Mae gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Super Cup UEFA, Cwpan FA Lloegr, pêl-droed Olympaidd, Cwpan y Byd Rygbi’r Undeb a’r Gynghrair oll wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Cyfres y Lludw criced yn Stadiwm Swalec, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd, Grand Prix Speedway yn y Stadiwm Cenedlaethol a Chyfres Hwylio’r Byd ym Mae Caerdydd. Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog o arwyr cartref hefyd; o Bencampwyr y Byd paffio i forwyr hwylio Olympaidd yn ennill medalau aur, a phêl-droediwr drutaf y byd.
Mae chwaraeon wrth galon y ddinas hon. Enghraifft dda yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, sydd â chyn-ddisgyblion nodedig megis y chwaraewr rygbi Sam Warburton, cyn-gapten Cymru a chapten buddugol cyfres y Llewod 2013; enillydd Tour de France 2018 Geraint Thomas, beiciwr sydd wedi ennill medalau aur Olympaidd hefyd; a’r seren bêl-droed Gareth Bale, sydd wedi ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA gyda Real Madrid bedair gwaith, gan gynnwys yng Nghaerdydd yn 2017.
Gwersi llwyddiannus
Ac nid yr ysgolion yn unig sy’n datblygu sêr y dyfodol, mae prifysgolion y ddinas wrthi hefyd. Roedd Lyn ‘the Leap’ Davies yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd pan y llamodd i’r aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo ym 1964, a dyma hefyd ble roedd Syr Gareth Edwards yn fyfyriwr Addysg Gorfforol cyn dod yn un o’r chwaraewyr rygbi gorau erioed. Os ymwelwch chi â champws Met Caerdydd heddiw mae’n bosib iawn y gwelwch y pencampwr Paralympaidd Aled Sion Davies yn hyfforddi ar gyfer ei dafliad fuddugol nesaf.
Daeth y Farwnes Tanni Grey-Thompson, gafodd ei geni yng Nghaerdydd, yn un o’r athletwyr Paralympaidd gorau erioed, gan ennill 11 medal aur. Mae Colin Jackson, y cyn-bencampwr byd a chyn-ddaliwr record byd 110m dros y clwydi, hefyd yn un o feibion mwyaf llwyddiannus y ddinas. Ac yng Ngemau Olympaidd Rio 2016 cipiodd y forwraig o Gaerdydd, Hannah Mills, y fedal aur am hwylio.
Mae Caerdydd yn gartref i chwaraeon tîm elît; tîm hoci iâ’r ddinas, Diawled Caerdydd, yw’r gorau ym Mhrydain; enillon nhw ddau dlws yn nhymor 2017-18 tra’n chwarae yng Nghanolfan Iâ Cymru ym Mae Caerdydd.
Dinas y bêl gron
Ganwyd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, sydd wedi ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA ddwywaith gyda Manchester United, yng Nghaerdydd. Ganwyd yr enwog John Toshack yn Nhreganna, llai na milltir i ffwrdd o Stadiwm Dinas Caerdydd ble mae’r Adar Gleision bellach yn chwarae, a dyma oedd y lleoliad ar gyfer Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched UEFA yn 2017. Arwyddodd Aaron Ramsey i Arsenal o Gaerdydd, a chwaraeodd yr anfarwol John Charles dros Gaerdydd yn y 1960au.
A’r seren ddiweddaraf, a’r disgleiriaf o’r rhain yw Gareth Bale. Yn 2016 roedd Bale yn canu 'Please don’t take me home' gyda miloedd o gefnogwyr Cymru wrth i’r tîm geisio aros yn Ffrainc yn ddigon hir i gyrraedd gêm derfynol Ewro 2016. Ond yn 2017 daeth Gareth Bale adref gyda'i gyd-galácticos o Real Madrid i ennill gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn ei ddinas enedigol.