Castell Dolwyddelan
Wrth deithio ar hyd yr A470 o Flaenau Ffestiniog tuag at Betws-y-Coed, fe ddewch ar draws un o gestyll cynhenid Gymreig enwocaf Cymru.
Ond nid pawb sy’n ymwybodol bod dau gastell yn Nolwyddelan. Os ewch i fyny i fylchfur y castell presennol, ac edrych i lawr tua dyffryn yr Afon Lledr, gallwch weld bryncyn creigiog yn y cae islaw, lle'r oedd tŵr bach carreg yn sefyll cyn i’r castell mwy gael ei adeiladu. Yn ôl traddodiad, ganwyd Llywelyn Fawr, tywysog Gwynedd, yn yr hen gastell yma oddeutu’r flwyddyn 1170. Llywelyn adeiladodd y mwyafrif o’r cestyll brodorol sy’n dal i sefyll o gwmpas Gwynedd – Criccieth, Dolbadarn, Castell y Bere, a Dolwyddelan ei hun.
Mae’r castell mwy cynhenid yn y dyffryn yn nodweddiadol o’r cestyll a adeiladwyd yng Ngwynedd cyn i Llywelyn ddod i lywodraethu'r deyrnas oddeutu’r flwyddyn 1200, ac mae’r castell y gallwch ymweld ag ef heddiw yn symbol o’r newidiadau ddaeth yn ystod teyrnasiad Llywelyn.
Castell weddol fychan yw Dolwyddelan, ond mae’r ddau dŵr – un yn adfail ac un wedi ei atgyweirio yn y 19eg ganrif – yn cynnig golygfeydd trawiadol dros ddyffryn y Lledr a Moel Siabod.
Cyrraedd – gellir dal trên neu fws i Ddolwyddelan, mae’r castell ryw filltir o’r orsaf drenau.
Hefyd yn yr ardal:
Eglwys Dolwyddelan – eglwys o oddeutu 1500 sy’n cynnwys cerfluniau pren hyfryd, a chloch St Gwyddelan, cloch law o’r flwyddyn 800.
Tomen y Mur – Caer Rufeinig mewn safle anhygoel uwchben pentref Trawsfynydd, gyda mwnt hen gastell Normanaidd yn ei chanol. Yn ôl chwedlau’r Mabinogi, dyma oedd cartref Blodeuwedd.
Castell Harlech
Beth sy’n gwneud castell yn un Cymreig? Y sawl wnaeth ei adeiladu, neu yr hanes ehangach sydd ynglwm ag ef? Yn achos Castell Harlech, mae’r ateb yn un cymhleth. Er i’r castell gael ei godi fel cyfanwaith gan luoedd Edward I yn rhan o’i goncwest o Wynedd yn 1283, dros ganrif ar ôl ei adeiladu roedd Harlech yn gadarnle i fudiad hollol wahanol. Dyma un o brif gestyll Glyndŵr, safle ei brif lys a senedd Gymreig annibynnol.
Cyn i Edward adeiladu castell yma, roedd carreg Harlech eisoes yn chwedlonol enwog. Dyma lle’r oedd Bendigeidfran, brenin Prydain, yn eistedd gyda’i lys yn gweld llongau Matholwch, brenin Iwerddon, yn agosáu ar ddechrau Ail Gainc y Mabinogi.
Llongau eraill oedd yn bwysig i Owain Glyndŵr – mae’n debyg taw'r gefnogaeth a gafodd Glyndŵr o Ffrainc, a’r llynges ddaeth yn sgil y gefnogaeth honno, alluogodd ei fyddinoedd Cymreig i gipio cestyll Harlech ac Aberystwyth gan y Saeson erbyn 1404.
Tra bod Harlech ymhell o’r môr erbyn hyn, yn y canoloesoedd roedd y llongau yn gallu hwylio at y porth isaf ar waelod y clogwyn, Porth y Dŵr. Y flwyddyn ganlynol, yn 1405, cynhaliwyd senedd yn y castell.
Wrth grwydro’r castell, dychmygwch gynrychiolwyr o Gymru yn cyrraedd senedd Glyndŵr – pedwar cynrychiolydd o bob cwmwd o Gymru, yn ôl llygad-dyst hanesyddol. Yma hefyd y byddai Llys Glyndŵr wedi derbyn llysgenhadon tramor o Ffrainc, Castille a’r Alban. Mae’r ffenestri mawr sy’n wynebu’r môr yn nodi lleoliad y neuadd fawr, oedd gan fwy na thebyg le canolog yn nefodau a rhwysg y llys. Yn 1923, yn y ward tu hwnt i’r ffenestri, darganfyddwyd ddarn o addurn harnais ceffyl (sydd nawr yn Sain Ffagan), sydd â phatrwm arfbais Glyndŵr fel tywysog Cymru arni – darn sy’n goroesi o gyfnod Harlech fel prif lys y Cymry.
Cafodd y castell ei gipio yn ei ôl yn 1409 gan y Saeson, ar ôl gwarchae hir a phoenus lle gipiwyd Catrin, merch Owain Glyndŵr, a'i wraig Mared, a’u carcharu yn nhŵr Llundain. Erbyn 1413 roedd Catrin wedi marw – yn yr un lle, yn ôl y chwedl, lle claddwyd pen Bendigeidfran gynt.
Yn bensaernïol, felly, mae Harlech yn gofeb o goncwest Cymru gan Edward I, ond o ran hanes, gellir dadlau bod y lle'r un mor berthnasol i hanes y tywysogion Cymreig ag unrhyw fan – safle senedd, llys, a thrasiedi.
Cyrraedd – gellir dal trên neu fws i Harlech. Mae’r orsaf drenau ymhell islaw y castell.
Hefyd yn yr ardal:
Castell Criccieth – un o gestyll prydferthaf y tywysogion Cymreig, yn wynebu Harlech dros y môr. Mae arddangosfa arbennig yn rhan o’r pris mynediad, sy’n esbonio natur llysoedd y tywysogion Cymreig.
Gwarchodfa Natur Ceunant Llennyrch – un o’r fforestydd glaw Celtaidd a safle hynod o brydferth, ond sydd hefyd a chysylltiad â’r Mabinogi. Yn ôl y traddodiad canoloesol, cafodd Pryderi fab Pwyll ei gladdu naill ai ger yr afon yma, neu yn eglwys Maentwrog gerllaw.
Castell Dinas Brân
Un o gestyll mwyaf trawiadol Cymru, yn sefyll ar fryn uchel uwchben Llangollen a dyffryn coediog y Dyfrdwy. Castell a godwyd i bawb gael ei weld oedd hwn, a phan gafodd ei adeiladu yn y 1260au, mae’n amlwg bod tywysogion Powys Fadog yn datgan eu pŵer yn wyneb bygythiadau o Loegr. Mae’r castell i’w weld yn gwbl amlwg o’r dwyrain. Pan rannwyd Powys yn ddwy ar ôl rhyfel cartref yn yr 1160au, tueddai De Powys i ochri gyda brenin Lloegr, tra roedd tywysogion Gogledd Powys yn tueddu i gefnogi Gwynedd. Roedd Gruffudd ap Madog, a adeiladodd y castell yn ôl pob tebyg, yn gynghrair ffyddlon i Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Cymru.
Cafodd y castell ei adeiladu ar safle hen fryngaer o’r Oes Haearn, ynghanol tirwedd a oedd yn bwysig i dywysogion Powys am ganrifoedd. Yn y cwm i’r gogledd-orllewin, safai croes neu golofn Eliseg, a godwyd yn y 9fed ganrif er mwyn coffau Elisedd ap Gwylog, brenin Powys o’r 8fed ganrif. Yma hefyd oedd Abaty Sistersiaidd Glyn y Groes, lle claddwyd nifer o dywysogion Powys Fadog.
Mae’r castell heddiw yn adfail, ond mae olion sylweddol o’r gorthwr hirsgwar a’r porth wrth ei ochr, ynghyd â thwr sylweddol siâp y llythyren ‘D’. Mae tyrau o’r siâp yma yn nodweddiadol o gestyll tywysogion Cymreig o’r 13eg ganrif. Mae tebygrwydd mawr rhwng cynllun y castell yma â chynllun castell Llywelyn ap Gruffudd yn Nolforwyn, sydd hefyd yn awgrymu’r agosatrwydd rhwng tywysogion Powys Fadog â rhai Gwynedd.
Cyrraedd – mae bws y T3 yn gwasanaethu Llangollen, ac mae’n bosib cerdded i’r castell o ganol y dref – ond mae’r wâc yn un serth a heriol.
Hefyd yn yr ardal:
Glyndyfrdwy – un o ddisgynyddion tywysogion Powys Fadog ar ôl y goncwest oedd Owain Glyndŵr. Tra bod ei lys yn Sycharth yn enwog o’r gerdd ganwyd iddo gan y bardd Iolo Goch, yma, yng Nglyndyfrdwy, y dewisodd Owain ddatgan ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400, a dechrau ei wrthryfel. Mae bryncyn wrth ymyl yr A5 yn nodi safle’r llys, er mae’n bosibl bod plasty Glyndŵr mewn cae cyfagos, lle mae olion y ffos oedd yn amgylchynu’r tŷ i’w gweld mewn pwll bach.
Glyn y Groes a Cholofn Eliseg – mynachlog oedd yn bwysig i dywysogion Powys Fadog a Glyndŵr ill dau, a’r groes o 800 OC y mae’r fynachlog wedi ei enwi ar ôl.
Castell Powis
Dyw plasty godidog Castell Powis ddim yn cael ei ystyried fel castell Cymreig ym meddwl y cyhoedd, ond serch hyn mae’r safle unwaith eto yn arddangos rhai o gymhlethdodau hanes Cymru yn y canoloesoedd. Nid oedd pob tywysog Cymreig yn gefnogol o ymgais tywysogion Gwynedd i uno’r Cymry dan eu baner, a rhai o brif elynion Llywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd ill dau oedd tywysogion De Powys. Powys Wenwynwyn yn nyffryn Hafren oedd calon y deyrnas, gyda thre’r Trallwng, abaty Sistersiaidd Ystrad Marchell, a chastell Powis yn ffurfio llinell o safleoedd pwysig ar hyd yr afon – tref, abaty, a chastell.
Mae’n debyg bod rhannau hynaf y castell yn ddyddio’n ôl i gyfnod Gruffudd ap Gwenwynwyn, a oedd yn elyn mawr i Llywelyn ap Gruffudd. Er i Llywelyn ddinistrio castell Gruffudd yn 1274, Gruffudd oedd ar ei ennill wedi i Llywelyn gael ei ladd gan luoedd Edward I yn 1282. Ildiodd y teitl Tywysog Powys, gan ail-ddiffinio ei diroedd a’i statws ei hun fel un o arglwyddi’r Mers – ac o ganlyniad fe gadwodd ei diroedd a’i gastell. Mae’n debyg bod y muriau deheuol, sy’n syllu i lawr ar y gerddi ysblennydd, yn dyddio i gyfnod Gruffudd, tra bod y ddau dŵr mawr o gwmpas y brif fynedfa yn dyddio o gyfnod ei ferch, Hawys. Priododd Hawys arglwydd Seisnig o’r enw John Charlton. Cafodd gweddill y castell ei adeiladu dros gyfnod o wyth canrif, o’r canoloesoedd hyd heddiw.
Wrth grwydro ystafelloedd moethus y castell, neu syllu o’r teras at y gerddi islaw, mae’n werth ystyried sut y bu i’r castell yma oroesi, tra bod castell Llywelyn o Wynedd, Dolforwyn, sydd ymhellach i fyny dyffryn yr Hafren, yn adfeilion llwyr. Roedd yn rhaid i dywysogion Powys gadw’r ddysgl yn wastad rhwng grymoedd pwerus o’r ddau gyfeiriad – tywysogion Gwynedd tua bryniau’r gorllewin, a brenhinoedd Lloegr o gyfeiriad gwastadeddau’r dwyrain. Trwy ddewis ochri gyda Lloegr, llwyddodd Gruffudd i gadw ei deyrnas ynghyd, ond arweiniodd hyn hefyd at ei diroedd a’i gastell i newid yn raddol i fod yn rhan o fyd diwylliannol arglwyddi teyrnas Lloegr – moethus a chyfoethog, yn hytrach nag adfeilion rhamantaidd ei elynion yng Ngwynedd.
Cyrraedd – gellir dal trên neu fws i’r Trallwng, ac mae castell Powis ryw filltir o ganol y dref.
Hefyd yn yr ardal:
Dolforwyn – castell a adeiladwyd gan Llywelyn ap Gruffudd yn y 1270au i amddiffyn ffin ddwyreiniol ei dywysogaeth. Bron yn syth ar ôl i’r castell gael ei orffen, syrthiodd i’r Saeson yn rhyfel 1277. Mae’r adfeilion mewn ardal brydferth a choediog o ddyffryn Hafren.
Eglwys Tysilio Sant, Meifod – eglwys bwysicaf teyrnas Powys, cyn i abaty Ystrad Marchell gael ei sefydlu yn y 12fed ganrif. Claddwyd Madog ap Maredudd, brenin olaf Powys oll yno yn 1160, ac mae cerrig cerfiedig o’r oesoedd canol cynnar dal i’w gweld yn yr eglwys.
Darllen mwy: Mwynder Maldwyn
Castell Dinefwr
Un o gestyll pwysicaf y De, Dinefwr oedd canolfan bwysicaf teyrnas y Deheubarth. Roedd statws brenin canoloesol yn cael ei fesur yn ôl yr iawndal oedd yn rhaid ei dalu iddo, ac yn ôl cyfraith Hywel Dda, roedd statws brenin Dinefwr yn cael ei fesur mewn gwartheg gwynion. Er mwyn talu iawndal i’r brenin, byddai’n rhaid gosod llinell barhaus o wartheg gwynion, yn sefyll pen-i-gynffon, o Argoel (ger Dryslwyn) i gastell Dinefwr, pellter o ryw bedair milltir! Mae brîd hynafol y gwartheg gwynion dal i grwydro parc Dinefwr hyd heddiw.
Y Cantref Mawr oedd cadarnle tywysogion y Deheubarth – canol Sir Gâr, yn ymestyn o ddyffryn y Tywi i ddyffryn Teifi, gyda bryniau a fforestydd trwchus Caeo yn ei chrombil. Castell Dinefwr oedd llys hynafol yr ardal yma, a daeth yn symbol o rym brenhinol tywysogion y De, yn enwedig o dan yr Arglwydd Rhys. Mae’n debygol taw ei fab, Rhys Gryg, a adeiladodd ddarnau cynharaf y castell, wrth i deyrnas yr Arglwydd Rhys ddadfeilio mewn rhyfeloedd cartref. Gwaith Rhys, mae’n debyg, yw’r gorthwr crwn sy dal i ddominyddu’r castell, er bod y ffenestri ar ben y tŵr yn perthyn i dŷ haf a adeiladwyd yn y 17eg ganrif. Ar ôl cyfnod canoloesol y castell, daeth yn rhan o ystâd fonheddig, ac o’r cyfnod hwnnw y daw y tirwedd prydferth a’r goedwig drwchus sy’n ei amgylchynu. Yn y canoloesoedd roedd tref fychan y tu allan i furiau’r castell – ac ry’ ni’n gwybod bod Gwilym Wasta, gŵr a ysgrifennodd nifer o lawysgrifau Cyfraith Hywel Dda sydd erbyn hyn i’w canfod yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn un o fwrdeiswyr ‘Trenewydd’, tref castell Dinefwr, oddeutu 1300.
Cyrraedd – gellir dal bws neu drên i Landeilo, yna mae’r castell ryw filltir a hanner o wâc o ganol Llandeilo.
Hefyd yn yr ardal:
Dryslwyn – un arall o gestyll tywysogion Deheubarth, a’r castell Cymreig mwyaf o ran arwynebedd. Yn sefyll ar fryn prydferth, mae golygfeydd eang dros ddyffryn Tywi. Dadorchuddiwyd yr adfeilion niferus yn yr 1990au. Yn 1287, roedd 11,000 o filwyr yn amgylchynu’r castell mewn gwarchae.
Carreg Cennen – un o gestyll enwocaf Cymru, gydag ogof oddi tano. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r castell ar ôl oes y tywysogion, ond castell Cymreig oedd yma yn wreiddiol.
Abaty Talyllychau – mynachlog a sefydlwyd gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth a rheolwr enwocaf Dinefwr. Mae’r adfeilion yn sefyll rhwng dau lyn hardd.
Castell Nanhyfer
Mae cestyll Normanaidd neu Seisnig Cymru yn tueddu i fod yn llawer mwy trawiadol na’u cefndryd Cymreig, a chastell digon di-nod yw Nanhyfer o ran tyrau a waliau. Serch hyn, mae ei leoliad a’i bwysigrwydd hanesyddol yn gwneud y safle wir werth ymweld ag ef. Aeth y castell yn ôl ac ymlaen rhwng dwylo arglwyddi Eingl-normanaidd Cemaes a thywysogion Cymreig Deheubarth trwy’r 12fed ganrif. Wrth i’r arglwyddi sylweddoli bod safle Nanhyfer dan fygythiad cyson y tywysogion Cymreig, symudon nhw ganolfan eu harglwyddiaeth i Drefdraeth – y ‘new port’ – ac i gastell carreg sydd heddiw yn gartref preifat. Mewn carreg yr adeiladodd dywysogion Deheubarth gastell hefyd, cyn gorfod gadael y castell yn 1195. Dyma sy’n gwneud Nanhyfer yn gastell mor ddiddorol – mae’n cynnig cipolwg o’r math o gestyll roedd tywysogion Cymru yn dechrau eu hadeiladu wrth iddynt symud o ddefnyddio pren, a dechrau adeiladu gyda charreg.
Heddiw, mae’r castell yn ymddangos fel cae siâp triongl, gyda chloddiau o’i gwmpas. Gallwch weld olion adeiladau sylweddol o fewn yr ardal yma, ond mae darnau mwy sylweddol ar ddwy big y triongl. Tua’r gorllewin, ar ben mwnt neu motte sy’n dyddio i gyfnod Normanaidd y castell, mae olion tŵr crwn. Roedd y tyrau yma yn nodweddiadol o gestyll arglwyddi’r Mers a thywysogion Cymreig ill dau – er enghraifft mae esiamplau ym Mhenfro, Bronllys, Dinefwr, Dolwyddelan, a Chastell Meredydd. Efallai mai dyma’r tŵr lle cafodd yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth, ei garcharu gan ei ddau fab, Maelgwn a Hywel Sais, yn 1194. Ar y pen arall, mae olion tŵr sgwâr ac adeiladau eraill oedd yn ffurfio math o gastell bach o fewn y castell ehangach.
Digon cymysg ac anghyson yw pensaernïaeth y castell – mae’n amlwg ei fod yn dod o gyfnod arbrofol, pan oedd nifer o ffasiynau gwahanol yn cael eu coleddu. Mae’n ymddangos taw castell cyfagos Aberteifi oedd y cyntaf i dywysog Cymreig, yr Arglwydd Rhys, ei adeiladu mewn carreg – dyma lle cynhaliodd Rhys y wledd fawr yn 1176 sy’n cael ei gweld fel yr Eisteddfod gyntaf. Ond gan fod Aberteifi wedi cael ei ail-adeiladu dro ar ôl tro, mae Castell Nanhyfer yn cynnig darlun cliriach o’r math o gastell yr oedd yr Arglwydd Rhys a’i feibion yn eun hadeiladu yn y 12fed ganrif.
Cyrraedd – mae’r bws T5 yn stopio llai na milltir o’r pentref, ac mae’n bosib cerdded o fan hyn i’r castell.
Hefyd yn yr ardal:
Croes ac Eglwys Nanhyfer – mae’r hen eglwys yn cynnwys carreg Ogam, gyda arysgrifiad mewn Lladin a Gwyddeleg – Gwyddeleg oedd iaith yr ardal yn y canoloesoedd cynnar. Mae croes Nanhyfer yn esiampl arbennig o groes uchel o’r 11eg ganrif, o gyfnod cyndadau’r Arglwydd Rhys yn Neheubarth.
Castell Henllys – math hyn o gaer, caer o’r oes haearn a ailadeiladwyd yn ddiweddar gyda chytiau crynion. Efallai bod castell hwyrach Nanhyfer wedi ei ailadeiladu ar safle tebyg, felly mae Castell Henllys yn cynnig cipolwg o orffennol posib y castell.