Mae llond gwlad o fywyd gwyllt yn disgwyl cael ei ddarganfod ar hyd ein harfordir a’n cefn gwlad. Dyma ambell weithredwr a thywysydd teithiau all fynd â chi wyneb yn wyneb â’n byd naturiol.
Teithiau bywyd gwyllt tymhorol Ynys Môn
Mae Naturebites yn cynnig rhaglen amrywiol o deithiau sy’n arddangos amrywiaeth ryfeddol bywyd gwyllt yr ynys drwy gydol y flwyddyn, a phob taith wedi’i theilwra i’ch gofynion unigol chi. Cynhelir taith reolaidd Ras yr Adar hefyd, sy’n herio’r rhai sy’n cymryd rhan i weld cynifer â phosibl o'r dwsinau o rywogaethau adar Ynys Môn mewn chwe awr.
Ynys Seiriol
Er gwaethaf enw Saesneg Ynys Seiriol ger Sir Fôn, sef Puffin Island, nid dyma'r lle gorau yng Nghymru i weld palod – mae cytrefi mwy o faint ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm. Ond ar fordaith o gwmpas yr ynys yn y gwanwyn, neu tua dechrau’r haf gyda Seacoast Safaris neu Starida, rydych yn debygol o weld ambell un, ynghyd â thyrfaoedd o wylogod a llursod yn cystadlu am le ar y clogwyni, yn ogystal â môr-wenoliaid pigddu, hwyaid mwythblu a mulfrain.
Teithiau cerdded bywyd gwyllt Ynys Môn
Tywysydd â thros 20 mlynedd o brofiad mewn cadwraeth natur yw Caroline Bateson o Anglesey Wildlife Walks, ac mae’n cynnig hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o gerdded mewn nifer o rannau o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. Mae’n bosib gweld morloi, llamidyddion, planhigion prin a glöynnod byw.
Teithiau cychod Ynys Enlli
Daw Colin Evans o Bardsey Island Boat Trips o deulu o bysgotwyr cimwch sy’n byw ar Ben Llŷn ers cenedlaethau. Mae’n croesi i Ynys Enlli ac yn cynnal gwibdeithiau yno o bentref deniadol Aberdaron. Pan fydd hi’n braf, gallwch hwylio Swnt Enlli, gan wylio adar môr, morloi a dolffiniaid, a chlywed am hanes morwrol y rhanbarth.
Gwylio grugieir duon
Mae grugieir duon yn brin yng Nghymru, ond os hoffech weld un, yna Coed Llandegla yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw’r lle; mae 50 y cant o boblogaeth Cymru o’r adar carismatig hyn yn byw o fewn milltir iddo. Yn ystod y tymor magu, o ddiwedd mis Mawrth i fis Mai, mae swyddogion RSPB yn arwain teithiau cerdded tywysedig drwy’r goedwig i fan paru, lle mae’r gwrywod yn sgrechian, ac yn esgus ymosod ar ei gilydd i ennill cymar.
Gwylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion
Mae Dolphin Survey Boat Trips yn cynnig mordeithiau hynod ddiddorol o Gei Newydd, sy’n para awr o leiaf, i weld y dolffiniaid. Ar daith diwrnod cyfan, byddwch yn mynd gydag ymchwilwyr o Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion wrth iddynt gasglu data pwysig a gwrando ar sgyrsiau’r dolffiniaid drwy ficroffon tanddwr. Neu, mae cwch cyflym A Bay to Remember yn cynnig teithiau difyr o Aberteifi, Gwbert a Thraeth Poppit.
Bannau gwyllt Brycheiniog
Mae Planet Wales yn cynnig teithiau pwrpasol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a arweinir gan un o gyn-wardeniaid y warchodfa natur. Wrth grwydro bryniau, coetiroedd a dyfrffyrdd y parc amrywiol hwn, gallech weld ysgyfarnogod brown, dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr, glöynnod byw britheg y gors a madfallod dŵr cribog. Mae teithiau hirach sy’n cynnwys Penrhyn Gŵyr, Arfordir Treftadaeth Morgannwg ac Aber Afon Hafren yn bosib hefyd.
Saffari morloi Ynys Bŷr
Cynhelir mordeithiau awr o hyd gan Tenby Boat Trips o gwmpas cildraethau cudd Ynys Bŷr, oddi ar arfordir Sir Benfro. Ar y ffordd, dewch wyneb yn wyneb â phoblogaeth y morloi llwyd brodorol, sy’n nofio bron yn ddigon agos i’r cwch i gyffwrdd â nhw. Efallai hefyd y gwelwch adar môr fel palod a mulfrain yn nythu ar glogwyni Ynys Bŷr.
Ynys Dewi ac Ynys Gwales RSPB
Arweinir taith Thousand Island Expeditions i weld adar yn yr haf gan un o wardeniaid RSPB . Ar ôl gadael o orsaf bad achub hanesyddol Sant Justinian, ewch o gwmpas Ynys Gwales, sef pedwaredd gytref huganod fwyaf y byd, sy’n gartref i 39,000 o barau. Wedyn, byddwch yn glanio ar Ynys Dewi, lle clywch am hanes ac ecoleg yr ynys. Byddwch yn rhydd wedyn i grwydro, gan chwilio am frain coesgoch, gwylanod coesddu, hebogau tramor a morloi.
Teithiau cerdded bywyd gwyllt Parc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr
Parc Slip yn Nhondu yw gwarchodfa natur flaenllaw Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn Ne Cymru. Ar 300 erw ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae ei ddolydd a’r gwlyptiroedd yn cynnal dros 1,000 o rywogaethau bywyd gwyllt. Cynhelir teithiau cerdded tywysedig yn rheolaidd, gan ddechrau o’r Ganolfan Groeso a chanolbwyntio ar wyfynod, glöynnod byw, gweision y neidr neu adar.
Ynysoedd y Moelrhoniaid
Wedi’i chynllunio mewn cysylltiad â Bear Grylls i rai anturus sy’n hoff o wylio bywyd gwyllt, mae’r daith gwch hon gan Ribride yn mynd â chi o Gaergybi i ynysoedd gwyllt, anghysbell y Moelrhoniaid. Maent yn gartref i boblogaeth anferth o fôr-wenoliaid y gogledd, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid ffrwynog, yn ogystal â phalod a gwylanod coesddu sy'n bridio. Ymlaen â chi wedyn i Ynys Arw am ogofâu a chlogwyni môr, ac i Ynys Lawd am lu o adar môr yng ngwarchodfa RSPB.
Sgomer, Sgogwm a Gwales
Gan lansio o Martin’s Haven ger Marloes, mae Pembrokeshire Islands yn cynnig teithiau ysgafn o gwmpas ynysoedd Sgomer, Sgogwm a Gwales sy’n drwch o adar, gyda sylwebaeth gan y criw. Ar fordaith machlud yn y gwanwyn neu’r haf, fe welwch balod, huganod ac adar môr eraill yn dychwelyd adref ar ôl pysgota drwy’r dydd. Mae saffaris môr ar gwch cyflym ar gael hefyd yng Ngwarchodfa Natur Forol Sgomer.
Gwylio’r gwanwyn yn Ystangbwll
Mae David Blackmore, Tywysydd Bathodyn Gwyrdd yn Sir Benfro, yn cynnig pum awr o daith o’r rhanbarth ecolegol amrywiol o gwmpas Ystangbwll ym misoedd Mai a Mehefin. Tua’r mewndir, byddwch yn archwilio dyffrynnoedd coediog a phyllau lili hynafol, sy’n gartref i ddyfrgwn, adar y dŵr a gweision y neidr. Mae’r arfordir yn ddarn prydferth o glogwyni a childraethau, a thraethau a thwyni bob yn ail.
Gwylio morfilod a dolffiniaid yn Sir Benfro
Mae Voyages of Discovery yn Nhyddewi wrthi’n perffeithio’r grefft o wylio morfilod a dolffiniaid yng Ngorllewin Cymru ers 2002. Oherwydd eu gwybodaeth fanwl am ddyfroedd arfordirol a phell o'r lan Sir Benfro, maent yn siŵr o weld dolffiniaid preswyl a mudol (cyffredin, trwyn potel a Risso), morfilod (pigfain, asgellog sei ac asgellog llwyd), orcaod a siarcod yn rheolaidd. Rhwng misoedd Mai a Medi yw’r cyfnod gorau, yn enwedig mis Mehefin.
Gwarchodfa RSPB Ynys-hir
Yn ystod yr haf, mae gwarchodfa RSPB Ynys-hir yng Ngheredigion yn trefnu teithiau tywysedig difyr ac addysgiadol a gweithgareddau i blant. Dewiswch o blith prynhawniau Fforiwr Bywyd Gwyllt, gydag archwilio pyllau dŵr a hel pryfed, a Stori ar Droed, sef teithiau gyda storïwr proffesiynol sy’n gwau storïau am y byd naturiol i’r profiad.