Hoff le Jamie yn yr awyr agored yw Pen y Fan, ac fe aeth yno er mwyn cymryd rhan mewn gwaith cadwraeth.
Meddai Jamie, sydd bellach yn byw yn Llundain:
'Mae treulio amser yn yr awyr iach yn fy helpu i ddianc o sŵn bob dydd, y cysylltu di-ddiwedd a dyma fy ffordd i o lacio tyndra. Y peth dwi’n ei golli fwyaf wrth fyw yn Llundain yw’r agosatrwydd at y môr a’r mynydd. Mae’n wir bod gan Lundain fannau awyr agored gwych yn y parciau, ond allwch chi ddim ymgolli mewn gwyrddni fel yng Nghymru.'
Jamie RobertsMae treulio amser yn yr awyr iach yn fy helpu i ddianc o sŵn bob dydd, y cysylltu di-ddiwedd a dyma fy ffordd i o lacio tyndra.
Ond nid Pen y Fan yn unig sy’n hawlio sylw Jamie. Mae hefyd yn rhannu ei bum lle gorau i’w darganfod ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o gorff-fyrddio yn Rhosili i ddarganfod bedd Gelert ym Meddgelert yn y gobaith y bydd hyn yn helpu teuluoedd i gynllunio eu hantur wanwynol.