Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili

12 Ebrill 2025. Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i gŵn. 

Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr

14 Ebrill 2025. Mae Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr yn dathlu a chodi ymwybyddiaeth am y cynnyrch maeth anhygoel hwn. Mae dwsinau o fusnesau Cymru'n cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr, gyda phopeth o brydau arbennig i gynigion arbennig, ynghyd â digwyddiadau.

Dewch i goginio rhai o'n ryseitiau blasus sy'n defnyddio bara lawr, gan gynnwys rysáit Rarebit Cymreig gyda bara lawr a chwrw neu beth am fwynhau brecwast Abertawe

Marathon a 10K Casnewydd Cymru ABP

13 Ebrill 2025. Dyma un o gyrsiau marathon mwyaf gwastad Ewrop. Am fwy o fanylion ewch i Marathon a 10K Casnewydd Cymru ABP.

Gwyliau Pasg

14 - 25 Ebrill, 2025Gyda’r Pasg ar y gorwel a dwy ŵyl y banc beth am drefnu antur i’r teulu? Mae safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw yn cynnig bob math o weithgareddau teuluol. 

Dau o blant yn chwarae gyda chleddau pren tu allan i furiau castell.

Castell Caernarfon

Gŵyl Gerdded Cas-gwent, Sir Fynwy

22 - 27 Ebrill 2025. Beth am ymuno ag un o'r teithiau tywys sydd ar gael yn ystod Gŵyl Gerdded Cas-gwent a chrwydro ardal brydferth Dyffryn Gwy Isaf a thu hwnt?

Tri pherson yn cerdded trwy'r brwyn yng Ngwlypdiroedd Casnewydd.

Gwlypdiroedd Casnewydd, un o leoliadau Gŵyl Gerdded Cas-gwent

Awni?

Wrth i dymor y gwyliau cerddoriaeth agosáu mae digonedd o gyfleoedd i gael blas ar gerddoriaeth Cymraeg ar hyd a lled y wlad. Mae map rhyngweithio Awni? yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gigs Cymraeg yn eich ardal chi. 

Sadwrn Barlys, Aberteifi

26 Ebrill, 2025. Un o ddyddiadau pwysicaf calendr Aberteifi yw Dydd Sadwrn Barlys. Credir fod traddodiad Dydd Sadwrn Barlys wedi cychwyn yn 1871, a chaiff ei gynnal ar benwythnos olaf Ebrill bob blwyddyn. 

Mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn parhau i heidio draw yn flynyddol i weld pob math o geffylau a merlod yn gorymdeithio - o geffylau gwedd i Shetland, a Chobiau, wrth gwrs. Mae tractorau a pheirannau o bob math yn llenwi’r strydoedd a lliw hefyd - dathliad o fywyd cefn gwlad Cymreig ar ei orau. 

Darllen mwy: Aberteifi - y dref harbwr hanesyddol

Amgueddfa Cymru

Ewch i un o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. Mae mynediad am ddim i'r saith safle ac mae digon o bethau i'w gweld ar gyfer pob oedran, beth bynnag yw'r tywydd.

Dyn a phlentyn ifanc yn edrych ar wrthrychau mewn bocs.
Dyn mewn helmed glöwr yn siarad â pherson ifanc, hefyd yn gwisgo helmed glöwr.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Straeon cysylltiedig