Teithiau drwy ddistyllfeydd a sesiynau blasu jin
Mae teithiau drwy ddistyllfeydd jin Cymru yn aml yn golygu cwrdd â phobl frwd sy’n rhedeg busnesau teuluol, a’r rheini’n creu cynnyrch ar raddfa fechan. Maen nhw wrth eu boddau’n sgwrsio am eu crefft. Ac rydych chi’n sicr o gael cyfle i fwynhau’r gwirod hefyd – mae sesiynau blasu jin i gyd yn rhan o’r profiad!
Distyllfa Dyfi
Mae Pete a Danny Cameron yn Nistyllfa Dyfi wedi datblygu dull arbennig o ddistyllu, a hwnnw’n defnyddio distyllbeiriau unigryw a chyfuniadau cyfrinachol o gynnyrch botanegol sydd wedi’i fforio o fryniau ir a gwrychoedd toreithiog Biosffer Dyfi yn y canolbarth. Y canlyniad? Jin eithriadol o beraroglus a hynod o anarferol sy’n ennill gwobrau rif y gwlith. Does dim teithiau swyddogol, ond mae croeso i chi alw draw, dweud helô, sgwrsio am jin a’i flasu. Ac wrth gwrs, gweld sut mae’n cael ei greu.
Distyllfa Coles
Distyllfa deuluol arall yw Distyllfa Coles, a honno wedi’i lleoli yn Llanddarog yn Sir Gâr. Yn dra unigryw, maen nhw’n creu eu gwirodydd sylfaen eu hunain ar gyfer eu jin, eu wisgi a’u rỳm. Mae modd trefnu i fynd ar daith hynod o ddiddorol i weld y gwahanol wirodydd yn cael eu creu. Maen nhw hefyd yn bragu cwrw ac yn gyfrifol am y dafarn sydd ar yr un safle. Mae’r White Hart Inn a’i tho gwellt yn dyddio yn ôl i 1371. Felly ar ôl rhoi cynnig ar y cwrw, gallwch chi aros i ginio hefyd.
Cwmni Jin Gŵyr
Mae Sian ac Andrew yn defnyddio pob math o flasau yng Nghwmni Jin Gŵyr. Ymhlith y cynnyrch botanegol sy’n cael ei fforio mae blodau’r eithin, helyg y môr ac eurwern, ond yn go anarferol, mae te Lapsang Souchong a phupur cubeb yn cael eu hychwanegu hefyd. Mae pethau Cymreig o bob math yn eu hysbrydoli – gan gynnwys Dylan Thomas, Pen Pyrod, a hyd yn oed rysáit Bara Brith Mam-gu. Mae modd mwynhau’r cynnyrch yn yr ardd dawel os trefnwch chi sesiwn flasu yn rhad ac am ddim.
Profiadau creu jin
I’r gwir aficionado jin, beth well na phrofiad creu jin yng Nghymru? Ar y cyfan, y distyllfeydd mawr sy’n cynnig y cyfleoedd hyn, a bydd taith yn aml yn rhan o’r pecyn. Efallai’n wir y bydd caffi a chanolfan i ymwelwyr yno hefyd.
Distyllfa Aber Falls
Mae Distyllfa Aber Falls yn Abergwyngregyn yn sefyll dafliad carreg o’r rhaeadr ysblennydd sy’n rhoi iddi’i henw. Mae modd mynd ar daith, crwydro drwy’r ganolfan ymwelwyr, cael tamaid i’w fwyta yn y bistro, neu greu eich jin eich hun yn y Labordy Jin. Fan hyn, fe gewch chi dreulio prynhawn yn dysgu popeth am y ddiod, gan greu eich rysáit eich hun gyda’r cynnyrch botanegol gorau a rhoi cynnig ar ddefnyddio distyllbair jin bychan.
In the Welsh Wind
Coetiroedd a chaeau braf sy’n amgylchynu In The Welsh Wind yn Nhan-y-groes, a’r lleoliad yn rhoi golygfa wych o Fae Ceredigion. Yn y Labordy Jin, mae modd dysgu popeth am grefft distyllu, dewis eich proffil botanegol unigryw eich hun, a bwrw ati i ddistyllu, potelu a labelu eich jin chi. Dylai fod digon ar ôl i fwynhau G&T hyfryd hefyd! Ar ben hynny, mae’r tîm yn rhedeg Bar 45 – bar jin sy’n llawn awyrgylch oddi ar y Stryd Fawr yn Aberteifi.
Distyllfa Caerdydd
Bydd distyllydd wrth law yn Nistyllfa Caerdydd i sôn am rai o gyfrinachau cyfuno blasau a pheraroglau, cyn i chi fwrw ati i ddistyllu eich gwirod eich hun. Bydd cyfle i flasu eich gwaith gorffenedig ar y diwedd a mynd â photel adref gyda chi. Y peth arbennig o wych yw eu bod nhw’n cadw eich rysáit ar ffeil, felly fe allwch chi archebu mwy pryd bynnag y daw’r awydd.
Distyllfa Castell Hensol
Mae ganddyn nhw’r cyfan yn Nistyllfa Castell Hensol. A honno wedi’i lleoli mewn castell ysblennydd o’r ail ganrif ar bymtheg ym Mro Morgannwg, dyma ddistyllfa jin gyntaf y de sy’n gweithio ar raddfa lawn. Maen nhw’n cynnig profiad i ymwelwyr ac ysgol jin, tra bo ffatri botelu yma hefyd. Dewiswch daith sy’n cynnwys sesiwn flasu ac ewch i gael cip ar yr ystafell fotanegol sy’n wledd i’r synhwyrau. Neu beth am gael profiad creu jin a gwneud eich gwirod arbennig chi’ch hun?