Fe ddois ar wyliau i Gymru pan oeddwn yn blentyn, gan syrthio mewn cariad â’r lle ar unwaith.
Dw i’n dod o Efrog, ond o’r pwynt hwnnw ymlaen, roeddwn i’n gwybod mai dyma’r lle i fyw ynddo. Roeddwn i hefyd yn caru ceffylau pan oeddwn yn ifanc: roeddwn i’n eu marchogaeth yn saith oed, a chefais fy merlen gyntaf yn 11 oed. Roeddwn i hefyd wrth fy modd gyda chychod, a dw i’n byw ar un tua phedair milltir i ffwrdd o Lanfa Llangollen. Dw i’n teithio i’r gwaith bob dydd ar gwch. Felly, oes, mae gen i un o’r swyddi gorau yn y byd!
Pan symudais i Gymru gyntaf, bûm yn gweithio fel dylunydd graffeg am bum mlynedd, cyn gweld y swydd hon.
Roeddwn i bron â marw eisiau dychwelyd at geffylau a gweithio yn yr awyr agored, ac yn sydyn roeddwn i’n gweithio ar Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Roedd y daith gyntaf arni yn dipyn o brofiad – wedi’r cyfan, dyma’r draphont fordwyol uchaf yn y byd. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n arswydus. Mae eraill yn meddwl mai dyma’r peth gorau maen nhw wedi ei weld erioed. Pan fyddwch chi arni, mae’n teimlo fel eich bod chi mewn awyren, yn fy marn i. Mae fel eich bod yn hedfan.
Yn ystod y tymor prysuraf, mae fy niwrnod fel arfer yn dechrau am 7.30.
Rydyn ni’n llenwi’r tanciau dŵr, yn gwirio’r peiriannau, ac yn glanhau’r cychod fel eu bod yn barod erbyn 9. Yna, mae’r cwsmeriaid yn dechrau cyrraedd, ac rydyn ni’n eu harwain drwy’r briffiau diogelwch a’u dysgu sut i lywio. Mi fyddaf wedyn yn mynd i nôl y ceffylau a’u cerdded nhw drwy Langollen. Mae’r bobl leol yn caru hynny. Maen nhw’n eu methu nhw’n arw yn y gaeaf. Dw i’n eu methu nhw hefyd, ond byddaf bob amser yn mynd i dreulio amser gyda nhw. Yn ystod y gaeaf, pan na fydd hi’n glawio, byddaf yn peintio’r cychod.
Mae gennym bum ceffyl ar hyn o bryd, ac mae gan bob un ei bersonoliaeth ei hun.
Daeth Geordie atom o Newcastle, ac yn 30 oed, ef yw bachgen hynaf y lanfa ac mae bellach wedi ymddeol. Hercules, sy’n 12 oed, yw’r ail hynaf ac mae’n gallu bod braidd yn ddiflas weithiau, ond mae’n caru cael cwtsh. Mae Harley wedyn fel peiriant pan mae’n gweithio, ond mae fel brawd bach diniwed hefyd. Mae’n gwneud pethau dwl fel rhoi ei ben ar benolau’r ceffylau eraill – pan allai gael ei gicio. Ond mae’r lleill yn gwybod mai dim ond dangos ei gariad tuag atyn nhw mae Harley! Mae Tobias yn gobyn nodweddiadol gwych sy’n bwrw ymlaen â’r gwaith. Ond dyw e ddim yn hoffi bod i ffwrdd o’r lleill yn hir. Dakota yw’r ieuengaf. Mae’n sensitif, deallus ac, er bod hyn yn swnio’n wirion, mae’n gwrtais iawn. Mae bob amser yn gwneud yr hyn y mae gofyn iddo ei wneud.
Mae rhoi gofal da i’r ceffylau yn hanfodol bwysig.
Maen nhw’n byw mewn milodfa, yn hytrach na stablau, ac rydyn ni’n gadael iddyn nhw dreulio amser yn y cae i ddatblygu. Maen nhw hefyd yn cael porthiant da er mwyn cryfhau. Yn ystod hyfforddiant, rydyn ni’n defnyddio llais tyner wrth eu gorchymyn i gerdded a throtian. Yna, mae’n rhaid iddyn nhw dynnu rhaff sydd â darn o bren ar ei diwedd yn ysgafn: maen nhw’n dechrau deall sut deimlad yw tynnu cwch drwy hyn. Pan fydd pob dim yn ddiogel, rydyn ni’n eu tywys i fyny i’r llwybr tynnu, fel eu bod yn dod i arfer â’r awyrgylch. Yna, cawn weld beth sy’n digwydd!
Does gennym ni ddim ceffylau ar y draphont ei hun, wrth gwrs, ond mae llawer o deuluoedd yn dod.
Dw i wrth fy modd pan ddaw rhieni, a arferai ddod i’r draphont pan yn blant, i rannu eu hatgofion. Byddaf bob amser yn arafu’r cwch pan fyddaf ar y draphont i adael i bobl werthfawrogi’r awyrgylch. Bryd hynny, gall pobl ddod i gefn y cwch am sgwrs gyda fi, sy’n braf. Dyw uchderau erioed wedi fy mhoeni, ond dydw i byth wedi cymryd y golygfeydd uwchben yr afon yn ganiataol.
Y draphont ddŵr
Bu Thomas Telford wrthi am ddeunaw mlynedd yn dylunio ac yn adeiladu’r draphont – sydd ddim yn amser hir iawn [fe’i hagorwyd yn 1805]. Mae wedi’i gwneud o gerrig lleol, ac mae gan y deunaw bwa ddisgiau â rhifau arnyn nhw – dw i’n ceisio cael y plant i sylwi ar y rhain. Mae plwg wedi’i gloi ynghanol y draphont hefyd. Maen nhw’n ei dynnu allan bob pedair blynedd. Fel arfer, cynhelir cystadleuaeth er mwyn i blentyn o ysgol leol dynnu’r plwg: yna, mae’r holl ddŵr yn golchi dros yr ochr i’r afon. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn naill ai mis Ionawr neu fis Chwefror. Mae’n dipyn o olygfa!
Rhan o hanes
Roedd gweld y ffagl Olympaidd yn croesi’r draphont yn brofiad arbennig iawn, yn enwedig gan iddi fynd ar un o gychod olaf Camlas Swydd Amwythig, sef y Saturn. Mae bod yn rhan o hanes yn brofiad hyfryd iawn, yn enwedig o gofio bod ein cwmni ni wedi bod yn weithredol ers 135 o flynyddoedd.
Gwybodaeth Bellach
Dysgwch ragor am yr Horse Drawn Boat Company.