Nadolig ym Mae Abertawe
15 Tachwedd 2024 - 04 Ionawr 2025. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa, gyda Phentref Alpaidd estynedig. Mae llu o atyniadau ac amrywiaeth o fwyd a diod Nadoligaidd. Mae sesiynau hygyrch i sglefrio ar gael yn ystod yr awr gyntaf o sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth.
Marchnad Nadolig Caerdydd
14 Tachwedd 2024 - 23 Rhagfyr 2024. Mae Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gwaith, yr Aes, Stryd y Bryniau a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr sy'n creu cynnyrch gwreiddiol wedi'i wneud â llaw.
Darllen mwy: Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd dros y Nadolig
Sioeau Nadolig i'r teulu
Tachwedd - Rhagfyr 2024. Ymhlith sioeau’r Nadolig yn Theatr y Sherman, a’r rheini’n dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd, mae’r sioe deuluol wych A Christmas Carol. I blant bach, ewch i weld Yr Hugan Fach Goch (yn Gymraeg) a Little Red Riding Hood (yn Saesneg).
Yn y Theatr Newydd, bydd tymor y Nadolig yn dechrau ar 13 Tachwedd gyda So This Is Christmas – sioe a fydd yn orlawn o ganeuon yr ŵyl a honno’n addo noson hwyliog tu hwnt i chi. Y clasur Cinderella fydd pantomeim 2024, a hwnnw i’w weld rhwng 7 Rhagfyr 2024 a 5 Ionawr 2025. Ewch â’r holl deulu i gael profiad gwefreiddiol ac i chwerthin lond eich boliau yng nghwmni’r sêr Gethin Jones, Owain Wyn Evans, Mike Doyle, Denquar Chupak a Stephanie Webber.
Ymunwch â Cyw a'i ffrindiau mewn sioe Nadolig llawn hwyl a hud yn Theatr Derek Williams, Y Bala, Galeri, Caernarfon, Neuadd William Aston, Wrecsam, Neuadd y Gwendraeth, Ysgol Bro Teifi, Llandysul, a Theatr y Gate, Caerdydd.
Ffair Fwyd a Chrefftau Portmeirion
06 - 08 Rhagfyr 2024. Mae Ffair Fwyd a Chrefft Nadolig Portmeirion yn gyfle i flasu a phrynu bwyd a diod leol a phrynu anrhegion Nadolig i ffrindiau a theulu. Yn ogystal â chynnyrch a chrefftau lleol, mae rhaglen lawn o adloniant at ddant pawb.
Nadolig yn Amgueddfa Cymru
Trwy mis Rhagfyr 2024. Mwynhewch hwyl yr ŵyl yn Amgueddfa Cymru. Dewch i gwrdd â Siôn Corn a’i ffrindiau a chanu carolau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mwynhau Marchnad Nadolig Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, creu crefftau Nadoligaidd yn Amgueddfa Wlan Cymru, a llawer mwy!
Nofio ar Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod
26 Rhagfyr 2024. Eisiau ffordd newydd o gael gwared o gorfoledd y Nadolig? Beth am gymryd rhan yn y digwyddiad elusennol hwn? Mae bron i 600 o bobl yn rhedeg i'r môr ar draeth y Gogledd yn eu gwisg ffansi ar Ŵyl San Steffan. Wrth gwrs, gallwch ddewis gwylio o'r lan gyda phaned ac aros yn gynnes a sych. Mwy o wybodaeth am Nofio ar y Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod.
Darllen mwy: Nofio Nadoligaidd yng Nghymru
Rasys Nos Galan
31 Rhagfyr 2024. Dathlwch Guto Nyth Brân (Griffith Morgan) ar Nos Galan yn Aberpennar yng Nghymoedd De Cymru gyda Rasys Nos Galan. Ceir nifer o hanesion am Guto, gan gynnwys un y gallai redeg mor gyflym ag aderyn yn hedfan. Bob blwyddyn mae personoliaeth chwaraeon enwog yn cymryd rhan, felly dewch draw i ddarganfod pwy yw nhw eleni! Croeso i chi wisgo gwisg ffansi yn y Ras Hwyl 5 cilomedr. Mwy o wybodaeth am y Rasys Nos Galan.
Mwy o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr
21 Tachwedd - 31 Rhagfyr 2024. Llwybr Goleuadau Luminate Wales, Parc Margam. Taith hudolus trwy gerddi a chastell Parc Gwledig Margam. Dilynwch llwybr milltir o hyd Luminate Wales, gyda gosodiadau golau syfrdanol ac elfennau rhyngweithiol gwych i'r plant.
22 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2024. Mae gan Reindeer Lodge, Yr Wyddgrug, profiad saffari ceirw, groto Siôn Corn a sioe theatr, pentref corachod cudd a gweithdy tegannau.
01 Rhagfyr 2024. Santa Dash Caerdydd.
29 Tachwedd - 17 Rhagfyr 2024. Taith Dolig Cracyrs Cabarela.
Rhagfyr. Gig Nadolig Bwncath yn Neuadd Ogwen a Gig Nadolig Mared a Malan yn Llofft, Y Felinheli.