Castell ac Amgueddfa’r Fenni
Mae Castell ac Amgueddfa’r Fenni mewn lleoliad gwych ar gyfer syllu ar y sêr ac mae yma amrywiaeth o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd.
Castell Aberhonddu
Mae Castell Aberhonddu yn sefyll uwchben afon Honddu.
Castell Bronllys
Castell o’r ddeuddegfed ganrif yw Castell Bronllys a hwnnw’n rhoi golygfeydd gwych.
Castell Carreg Cennen
Mae’r golygfeydd yn drawiadol yn adfeilion rhamantus Castell Carreg Cennen.
Castell Dinefwr
Mae Castell Dinefwr yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif a mae’n sefyll uwchben Dyffryn Tywi.
Castell Crucywel
Mae adfeilion Castell Crucywel o’r drydedd ganrif ar ddeg yn agos i’r dref.
Castell Cyfarthfa
Mae casgliad o gelf gain ac addurniadol ynghyd ag arteffactau hanesyddol i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa.
Castell y Gelli
Mae Castell y Gelli yn sefyll yng nghanol tref y Gelli Gandryll.
Castell Llanymddyfri
Adfeilion yw Castell Llanymddyfri gyda golygfeydd braf, ac mae’n lle da am bicnic.
Castell Rhaglan
Pensaernïaeth drawiadol sy’n gwneud Castell Rhaglan yn gastell unigryw ei olwg.
Castell Tretŵr
Wedi’i adeiladu i amddiffyn ac i ddangos grym, mae Llys a Chastell Tretŵr yn ffenestr i’r gorffennol.
Y Castell Gwyn
Y Castell Gwyn sydd yn y cyflwr gorau o ‘Dri Chastell’ Sir Fynwy.
Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fe ddewch chi ar draws adfeilion cestyll hudolus a phlastai crand o bob math. Codwyd rhai yn ystod adegau o frwydro ffyrnig am rym a chomisiynwyd eraill gan berchnogion cefnog.
Faint o gestyll sydd ym Mannau Brycheiniog?
Mae gan Gymru gasgliad trawiadol o tua 400 o gestyll, gyda phob un ohonyn nhw’n cynnig profiadau unigryw. Talcen caled felly yw creu rhestr fer o’r cestyll gorau. Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y cestyll hyn sy’n frith drwy Fannau Brycheiniog. Beth am ddiwrnod allan yn crwydro o gastell i gastell, neu ymweld â phob un ohonyn nhw dros ychydig ddyddiau?
Castell ac Amgueddfa’r Fenni
Gerllaw’r Parc Cenedlaethol mae Castell ac Amgueddfa’r Fenni yn Sir Fynwy. Yn ogystal ag edmygu’r castell Normanaidd o’r unfed ganrif ar ddeg, fe gewch ddysgu stori’r dref yn yr amgueddfa, a honno wedi’i lleoli mewn porthdy hela o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae adfeilion y castell yn sefyll mewn llecyn strategol ar fryn sy’n edrych dros afon Wysg, a hynny’n rhoi golygfa eang o’r tir o’u cwmpas. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yma. Mae’n lle da hefyd i syllu ar sêr ac mae digonedd o bethau eraill i’w gwneud yn y Fenni a'r cyffiniau.
Castell Aberhonddu
Mae gweddillion tŵr trawiadol Castell Aberhonddu yn edrych dros afon Honddu sy’n ymuno ag afon Wysg yn Aberhonddu. Gan fod y castell yn rhan o westy The Brecon Castle, dim ond o’r tu allan y mae modd ei weld.
Castell Bronllys
Mae gan Gastell Bronllys yn Nhalgarth, Powys, orthwr cerrig o ganol y ddeuddegfed ganrif, a hwnnw’n sefyll ar ben mwnt cynharach. Dringwch dri llawr y tŵr i gael golygfeydd anhygoel dros afon Llynfi. Mae’r mynediad i’r castell yn rhad ac am ddim ac mae’n safle sy’n croesawu cŵn.
Castell Carreg Cennen
Mae’n dipyn o ddringfa serth i ben Castell Carreg Cennen, ond mae’r golygfeydd godidog o Sir Gaerfyrddin yn golygu y bydd yr ymdrech yn talu ar ei chanfed. A hwnnw wedi’i adeiladu ar graig galchfaen, mae gan y ‘castell o fewn castell’ hwn borthdy dau dŵr. Tywysogion Cymreig Deheubarth a gododd y castell cyntaf yng Ngharreg Cennen, ond mae’r adfeilion sydd i’w gweld heddiw yn dyddio yn ôl i gyfnod y Brenin Edward I. Mae'r adfeilion rhamantus hyn, a ysbrydolodd yr artist JWM Turner, i’w canfod tua phum milltir i’r de o Landeilo, a hynny mewn rhan anghysbell o’r Parc Cenedlaethol. Mae’n golygu bod hwn yn lle gwych i syllu ar y sêr. Mae’r castell hefyd yn croesawu cŵn ac mae’n fan cychwyn ar gyfer dwy daith gylchol.
Castell Dinefwr
A hwnnw’n dyddio yn ôl i’r ddeuddegfed ganrif, mae Castell Dinefwr ger Llandeilo yn sefyll i’r gorllewin o Fannau Brycheiniog. Mae’n yma olygfeydd syfrdanol o Ddyfryn Tywi, a hynny oherwydd ei bwysigrwydd strategol. Codwyd y castell gan Rhys ap Gruffydd, neu’r Arglwydd Rhys, tywysog teyrnas Deheubarth. Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes Cymru, a bu yma sawl brwydr am rym wrth iddo newid dwylo dros y canrifoedd. Er iddo ddod yn adfail yn ystod yr Oesoedd Canol, daeth yn fan picnic poblogaidd yn y ddeunawfed ganrif, diolch yn rhannol i’w do conigol anarferol. Mae’r castell yn croesawu cŵn ac mae wedi’i amgylchynu gan barcdir hardd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Parc Dinefwr.
Castell Crucywel
Mae Castell Crucywel o’r drydedd ganrif ar ddeg, neu Gastell Alisby, yn gastell mwnt a beili a gafodd ei ddinistrio i raddau helaeth gan luoedd Owain Glyndŵr. Mae’r adfeilion hyn yn cynnwys amlinelliad y mwnt, rhannau o’r llenfur, a phorthdy adfeiliedig. Mae gan y porthdy hwnnw elfennau fel porthcwlis a phont godi, sy’n dangos sut y byddai’n cael ei ddefnyddio fel prif fynedfa ac i amddiffyn y castell. Gall ymwelwyr ddringo’r mwnt i gael golygfeydd o’r dref a’r mynyddoedd. Ger yr adfeilion, fe welwch gae chwarae sy’n berffaith ar gyfer rhedeg o gwmpas neu gael picnic. Mae yma hefyd ardal chwarae i blant bach. At hynny, mae’r castell yn agos at y siopau lleol yn nhref farchnad Crucywel. Ewch i Ganolfan CRiC i gael gwybodaeth am yr ardal, i gael cip ar yr oriel, neu i fwynhau paned o de neu goffi.
Castell Cyfarthfa
Os byddwch chi’n crwydro Bannau Brycheiniog, beth am fynd ar daith 20 milltir i Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful – lleoliad cyfleus a gwerth chweil. Roedd yr adeilad rhestredig Gradd I hwn, a godwyd yn 1824, ar un adeg yn gartref i deulu Crawshay, y gwneuthurwyr haearn. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd y castell ei droi yn ysgol ac yn ddiweddarach yn amgueddfa ac oriel gelf.
Mae’r rheilffordd fach yn adlewyrchu hanes diwydiannol y rhanbarth ac mae’n teithio heibio i’r llyn prydferth. Ac mae’n addas i gadeiriau olwyn hefyd. Mae Castell Cyfarthfa hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, felly achubwch ar y cyfle i ymweld â’r ardal. Yn ystod eich ymweliad, ewch i fwynhau paned o de a sgon wedi’i phobi’n ffres yn Julie’s Castle Tea Room.
Castell y Gelli
Mae Castell y Gelli i’w ganfod yng nghanol tref lyfrau enwog y Gelli Gandryll. Mae’r castell yn cynnwys cyfuniad o amddiffynfeydd canoloesol ac adnewyddiadau modern. Yn ganolog iddo, mae tŵr o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Wrth ei ymyl mae plasty Jacobeaidd gyda simneiau crand, ffenestri myliynog mawr, a gwaith plastr manwl. Mae’r porthdy sydd wedi’i adfer yn creu mynedfa fawreddog, ac mae’r castell wedi’i amgylchynu gan erddi hardd. Heddiw, mae Castell y Gelli yn ganolfan bwysig ar gyfer diwylliant, y celfyddydau ac addysg, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yno drwy gydol y flwyddyn. Mae’n un o leoliadau Gŵyl y Gelli, un o wyliau llenyddol mwyaf a gorau’r byd, sy’n cael ei chynnal yn y dref bob blwyddyn ddiwedd y gwanwyn. Mae’r cyfleusterau i ymwelwyr yn cynnwys caffi, siop anrhegion, a thoiledau. Mae ymdrechion wedi’u gwneud i sicrhau bod Castell y Gelli yn hygyrch, gyda lifftiau a rampiau.
Castell Llanymddyfri
Fe gewch fwynhau golygfeydd prydferth o Gastell Llanymddyfri, sydd wedi’i guddio yng nghanol y pentref. Roedd yn olygfa drawiadol yn ei anterth yn ystod y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg, ac mae'r adfeilion yn rhoi syniad i ni o’i bensaernïaeth a’i hanes canoloesol. Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes cythryblus y Mers, gan newid dwylo sawl gwaith rhwng y Cymry a'r Saeson. Ymhlith nodweddion amlycaf y castell mae tŵr canolog, gweddillion y lloriau is, waliau beili, a phorthdy sydd mewn cyflwr da. Mae capel y castell yn ddi-do ond mae’r ffenestri gwydr lliw yn dal yno. Mae’r ffos yn sych ar y cyfan, ond mae ei hamlinelliad i'w weld o hyd. Cadwch lygad am y cerflun o Llewelyn ap Gruffydd, tywysog Gwynedd. Mae’r mynediad i Gastell Llanymddyfri yn rhad ac am ddim, ac mae maes parcio gerllaw.
Darllen mwy: Dilynwch ôl-traed tywysogion Gwynedd
Castell Rhaglan
Mae Castell Rhaglan yn nodedig am ei bensaernïaeth ryfeddol a’i bwysigrwydd hanesyddol. Codwyd y castell gan Syr William ap Thomas, marchog Cymreig, ac fe’i ehangwyd yn ddiweddarach gan ei fab, Syr Wiliam Herbert. Mae’r golygfeydd godidog o gefn gwlad i’w gweld o sawl man gwahanol yn y castell. Mae’r lefel isaf yn addas i gŵn, sy’n golygu y gallwch chi fwynhau picnic gyda’ch cyfaill pedair coes.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn crwydro o amgylch tyrau mawreddog y castell, y neuaddau crand a’r gerddi hardd. Mae’r bensaernïaeth a’r dyluniad yn rhoi cipolwg hudolus o fywyd canoloesol, tra bo’r arddangosfeydd hanesyddol ledled y safle’n datgelu hanes rhyfeddol y castell.
Castell Tretŵr
Mae gan Lys a Chastell Tretŵr yng Nghruchywel dŵr crwn enfawr, a hwnnw wedi’i godi i amddiffyn ac i ddangos grym. Adeiladwyd y castell yn wreiddiol yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif fel castell mwnt a beili, a gwnaed newidiadau sylweddol iddo dros y canrifoedd. Teulu dylanwadol Picard oedd yn berchen ar y castell cyn iddo fynd i ddwylo’r teulu Vaughan yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ewch i mewn i’r neuadd fawr, sydd wedi’i gosod ar gyfer gwledd foethus yn ystod y 1460au, ac ewch am dro yn yr ardd, sydd wedi’i hail-greu yn steil y bymthegfed ganrif. Beth am fynd â’r teulu cyfan am ddiwrnod allan, a hyd yn oed eich anifail anwes, gan fod lefel isaf Tretŵr yn addas i gŵn?
Y Castell Gwyn
Ar gyrion y Parc Cenedlaethol fe ddewch chi ar draws y Castell Gwyn, sydd ag enw addas iawn. Dyma’r castell sydd wedi goroesi orau o’r ‘Tri Chastell’, sy'n cynnwys Castell Grysmwnt a Chastell Ynysgynwraidd, a oedd yn rhan o arglwyddiaeth ganoloesol gan y Mers a sefydlwyd gan y Normaniaid. Credir mai’r Arglwydd Edward (y Brenin Edward I yn ddiweddarach) a gododd y castell gwreiddiol. Mae’n lle addas i gŵn ac mae nifer o fyrddau picnic ar gael, sy’n golygu ei fod yn lleoliad perffaith i fwyta’ch cinio.