o fod yn ormod i’r we, ac felly fe setlwn ni am ddim ond un. Ewch heibio’r Morlyn Glas (y Blue Lagoon) am daith gerdded dwy filltir uwch y clogwyni i gyrraedd harbwr bychan Porth-gain. Er mwyn dilyn taith gerdded tafarn go iawn, rhaid stopio yn y Sloop Inn, tafarn sy’n cynnig cwrw lleol a bwyd da, neu os ydych chi am blygu’r rheolau rhyw ychydig, gallwch chi fwynhau sgod a sglods ffansi yn The Shed. Wrth ichi gerdded am adre, llosgwch y calorïau drwy ddringo’r grisiau i lawr i Draeth Llyfn - mae’n draeth go arbennig ac yn un nad yw’n cael ei droedio’n rhy aml gan ei fod allan o’r ffordd.
Talacharn, Sir Gâr
Rydym ni ar drywydd Dylan Thomas i ddarganfod y glannau (yr ‘heron priested shore’, chwedl yntau) a’r bryniau coediog a ysbrydolodd waith y bardd. Mae Llwybr Dylan yn daith gerdded gylchol dda, sy’n mynd â chi heibio’r prif atyniadau i gyd, yn cynnwys cartref Dylan Thomas sy’n cael ei adnabod fel y Boat House, ei sied ysgrifennu, a mynwent yr eglwys lle cafodd ei gladdu yn 1953. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n talu dyledus barch drwy oedi am beint yn hoff dafarn Dylan, Brown's Hotel. Dyna fyddai o wedi ei ddymuno, wedi’r cwbl.
De Cymru
Y bryniau tu ôl i Gaerdydd
Anelwch am y gogledd o’r brifddinas tu draw i’r M4 ac fe gyrhaeddwch chi le gwledig yn gyflym iawn. Y bryncyn amlycaf yw Mynydd y Garth, ac ar droed y bryn fe gewch chi’r Gwaelod-y-Garth Inn, man dechrau/gorffen poblogaidd ar gyfer taith gerdded gylchol fer ond serth i fyny Mynydd y Garth. Mae fersiwn hirach o’r daith yn dechrau ar lawr y dyffryn yn Ffynnon Taf. Draw yr ochr arall i’r dyffryn, mae Mynydd Caerffili yn lle da am deithiau cylchol â’r Black Cock Inn byth yn rhy bell i ffwrdd.
Tyndyrn, Sir Fynwy
Roedd abaty enwog Tyndyrn o’r 13eg ganrif yn un o abatai gorau’r Deyrnas Unedig, nes i Harri VIII ddod a’i ddinistrio yn y 1500au. Yn raddol, fe drodd melin seidr wreiddiol yr abaty yn dafarn The Anchor, man dechrau ein teithiau cerdded cylchol ar hyd afon Gwy a llwybr Clawdd Offa, ac i mewn i ganol y bryniau sydd gyferbyn. Mae’r lle hwn yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac felly mae’r olygfa orau o Abaty Tyndyrn i’w gweld o ochr Lloegr fel mae’n digwydd – o Bwlpid y Diafol. Does dim fel teithio o un wlad i’r llall i ehangu gorwelion a chodi syched. Mae’r ardal hon yn un sy’n gyfeillgar iawn i gŵn hefyd – felly mae digon o ddewis o lwybrau addas i fynd â’r ci am dro.
Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Bro Morgannwg
Mae’r 14 milltir (23km) o Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn denu llai o bobl nag y mae Sir Benfro neu Gŵyr, sy’n ei wneud yn dipyn o gyfrinach yn lleol. Mae clogwyni a’u patrymau ffosil yn plymio i lawr i’r baeau tawel, ac mae’r mewndir gwledig yn frith o eglwysi hynafol a phentrefi bychan. Mae Llanilltud Fawr yn ddewis da ar gyfer dod o hyd i beint ar ôl cerdded, lle mae nifer o gaffis a thafarndai, yn cynnwys tŷ tafarn hynaf y dref, yr Old Swan Inn.
Darllen mwy: Bro fy mebyd, Bro Morgannwg
Canolbarth Cymru
Tal-y-bont, Ceredigion
Mae taith gylchol 6 milltir (10km) Ysbryd y Mwynwyr yn anelu i fyny am y bryniau o Dal-y-bont gan gynnig golygfeydd gwych o Ddyffryn Dyfi a Chadair Idris. Mae’n rhan o lwybr llawer mwy sy’n nadreddu ei ffordd drwy’r bryniau. Mae man dechrau/gorffen y rhan hon yn cael ei gwarchod gan dafarn sy'n croesawu cŵn - y White Lion.
Cors Caron, Ceredigion
Nid oes gan gorsydd yr un urddas cerdyn-post â’r mynyddoedd, ond maen nhw’n gyforiog o fywyd gwyllt. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn un o’r cyforgorsydd mawnog mwyaf cyntefig ym Mhrydain, yn ferw o weision y neidr, madfallod a dyfrgwn, tra bo’r barcud coch, y boda tinwyn, y gylfinir a’r ehedydd yn gwarchod yr awyr uwchben. Mae llwybrau wedi eu marcio sy’n addas i bob lefel (gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn), tra bo modd i gerddwyr pellter hir a beicwyr ddilyn Llwybr Ystwyth sy’n 20 milltir (32km) ac sy’n arwain i lawr i Aberystwyth. Eich tafarn leol yma yw’r Talbot, tafarn sy’n galon i’r gymuned yng nghanol Tregaron.
Darllen mwy: Bro’r Barcud: Tregaron a thu hwnt
Crughywel, Powys
Wedi ei leoli yn ardal dlos y Mynyddoedd Duon, mae Crughywel yn dref farchnad o safon uchel. Does dim prinder teithiau cerdded o’r fan hon, maen nhw’n amrywio o fynd am dro hamddenol ar lwybrau gwastad ar hyd Afon Wysg a chamlas Mynwy ac Aberhonddu, i deithiau cerdded mwy heriol i fyny Crug Hywel ac ymlaen i Ben Cerrig-calch, y mynydd sy’n gefnlen hardd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Yn ôl yn y dref, mae digon o dafarndai hefyd, yn cynnwys tafarn The Bear sydd ar ffurf hen lety ceffyl a choets, neu’r dafarn yng ngwesty’r Dragon Inn sy’n croesawu cŵn.
Darllen mwy: Antur ddiwylliannol ym mryniau Canolbarth Cymru