Gŵyl Gomedi Machynlleth
02 - 04 Mai 2025. Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cyflwyno perfformwyr comedi adnabyddus a newydd i'r sin bob blwyddyn yn nhref hynafol Machynlleth. Mae'r ŵyl yn defnyddio lleoliadau gwahanol ac unigryw, sy'n helpu i'w gwneud yn boblogaidd gyda'r perfformwyr a'r gynulleidfa.
Darllen mwy: Machynlleth - tref Glyndŵr
Gŵyl Gerdded Talgarth, Powys
02 - 05 Mai, 2025. Mae Gŵyl Gerdded Talgarth yn cynnig golygfeydd gwych, yn ogystal â'r cyfle i ddysgu am hanes, daeareg a llenyddiaeth leol.
Strafagansa Fictoraidd Llandudno
03 - 05 Mai 2025. Mae Strafagansa Llandudno Fictoraidd yn digwydd bob blwyddyn ar ŵyl y Banc ddechrau mis Mai. Mae yna ffair hwyliog, hen atyniadau ac adloniant am ddim.
Gŵyl FOCUS Wales, Wrecsam
08 - 10 Mai 2025. Tridiau o gerddoriaeth yn arddangos 200+ o fandiau ar draws 20 llwyfan. Dyma fwy o wybodaeth am FOCUS Wales a dinas ddiweddaraf Cymru, Wrecsam.



Dydd Dylan
14 Mai, 2025. Mae Dydd Dylan yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y diwrnod hwn, gan adeiladu ar etifeddiaeth Gŵyl 100 Dylan Thomas. Mae'n nodi'r dyddiad y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan y Poetry Centre yn Efrog Newydd ym 1953. Bob blwyddyn mae 'na berfformiadau, digwyddiadau ar-lein, teithiau cerdded a llawer mwy yn digwydd o gwmpas Cymru.


Hanner Marathon Eryri, Llanrwst
11 Mai 2025. Mae Hanner Marathon Eryri yn hanner marathon hardd ond anodd iawn sy'n cychwyn ac yn gorffen ym mhentref Llanrwst.
Gŵyl Wanwyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd
17 - 18 Mai 2025. Mae Gŵyl Wanwyn y Gymdeithas Amaethyddol yn ddathliad o dyddyn a bywyd cefn gwlad. Mae gan yr ŵyl raglen ddau ddiwrnod llawn adloniant, gweithgareddau addysg, sgyrsiau, gweithdai, arddangosfeydd a pherfformiadau.
Gŵyl y Gelli, Y Gelli Gandryll
22 Mai - 1 Mehefin 2025. Cynhelir Gŵyl y Gelli am ddeg diwrnod bob gwanwyn, yn nhref lyfrau Y Gelli Gandryll.
Darllen mwy: Cyflwyniad i Ŵyl y Gelli
Gŵyl In It Together, Margam
23 - 25 Mai 2025. Gallwch fwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth yn ystod Gŵyl In It Together yn Fferm Old Park, Margam. Ymysg yr enwau mae Kaiser Chiefs, Becky Hill a Ronan Keating.
Gŵyl HowTheLightGetsIn, Y Gelli Gandryll
24 - 30 Mai 2025. Mae'r ŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth yn cael ei chynnal dros benwythnos gŵyl y banc. Bydd dros 300 o ddigwyddiadau yn cynnwys cerddoriaeth, comedi a sgyrsiau yn HowTheLightGetsIn.
Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam
26- 31 Mai 2025. Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop. Cynhelir gŵyl 2025 ym Mharc Margam.