Gŵyl Cefni, Ynys Môn

04 - 07 Mehefin 2025. Gŵyl Gymraeg i’r teulu cyfan yng nghanol tref Llangefni yw Gŵyl Cefni. Mae disgwyl i gannoedd o bobl ymgynnull ym maes parcio Neuadd y Dref i wylio sioe adloniant i’r teulu a cherddoriaeth byw drwy'r prynhawn.

Gŵyl Tawe, Abertawe

07 Mehefin 2025. Gŵyl Gymraeg Abertawe wedi ei threfnu gan Menter Iaith Abertawe yw Gŵyl TaweBydd llu o berfformiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Tu hwnt i'r llwyfan cerddoriaeth bydd stondinau a gweithgareddau gan Learn Cymraeg Abertawe, Orielodl, Technocamps, Coleg Gŵyr, y Taliesin, Siop Tŷ Tawe a'r Mission Gallery.

Triathlon Slateman, Llanberis

08 Mehefin 2025. Triathlon y Slateman yw'r triathlon antur fwyaf eiconig yng Nghymru. Mae pedair ras wahanol gyda phellteroedd amrywiol, i gyd yn ardal arbennig safle UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru Llechi Cymru.

Hanner Marathon Abertawe

08 Mehefin 2025. Mae Hanner Marathon Abertawe yn ôl gyda'r rhedwyr yn loncio o Neuadd Brangwyn, trwy strydoedd Abertawe ac ar hyd Bae Abertawe i'r Mwmbwls.

Gottwood, Ynys Môn

12 - 15 Mehefin 2025. Mae Gottwood yn ôl yn Stad Carreglwyd, Ynys Môn. Cynhelir yr ŵyl electronig annibynnol mewn coedwig ar dir y stad.

Out & Wild Festival, Sir Benfro

13 - 16 Mehefin 2025. Out & Wild yw gŵyl llesiant gyntaf y DU ar gyfer menywod LHDTC+ ac anneuaidd. Mae'r rhaglen amrywiol yn cynnwys cerddoriaeth, lles, chwaraeon a gweithdai.

Tafwyl, Caerdydd

14 - 15 Mehefin 2025. Gŵyl flynyddol i ddathlu'r Gymraeg yw Tafwyl. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl ym Mharc Bute. Cynhelir gŵyl ymylol hefyd gyda digwyddiadau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis, bariau a lleoliadau celfyddydol amrywiol ledled y ddinas.

Sul y Tadau

15 Mehefin 2025. Rhowch anrheg ychydig yn wahanol i'ch tad eleni - beth am sesiwn blasu cwrw yn un o fragdai niferus Cymru neu cinio Sul mewn tafarn gymuendol

Pride Cymru, Caerdydd

21 - 22 Mehefin 2025. Ers 1999 Pride Cymru yw’r digwyddiad blynyddol mwyaf yng nghymuned LHDTC+ Cymru. Mae’n gyfle i groesawu pobl o bob oed ac o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol i ddathlu amrywiaeth ac i ymdrechu tuag at gydraddoldeb mewn cefnogaeth â’r gymuned LHDTC+ a grwpiau lleiafrifol eraill. 

Darllen mwy: Pethau rydyn ni’n eu caru am Benwythnos Mawr Pride Cymru

Dragon Ride, Bannau Brycheiniog

22 Mehefin 2025. Mae Dragon Ride yn un o gampau chwaraeon mwyaf heriol y Deyrnas Unedig. Bydd y cystadleuwyr yn gwibio trwy'r Bannau Brycheiniog ar bedwar llwybr beicio o bellter amrywiol. Bydd pob ras yn cychwyn o Barc Margam. 

Darllen mwy: Llwybrau beicio pellter hir

Amgueddfa Cymru

Mae wastad digon i'w weld yn ein Amgueddfeydd Cenedlaethol, gydag amrywiaeth o arddangosfeydd teithiol a pharhaol. Mae mynediad yn rhad ac am ddim i bob un o'r saith amgueddfa. I weld beth sydd ymlaen ym Mehefin ewch i'r dudalen Digwyddiadau.

 

Tu allan i adeilad mawreddog gwyn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac awyr las yn gefndir.
Mynedfa fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle gwelir lefelau’r llawr cyntaf a ffenestri mawr

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Straeon cysylltiedig