Dyma rai o raeadrau hudol ein gwlad, er nad ydynt o reidrwydd y rhai mwyaf, na’r enwocaf. Mae rhai yn eithaf anodd dod o hyd iddynt, neu o bosib yn cynnwys taith gerdded heriol - ond mae eraill yn hygyrch i bawb.
Gallwch ymweld ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae rhaeadrau’n dueddol o fod yn fwy trawiadol y tu hwnt i dymor prysur yr haf. Maent yn aml ar eu gorau yn y gwanwyn pan fo gweithgarwch bywyd gwyllt yn ei anterth, neu yn yr hydref, wrth i’r coedwigoedd droi’n euraidd, ac wrth i bysgod mudol neidio i fyny’r afon i’w mannau silio. Mae gan y gaeaf ei bŵer dramatig ei hun, gydag afonydd yn rhuo y tu ôl i len o bibonwy.
Pryd bynnag y byddwch chi’n ymweld, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu am eich hun ac yn cynllunio o flaen llaw: mae cyngor gwych ar gael gan AdventureSmart a’r Cod Cefn Gwlad.
Gogledd Cymru
Rhaeadr Ddu, Ganllwyd, Gwynedd
Mae cyfres o raeadrau’n disgyn lawr yr Afon Gamlan, ond Rhaeadr Ddu yw’r harddaf a’r un mwyaf hawdd i’w chyrraedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu llwybrau â chyfeirbwyntiau o hydoedd amrywiol, felly gallwch dreulio awr neu dair yn archwilio’r afon, coetir hyfryd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Ganllwyd, ac olion mwynglawdd aur Cefn Coch.
Mae’n hawdd iawn dod o hyd iddo – mae’r maes parcio yn amlwg ar yr A470, ac mae yna doiled cyhoeddus. Mae’r llwybrau cerdded yn wastad ar y cyfan hefyd, felly mae’n addas ar gyfer teuluoedd.
Pistyll Gwyn, Gwynedd
Mae’r rhaeadr yn un o uchafbwyntiau Coed Graigddu – taith gerdded ogoneddus o unig ar draws rhostir a choetir, heibio gweddillion adfeiliedig bythynnod gweithwyr coedwigaeth, gyda chadwyn mynyddoedd Rhiniogydd yn dod i’r golwg o’ch blaen. Mae Pistyll Gwyn tua milltir o’r maes parcio, ond mae yna opsiwn o gylchdaith Bwlch Drws Ardudwy os hoffech chi fynd ymhellach i mewn i’r gwyllt.
Mae’r man cychwyn yn anodd dod o hyd iddo. Rydych yn edrych am ffordd â giatiau oddi ar yr A470, tua hanner milltir i’r de o Fronaber. Dilynwch y ffordd ar draws y rhosydd am gwpwl o filltiroedd i’r maes parcio am ddim.
Rhaeadr Dyserth, Sir Ddinbych
Mae Rhaeadr Dyserth yn haws o lawer i ddod o hyd iddo. Mae’n disgyn dros glogwyn calchfaen fwy neu lai yng nghanol y pentref tlws hwn, sydd wedi’i leoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Yn rhyfeddol fe sychodd y rhaeadr yn llwyr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, wrth i ddŵr gael ei ailgyfeirio i felinau a mwyngloddiau lleol. Cafodd Dyserth ei raeadr yn ôl ar ddiwedd y 19eg ganrif, ac mae wedi bod yn llifo ers hynny.
Nid oes angen offer cerdded i fwynhau’r rhaeadr hon, oni bai eich bod am ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer taith i fyny at fryngaer Moel Hiraddug.
Rhaeadr y Tylwyth Teg, Conwy
Mae Afon Crafnant yn llifo trwy bentref Trefriw, ble gallwch ddod o hyd i lefydd parcio hawdd. Mae’n cymryd llai na 10 munud i gerdded i lawr at y rhaeadr brydferth, felly mae’n werth dal ati drwy’r coed i ddod o hyd i raeadrau bychan ymhellach i lawr yr afon. Am daith gerdded hir, ewch ymlaen i lynnoedd Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant. Yn ôl yn y pentref, gallwch ddadflino yng Ngwesty Rhaeadr y Tylwyth Teg, ac ymweld â Melinau Gwlân Trefriw.
Nid yw’r llwybr troed i’r rhaeadr yn amlwg ar unwaith; mae wedi’i swatio ychydig i fyny Bryn y Capel, gyferbyn â’r gwesty.
Rhaeadr y Graig Lwyd, Conwy
Mae’r ddwy raeadr sy’n efeilliaid ym Mharc Coedwig Rhaeadr y Graig Lwyd yn ganolbwynt i warchodfa natur 10-erw sy’n ffurfio rhan o Ffos Anoddyn, ceunant dwfn sy’n rhedeg i lawr o Fetws-y-Coed drwy goetir hynafol. Maent wedi cadw’r llwybrau a’r mannau i fwynhau golygfeydd mor naturiol â phosib yn fwriadol, felly mae’n heriol o dan draed mewn rhai mannau. Dewch â phicnic gyda chi, neu ewch i Gaffi Rhaeadr Conwy sydd ar y safle.
Mae tâl cymedrol yn cael ei godi i gael mynediad i’r parc (£1.50 ar hyn o bryd i oedolion, yn daladwy wrth y giatiau wrth ymyl y caffi), er mae am ddim i bobl leol.
Rhaeadr Nantcol, Gwynedd
Mae perchnogion Rhaeadr Nantcol, sydd wedi’i swatio mewn ffermdir hardd, wedi cynllunio amrywiaeth o lwybrau cerdded coetir ac afon, yn amrywio o droeon bach 10-munud i deithiau cerdded hamddenol 90-munud, i gyd yn cychwyn o’r maes parcio. Cofiwch ei fod yn wersyllfa (felly bydd pobl o gwmpas) ac yn fferm ddefaid gweithredol (felly cadwch eich ci ar dennyn).
Mae Afon Cwm Nantcol yn ymuno’n fuan ag Afon Artro cyn cyrraedd y môr ym Mochras. Ymhlith yr atyniadau cyfagos mae Ynys Fochras a gwarchodfa natur Morfa Dyffryn.
Rhaeadrau Canolbarth Cymru
Hafod
Bellach yn nwylo diogel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae stad yr Hafod yn meddiannu 200 hectar yn stad uchaf Cwm Ystwyth. Roedd natur wedi gwneud gwaith anhygoel ar y golygfeydd yn barod, ond fe wnaeth ei pherchnogion 18fed ganrif wella ac addurno’r dirwedd yn yr arddull ‘darluniadwy’. Fe wnaethant hefyd greu llwybrau cerdded i arddangos y cyfan, gan gynnwys taith anodd Rhodfa’r Bonheddwr a thaith rwyddach Rhodfa’r Foneddiges (enwau na fyddent yn cael eu goddef heddiw, yn amlwg). Mae pob taith gerdded yn cynnwys cyfres o raeadrau hyfryd, a’r mwyaf ohonynt yw Rhaeadr Peiran a Rhaeadr Mossy Seat.
Mae ei rhaeadr fwyaf, Lefel Lampwll, ar gau am resymau diogelwch. Mae ei henw Cymraeg yn awgrymu mai glowyr wnaeth yr ogof yn wreiddiol.
Rhaeadr Ffwrnais, Ceredigion
Ychydig i fyny’r afon o Ffwrnais hanesyddol Dyfi, mae Afon Einion yn disgyn lawr fel rhaeadr aruthrol. Manteisiwyd ar rym y dŵr ar gyfer y ffwrnais ac, yn ddiweddarach, ar gyfer y melinau llifio. Tra byddwch chi yno, mae’n werth cerdded ymhellach i fyny Cwm Einion rhyfeddol, un o hoff guddfannau canwr Led Zepplin, Robert Plant. Mae’n werth ymweld â gwarchodfa RSPB Ynys-hir gerllaw hefyd – bu’r BBC yn ffilmio eu cyfres boblogaidd Springwatch yno ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae'r bwyty agosaf yn go arbennig. Cafodd Ynyshir, sydd â dwy seren Michelin, ei henwi’n ddiweddar fel y bwyty gorau ym Mhrydain. Mae’n rhyfeddol o flasus!
Rhaeadr Cenarth, Ceredigion
Mae Afon Teifi’n rhedeg drwy bentref tlws Cenarth, gan nodi’r ffin rhwng dwy sir Gymreig. Ar ochr Ceredigion, mae yna gylchdaith hawdd Cenarth, gyda llwybr pren hygyrch ar hyd glan yr afon, tra bod atyniadau ar lan Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Amgueddfa Cwrwgl Cenedlaethol a ffynnon sanctaidd Sant Llawddog. Ond y prif atyniad, heb os yw’r rhaeadrau eu hunain. Yn yr hydref, mae’n lle gwych i weld eogiaid mudol a sewin yn neidio fyny’r rhaeadr i gyrraedd eu mannau silio.
Mae yna faes parcio da (o gwmpas £3) ac oherwydd bod y rhaeadr fwy neu lai yng nghanol y pentref, mae digon o lefydd i fwyta, yfed a siopa.
Rhaeadr Reidiol, Ceredigion
Mae rheilffordd stêm Cwm Rheidiol yn pwffian i fyny’r 12 milltir o Aberystwyth i Bontarfynach drwy goedwigoedd derw a bedw digoes hynafol. ‘Punchbowl’ y Diafol a Rhaeadr Mynach yw’r atyniadau mwyaf, ond mae cerddwyr cyfrwys yn gadael y trên yn arhosfan Rhaeadr Rheidol i grwydro'r rhaeadrau sy’n denu llai o ymwelwyr (mae map llwybr gwych ar gael ar wefan Cwm Rheidol – edrychwch ar daith gerdded rhif 4). Fel bonws, mae’r daith gerdded yn cynnwys Cronfa Ddŵr Cwm Rheidol, yr ysgol bysgod, a thaith o amgylch Canolfan Ymwelwyr a Gorsef Bŵer Rheidol os oes gennych amser.
Mae’r trên yn rhedeg o fis Mawrth i fis Tachwedd. Cofiwch gall y cerdded fod ychydig yn heriol, yn enwedig yn y gaeaf.
Rhaeadr Pontarfynach, Ceredigion
Bydd llên gwerin yn dweud wrthych fod y diafol wedi adeiladu pont syfrdanol dros y rhaeadr hon, a’i fod wedi cael ei drechu gan fenyw leol yn ddiweddarach a’i ddiarddel o’r wlad am byth. Mae dwy daith gerdded ar wahân yn ymdroelli i fyny wrth ymyl y rhaeadr, ble mae cannoedd o risiau llechi’n arwain at amrywiaeth o lwyfannau gwylio. Ac ar gyfer unrhyw wylwyr y rhaglen deledu Y Gwyll, efallai y byddwch chi’n adnabod rhai o’r lleoliadau: Pontarfynach oedd lleoliad ac enw’r bennod gyntaf erioed. Mae’r rhaeadr tua 12 milltir o Aberystwyth.
Mae yna faes parcio am ddim ger y fynedfa, neu teithiwch i fyny gan ddefnyddio pŵer stêm. Mae gorsaf Reilffordd Cwm Rheidol ym Mhontarfynach yn cymryd 4 munud ar droed i’w gyrraedd – edrychwch ar eu hamserlen i sicrhau fod gennych ddigon o amser ar gyfer y daith gerdded, serch hynny!
Dŵr-Torri-Gwddf, Powys
A oes enw gwell ar gyfer rhaeadr? Mae rhaeadr o enw tebyg yn rhannau uchaf yr Hafren hefyd. Mae hon yn disgyn i lawr clogwyn yng Nghoed Cwningar, sydd wedi ei enwi ar ôl y cwningod a oedd yn darparu ffynhonnell leol o fwyd. Mae’n rhan o Goedwig Maesyfed ehangach a oedd unwaith yn faes hela brenhinol. Mae yna barcio gweddol a digon o lwybrau sydd â chyfeirbwyntiau.
Mae’n well ymweld â hi ar ôl glaw trwm oherwydd gall y rhaeadr droi’n ddiferion yn unig ar ôl cyfnod sych hir.
Bannau Brycheiniog, Powys
Rydym yn rhoi sylwi i rhaeadrau cudd Cymru yma, ond byddai’n wirion peidio sôn am y gornel fach o Fannau Brycheiniog sy’n cael ei adnabod fel Gwlad y Sgydau, sydd â’r crynodiad mwyaf o raeadrau, ogofâu a cheunentydd godidog o unrhyw le ym Mhrydain. Nid yw’r rhaeadrau yma’n agos i’r meysydd parcio, felly mae’n cymryd taith gerdded hir ar dir anwastad i’w cyrraedd.
Ond mae poblogrwydd yn dod gyda chost. Yn ystod yr haf gall fod yn anodd parcio ac mae hi'n brysur dros ben. Felly, cynlluniwch eich taith ymlaen llaw a cheisiwch ymweld y tu allan i adegau prysur os allwch chi. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio am ddim o Lyn-nedd i Bontneddfechan, a maes parcio Gwaun Hepste lle bo modd. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc rhwng dydd Sadwrn 23 Gorffennaf a dydd Sul 4 Medi 2022.
Rhaeadrau De Cymru
Rhaeadr Melin-cwrt, Castell-nedd Port Talbot
Gan ei fod ychydig y tu allan i brif ardal Gwlad y Sgydau mae Rheadr Melin-cwrt yn dennu llai o ymwelwyr. Mae hyn yn newyddion da, oherwydd mae’n anhygoel: mae’n hawdd ei gyrraedd o’r maes parcio, ac yn drawiadol pan fyddwch chi’n cyrraedd yno - ond heb yr un torfeydd. Mae’r rhaeadr 84tr / 24m yn creu microhinsawdd llaith sy’n cynnal rhedyn prin a digonedd o adar. Ychydig uwch ei ben mae yna olion o waith haearn o’r 18fed ganrif.
Er ei fod ychydig mwy na 10 munud o’r maes parcio, mae’r llwybr yn gul ac yn codi’n raddol.
Ceunant Clydach, Sir Fynwy
Mae’n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond mae Ceunant Clydach yn ddigon agos at faes glo De Cymru i’w wneud yn brif darged i chwyldrowyr diwydiannol, a fanteisiodd ar bŵer yr afon ar gyfer gweithfeydd haearn a chwareli. Heddiw, mae’r rhain yn adfeilion darluniadwy mewn coetiroedd, ac mae Ceunant Clydach, sy’n rhedeg yn fras o Gilwern i lawr i warchodfa Cwm Clydach y RSPB, wedi’i adennill gan natur. Mae rhai o’i raeadrau niferus yn anodd eu cyrraedd – yn syml, mae’r ceunant yn rhy ddwfn a serth – ond maent yn hawdd eu gweld o’r llwybr troed. Mae llwybr map cerdded a beicio ar wefan Sustrans, a chanllaw cerdded ar wefan UK Southwest.
Y ffordd orau i ddod yn gyfarwydd â rhaeadrau Clydach wrth ddod i adnabod pobl eraill yw ymuno â grŵp sgrafangu ceunentydd, sy’n dringo nifer o’r rhaeadrau fel rhan o deithiau antur.
Pwll Glas, Merthyr Tydfil
Mae’r safle picnic ym Mhwll Glas yn le perffaith i orffen taith gerdded wledig, ble mae dyfroedd Taf Fechan yn rhaeadru’n ysgafn i’r pwll. Mae gwarchodfa natur Taf Fechan yn cynnig teithiau cerdded gwych y gallwch gyfuno â thaith gerdded anoddach i fyny at weddillion Castell Morlais, a gafodd ei hadeiladu yn ystod ffrae rhwng dau farwn Normanaidd.
Mae’r Taf Fechan a’r Taf Fawr yn esgyn ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd ym Mannau Brycheiniog. Maent yn cyfarfod ym Merthyr Tydfil i ffurfio’r Afon Taf, sy’n llifo i’r môr drwy ganol Caerdydd.