Bwytai cwbl fegan

Alex Gooch Bakery

45 Heol yr Eglwys Newydd

Beth: Becws a chaffi sy'n gwerthu bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion.

Yn gweini: Pasteiod fegan blasus, cryffins, byns sinamon, ffocaccia, sleisys pitsa, bara a mwy.

Atma

Uned 20, Canolfan Capitol, Heol y Frenhines

Beth: Caffi fegan Hare Krishna (croeso i bawb).

Yn gweini: Prydau ffres gan gynnwys byrgyrs, wraps, cyri, dewisiadau cinio iachus a byrbrydau melys.

Have you tried our brunch options yet? 😍 🔆 Avocado on local @riversidesourdough toast 🔆 Our weekly granola special...

Posted by The Atma Lounge on Tuesday, May 10, 2022

Aubergine

26 Stryd Clare

Beth: Caffi fegan sy'n ystyriol o awtistiaeth.

Yn gweini: Prydau ysgafn, gan gynnwys brechdanau, tost, baguettes a phryd poeth y dydd.

Y tu mewn i gaffi gyda llawr pren a desg dderbynfa.
Tri phlât o fwyd fegan gyda dwy ddiod.

Caffi Aubergine, Caerdydd

Luna’s Vegan Corner

26 Heol Wellfield

Beth: Caffi fegan yn coginio bwyd o ar draws y byd. 

Yn gweini: Powlenni Bwdha, tofish a sglodion, saladau soffistigedig, cawl, byrgyrs a mwy.

 

The Naked Vegan

225 Marchnad Caerdydd

Beth: Becws fegan gyda stondin farchnad boblogaidd.

Yn gweini: Cacennau fegan, toesenni, bisgedi, brownis, hufen iâ a danteithion melys eraill.

Bwytai cwbl lysieuol

Falafel Corner

4345 Heol y Frenhines (Canolfan Capitol)

Beth: Bwyty falafel llysieuol gyda bwydlen fegan yn bennaf.

Yn gweini: Pittas wedi'u llenwi, wraps a bowlenni salad, gyda falafel crenshlyd, hwmws ac opsiynau bwrdd mesze.

 

Vegetarian Food Studio

115-117 Heol Penarth

Beth: Bwyty a siop tecawê Indiaidd llysieuol teuluol.

Yn gweini: Amrywiaeth enfawr o brydau Gogledd India, De India a dwyreiniol, gan gynnwys detholiad gwych o gyris fegan, losin Indiaidd a lassi.

Bwytai annibynnol gydag opsiynau fegan a llysieuol gwych

Er nad yw'r bwytai hyn yn gwbl fegan nac yn gwbl lysieuol, mae'n werth eu hystyried am eu hystod o ddewisiadau llysiau a fegan.

Hard Lines: Siop goffi yn Nhreganna gyda digon o ddewisiadau melys a sawrus fegan blasus. Yn gwneud coffi gwych gyda llaeth ceirch hefyd.

Hot Pot Spot: Bwyty Tsieineaidd yn arbenigo mewn hotbot. Mae ganddo fwydlen fegan ac mae'n paratoi bwyd fegan ar wahân.

In Cafe: Bwyty Tsieineaidd a siop tecawê gyda fersiynau fegan o'r clasuron (hwyaden grenshlyd aromatig, peli cyw iâr felys a sur a phorc rhost Szechuan i enwi rhai).

New York Deli: Caffi wedi'i ysbrydoli gan America gydag ystod eang o frechdanau fegan, cŵn poeth, bagelau a hoagies - i gyd wedi'u stwffio gyda chynhwysion ffres.

Straeon cysylltiedig