Yn ogystal â chynnig golygfeydd godidog o Ynys Môn, mae pier Bangor hefyd yn hafan rhamantus i nifer o gyplau, ac yn opsiwn gwych ar gyfer y “dêt” perffaith. Ewch â channwyll ei llygad am bryd o fwyd i’r bwyty Eidaleg cyfagos, cyn mynd am dro law yn llaw a rhannu cusan ar y pier. Mae ambell i berthynas wedi sbarduno ar yr hen bier!
Ond er hardded y pier a’r llwybrau ar hyd y Fenai, y clwb nos Cube, neu fel dwi’n ei gofio, yr Octagon, sy’n dod ag atgofion o Fangor yn fyw i mi. Mae hen hanes i’r clwb nos poblogaidd sydd wedi bod yn ganolbwynt i bobl o Fôn i Gaernarfon a thu hwnt ers degawdau, gyda sawl un yn cofio nosweithiau llawn hwyl yn bloeddio ‘Rebal Wicend’ mewn gig Bryn Fôn dros y ‘Dolig, neu ddawnsio i Mega Mix tan oriau mân y bore.
I mi yn fy ieuenctid, Bangor oedd y lle i fod; i ddawnsio, ffeindio cariad, nôl dillad ysgol ddechrau Medi neu gwylio ffilm yn sinema’r Plaza ar fy mhen-blwydd. Yno roedd mam yn prynu ei dillad yn siop Morgan, ac yno r’on i’n cwrdd â’r gens yn y Fat Cat ar ôl dod adra o’r brifysgol, am sandwij stêc a chips tena, a rhannu sgandals a sgwrs. Dyna oedd Bangor i mi.
Erbyn hyn, mae Bangor yn llawn bwytai trendi a llefydd coffi annibynnol, ac o’r myfyrwyr cydwybodol ar strydoedd Bangor Uchaf, i’r pier a phorth Penrhyn, ac o droed bont Borth i ganol y ddinas – mae digon o ddewis o lefydd i wledda a diota o fewn ffiniau’r ddinas.
Bwytai, bariau a chaffis
Blue Sky Cafe, Bangor
Wedi'i guddio i fyny lôn gul a set o risiau oddi ar y stryd fawr, mae Blue Sky Cafe. Wedi ei leoli yn hen gapel Ebeneser, oedd hefyd yn neuadd boblogaidd i ddawnsio yn y 30au a 40au, erbyn heddiw mae’r caffi cysurus yn llawn soffas cyfforddus, bwyd cartrefol a choffi Poblado lleol. Gyda enw am fod gyda’r goreuon yng y gogledd, p'un a ydych chi'n gwobrwyo eich hun efo brownie siocled, neu’n mentro tafell o'u cacen foron, does dim diwedd ar eu dewis o gacennau blasus.
Ond mae mwy na phwdinau yn unig ar y fwydlen. O frecwast swmpus a chiniawau iachus i fwyd figan, mae popeth yn ffres, tymhorol, ac wedi'i wneud gyda llawer o gariad a gofal. Mae eu brecwast Cymreig neu salad lliwgar, ffres bob amser yn boblogaidd, ac mae'r awyrgylch hamddenol yn ei wneud yn lle perffaith ar gyfer brecwast, cinio neu sgwrs gyda ffrind dros goffi.
Mae Blue Sky yn fwy na chaffi yn unig. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau, o nosweithiau cerddoriaeth byw i bartis peintio neu gweithdai creadigol. Piciwch draw am y bwyd ac arhoswch am y gerddoriaeth, a phwy â ŵyr, ella y cewch gyfle i fwynhau ambell ddawns fel yr hen griw yn y 30au!


Jones Pizza, Bangor uchaf
Dechreuodd Rich a Char (perchnogion Jones Pizza) droelli eu pitsas drwy deithio gogledd Cymru mewn fan fwyd, ac fe ddisgynnodd pawb yn y fro mewn cariad gyda’r toes. Erbyn hyn mae Jones wedi ymgartrefu yn barhaol ar Ffordd Caergybi, yng nghanol Bangor Uchaf.
Naws gyfeillgar sydd i Jones Pizza – y math o le y byddwch chi'n aros yn hirach na'r disgwyl, gyda chwrw mewn un llaw a sleisen yn y llall. Mae’r crwst yn llawn swigod crisp a’r canol yn feddal, gyda blas y tomato, garlleg, basil ac unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu yn toddi trwy’r toes.
Mae’r criw yn defnyddio cynhwysion o’r safon ucha’, gan ddefnyddio cynnyrch gwych o bob cwr o Gymru. P'un a ydych chi’n mynd am flas traddodiadol fel tomato a chaws (sy’n gampwaith yn ei symlrwydd), neu'n mentro rhywbeth mwy arbrofol, fel Ragu dy nain – sydd mor flasus â mae'n swnio – mae’r cyfan wedi eu coginio’n berffaith yng nghrombil y popty pitsa tanboeth.



Caffi Reubens, Bangor Uchaf
Mae’r caffi hwn, gyda’i liwiau cynnil chic, dodrefn modern sgleiniog a’i gwpanau cludo pinc adnabyddus, wedi dod yn fan poblogaidd gyda thrigolion Bangor Uchaf. Mae’n hawdd deall pam bod yr hafan llawn steil hwn sy’n gweini coffi gwych a byrbrydau ffres bob amser yn fwrlwm o weithgaredd.
P’un a ydych chi’n chwilio am frecwast blasus, yn treulio’r bore yn ateb negeseuon e-bost, neu’n cwrdd â ffrindiau am sgwrs, mae Reubens yn taro’r balans perffaith rhwng awyrgylch hamddenol a décor ffasiynol.
Dechreuwch eich bore gyda bagel ffres wedi’i lenwi â’ch dewis chi o gynhwysion. Neu, os ydych chi eisiau rhywbeth arbennig, ewch am seren y sioe: brechdan Reuben. Wedi’i lewni â phastrami tendr, caws o’r Swistir, Sauerkraut sur, a saws gyda zing, mae’n un o’r prydau hynny y byddwch chi’n dal i’w flasu yn hir wedi gorffen y briwsionyn olaf. Cyplyswch gyda flat white a byddwch yn sionc a llawn am weddill y dydd!
Dant melys? Mae eu teisennau ffres, swmpus yn hynod o boblogaidd, a chrempogau, croissant blas pistachio neu cruffin a llawer mwy ar gael! Gair i gall: ewch yn gynnar – nid yw’r trysorau hyn yn aros ar y silff yn hir!
I mi, does unman gwell i yfed coffi, mwynhau cruffin ac ymlacio, a nunlle gwell i weld y byd yn mynd heibio!


Bwyd rhyngwladol
Anka Turkish Bistro & Café, Bangor
Cewch eich cludo yn syth i galon Twrci yn Anka Turkish Bistro & Café. O’r eiliad rydych chi’n camu i mewn mae croeso cynnes yn eich disgwyl, gyda décor bywiog a lliwgar, gwaith celf safonol, coed enfawr sy’n llenwi’r gofod â bywyd, a hyd yn oed cadeiriau siglo i ychwanegu elfen o hwyl! Mae’n wledd i’r llygaid cyn i chi hyd yn oed godi eich fforc!
Ac yna’r bwyd. Waw, y bwyd! Mae’r brecwast yn wledd – wyau arddull Twrcaidd wedi’u gweini gyda bara trwchus a meddal sy’n berffaith ar gyfer dipio. Amser cinio? Mae’r platiau mezze yn bleser pur: hwmws hufennog, Baba Ghanoush myglyd, Dolmas, olewydd hallt, i gyd gyda bara pita cynnes a meddal. Mae’n syniad da rhannu gyda rhywun i gael blas o bopeth!
Gyda’r nos mae Anka yn codi’r safon hyd yn oed yn uwch. Dychmygwch blatiau llawn wedi’u coginio dros dân agored, ynghyd â reis persawrus a saladau ffres. Ar rai nosweithiau gallwch fwynhau sioeau trawiadol gyda dawnswyr a thaflwyr tân, i sicrhau bod eich swper yn brofiad cofiadwy.
A chyn mynd peidiwch ag anghofio’r pwdin – darn o’u Baklava, ynghyd â choffi cryf Twrcaidd yw’r ffordd berffaith o orffen eich pryd.
Torna a Surriento, Bangor
Wrth droed Pier y Garth, yn cynnig golygfeydd syfrdanol dros Afon Menai ac Ynys Môn, mae Torna a Surriento – un o fwytai Eidalaidd hynaf Bangor, sy’n gweini prydau traddodiadol sy’n eich cludo’n syth i arfordir Amalfi.
Dyma’r bwyty i chi os ydych chi’n chwilio am y lle perffaith ar gyfer noson ramantus – ac mi ydw i’n siarad o brofiad yma! Dychmygwch rannu potel o win dros basta ffres wedi’i wneud â llaw, ymlacio gyda Tiramisu cyfoethog i bwdin, ac yna llosgi’r holl ‘carbs’ trwy gerdded law yn llaw ar hyd y pier Fictoraidd i wylio’r haul yn machlud. P’un a ydych chi’n cynllunio noson ramantus, neu jest am fwynhau bwyd Eidalaidd anhygoel, dyma’r lle i fynd – dyma’r amore ym Mangor.
Kyffin Café Deli, Bangor
Am fwyd sy’n cynhesu’r galon ac yn bwydo’r enaid ewch ar eich pen i Kyffin Café Deli. Fodfeddi yn unig o’r stryd fawr, Kyffin yw caffi llysieuol a figan cyntaf Bangor, sydd wedi bod yn gweini prydau ffres a maethlon ers 2005 – ac yn dal yn hynod boblogaidd.
Mae’r fwydlen yn newid bob dydd, ac yn cynnig pump o brydau sydd wedi eu hysbrydoli gan seigiau o bob cwr o’r byd, i gyd wedi’u paratoi’n ffres ar y safle. Mae pob pryd yn gymysgedd o flasau, cynhwysion a lliw, ac wedi’u harddangos yn brydferth y tu ôl i’r cownter er mwyn eich temtio. Heb anghofio’r danteithion melys wrth gwrs – mae eu cwcis cartref yn destun sgwrs.
Mae’r caffi ei hun yn gartrefol a rhamantaidd, gyda dodrefn o bob math, a naws sy’n gwneud i’r lle deimlo yn gynnes a chroesawgar, fel tŷ eich nain! Mae Kyffin hefyd yn cynnal digwyddiadau a nosweithiau cerddoriaeth werin draddodiadol. Be well na mwynhau cwci cartref tra’n gwrando ar seiniau banjo?
Un o’r pethau gorau am Fangor yw sut mae’r dref yn llwyddo i gymysgu’r hen a’r newydd, o Torna a Surriento sy’n llawn traddodiad, i Fangor Uchaf fodern gyda’i chaffis cyfoes. Mae Bangor yn ddinas sy’n parhau i esblygu, gyda mwy a mwy o lefydd bwyta gwerth chweil yn gwneud y ddinas yn lleoliad sy’n ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd.

