Penrhyn Gŵyr
Dyma griw go ddiog (a finnau’n un ohonyn nhw) yn penderfynu gwneud cymaint o gampau ag y gallan yn y dŵr mewn cyfnod byr o amser, heb i ni fagu traed fel hwyaid. Penrhyn Gŵyr yw’r lle i wneud stŵr yn y dŵr.
Cefais fy magu ar gyrion yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Mae’r ardal wyllt hynod hon yn ymestyn yr holl ffordd i Fôr Hafren o Abertawe, ail ddinas Cymru – tipyn o wrthgyferbyniad, felly. Byddai fy ffrindiau i gyd yn gwisgo’u siwtiau gwlyb yn y gaeaf ac yn mentro i’r môr, ond roedd yn llawer gwell gen i eu gwylio o’r traeth, neu’n well fyth, o sedd gyfforddus mewn car, gyda’r gwresogydd wedi ei droi reit i fyny.
Does unman i guddio’r tro hwn
Awn i’r dŵr o dan adain Tîm Gweithgareddau Antur Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Yn ystod tymhorau’r ysgol mae’r tîm yn gofalu am filoedd o blant a phobl ifanc o bob cwr o’r de. Mae’r cyfleusterau’n rhagorol a phopeth yn gweithio fel wats, ond nid dyna’r cyfan. Yr hyfforddwyr yw calon ac enaid y tîm. Mae Chris a Tony, sy’n ein tywys bob cam o’r ffordd, yn meddu ar dros 30 mlynedd o brofiad rhyngddynt. Diolch i’r ddau yma mae’r profiad yn rhoi llawn cymaint o fwynhad ag y byddai treulio’r prynhawn o flaen y teledu gyda bocs o DVDs Terry Gilliam yn un llaw a chlamp o gacen gaws fawr i bawb ei rhannu yn y llall.
Syrffio
Yr her gyntaf i ni roi cynnig arni yw syrffio. I wneud hyn mae’n rhaid i ni fynd i Rosili, y bae bendigedig lle mae Pen Pyrod yn ymestyn i’r môr yn un pen, a thwyni tywod mawr Llangenydd yn codi ar y pen arall. Mae’n lle delfrydol i ddechreuwyr, ac mae’r plant yn cymryd at y gamp fel hwyaid at ddŵr. Finlay yw’r un cyntaf i godi ar ei draed, yn reidio’r tonnau dwy droedfedd i’r lan, a thydi Minnie ddim yn rhy bell ar ei ôl. Er mod i wedi gwylio Point Break ddegau o weithiau, dwi’n anobeithiol, yn cael trafferth padlo i’r dŵr hyd yn oed, ac mor osgeiddig â hipo ar gefn beic wrth geisio reidio’r tonnau.
Penrhyn Gŵyr yw’r lle i wneud stŵr yn y dŵr.
Does dim ots. O’r olwg ar wynebau’r plant wrth ddod o’r dŵr ar ôl eu gwers syrffio gyntaf, dwi'n credu y byddai’r arbenigwyr yn dweud eu bod nhw’n ‘stoked’.
Arfordira
Rydyn ni’n symud ymlaen i arfordira. I rywun anwybodus fel fi, ymddengys mai’r syniad yw taflu’ch hun o ben clogwyn, yn gwbl ffyddiog nad oes unrhyw beryglon yn eich disgwyl islaw. Rydych chi’n gwisgo helmed ar eich pen a siwt wynt am eich canol, sy’n gaffaeliad mawr wrth badlo’ch ffordd tua’r naid nesaf. Fe gawn ni hwyl ofnadwy ar hyn, ac mae’n ddigon o her i ni fod yn falch o’n hymdrechion. Mae’n anhygoel gweld dau blentyn yn plymio i’r tonnau heb unrhyw fath o ofn, ar ôl magu hyder o dan arweiniad yr hyfforddwyr brwdfrydig.
Caiacio
Dwi'n cynnig y disgrifiad hwn unwaith eto ar sail fy anwybodaeth, ond i mi mae caiacio’n golygu rhwyfo yn osgeiddig a grymus – a chael y fath boenau yn eich ysgwyddau fel petaech wedi bod yn cario llond sach o datws. Ond coeliwch chi fi, mae’n werth yr ymdrech.
Fel gyda’r syrffio, mae’r plant fel hen lawiau o’r cychwyn cyntaf, a’u tad mor drwsgl ag arfer o flaen cynulleidfa fawr, yn bwrw i mewn i Finlay, yn troi fy nghaiac drosodd, ac yn syllu’n ddi-glem ar fy nghamera tanddwr wrth iddo suddo’n araf o dan y don. Wrth i’r plant fynd amdani i gyfeiriad Dyfnaint, dwi'n treulio’r pedair awr a hanner nesaf yn crwydro o un pen o Borth Einion i’r llall yn gobeithio gweld y tonnau’n golchi fy nghamera i’r lan. Yn y pen draw mae’r llanw’n mynd allan a daw’r plant o hyd i’r camera, yn yr union fan lle gollais i’r peth. O’r ffordd maen nhw’n dathlu, gallech feddwl eu bod wedi ennill Cwpan y Byd, ac maen nhw’n llawn haeddu gwobr fawr o hufen iâ. Pawb ar ei ennill!
Hwylio
Ar ran ola’r daith hon ar y dŵr fe fyddwn ni’n hwylio. Dyma’r peth mwyaf traddodiadol i ni ei wneud drwy’r dydd, ac erbyn hyn mae pawb wedi dechrau blino ar ôl ein holl orchestion, felly mae’n braf gweld ein hyfforddwr, Jonathan, yn ein tywys i gornel gymharol dawel o Farina Abertawe. Minnie yw’r un fwyaf medrus a dygn ohonom, a dyna sydd ei angen, yn ôl pob golwg. Meddyliwch am ryw ffurf mwy cymhleth ar geir taro, ac fe gewch chi ryw syniad o’r ffordd y mae’r teulu George yn hwylio’u cychod. Ond ar ôl cael cymaint o hwyl ar y gweithgareddau eraill, mae’n syndod mai dyma’r un gorau oll. ‘Roedd hynny’n lot o hwyl,’ meddai Finlay, cyn claddu brechdan Nutella, y bwyd arbennig sydd wedi’n cynnal drwy’n holl gampau yn y dŵr.
Casgliadau
Mae’n deg dweud ein bod wedi cael andros o hwyl ar syrffio, arfordira, caiacio a hwylio, a hynny yn un o’r llefydd harddaf y gallwn ei ddychmygu ym Mhrydain. Os ydych chi’n credu mai rhywbeth i bobl arbennig o heini a dygn yw mynd ar anturiaethau fel hyn, efallai ei bod yn amser i chi ailystyried.
Os gall hen bethau diog fel ni ei wneud e, does dim i rwystro neb arall. Ac i’r tadau yn eich plith, chewch chi’r un teimlad gwell na gweld eich merch yn ei harddegau yn estyn am eich llaw, fel yn yr hen ddyddiau. Roedd hi wedi blino ac yn cael trafferth mynd i fyny’r bryn, cofiwch, ond mae’n dal yn cyfri’!