Byddwch yn ymwybodol y gall ffyrdd o amgylch y rhaeadrau fod yn gul iawn, ac maent yn aml yn ffyrdd trac unffrwd gyda gwelededd gwael a dim llawer o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a bacio yn ôl ar lonydd cul. Cyn mynd ar eich taith, gwiriwch wefan Bannau Brycheiniog.
Gwybodaeth allweddol:
- Noder nad oes un o’r rhaeadrau yn agos i’r maes parcio.
- Dim ond arian parod mae’r meysydd parcio yn derbyn, felly sicrhewch fod gennych arian mân i dalu i barcio.
- Sicrhewch eich bod yn dilyn arwyddion unffordd cynghorol ble gofynnir i chi.
- Mae’r meysydd parcio yn fach, ac yn gallu bod yn brysur, a maent yn aml yn llawn erbyn canol dydd.
- Cadwch lygad ar gyfryngau gymdeithasol Bannau Brycheiniog am unrhyw gyhoeddiadau pwysig ar ddiwrnod eich ymweliad.
Bro'r Sgydau
Mae rhywbeth yn lledrithiol a rhyfeddol am weld y dŵr yn llifo dros y dibyn ac yn plymio i bwll fel crisial islaw. Maent yn perthyn i straeon tylwyth teg, neu ffilmiau ffantasi Hollywood. Fel The Dark Knight Rises, er enghraifft, y ffilm Batman o 2012, lle’r oedd ogof ein harwr yn cuddio – cadwch hyn o dan eich het – y tu ôl i Sgwd Henrhyd, y talaf o blith degau o raeadrau yn rhannau gorllewinol Bannau Brycheiniog, ardal sy’n cael ei galw yn ‘Fro'r Sgydau’.
Mae’n hawdd gweld beth ddenodd fawrion Hollywood i Sgwd Henrhyd. Nid yn unig fod y rhaeadr yn arbennig o uchel, mae’n un o’r rhai hawddaf i’w cyrraedd: ni fyddwch chi fawr o dro’n cerdded i lawr y grisiau serth o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ryfeddwch chi wrth gyrraedd gwaelod y sgwd yma sy’n disgyn 27 metr o’r brig.
Rhyfeddol yn wir, ond bydd angen i ni fynd ychydig filltiroedd tua’r dwyrain i weld gogoniant mwyaf Bro'r Sgydau, lle mae tair afon – Mellte, Hepste a Nedd Fechan – wedi torri drwy’r creigiau meddal i greu ceunentydd coediog, serth sy’n gyforiog o ogofâu a rhaeadrau.
Llwybr y Pedwar Sgwd
Ar fore braf o Chwefror mae’r plant a minnau ar ein ffordd i ddarganfod rhai o’r mannau mwyaf syfrdanol, wrth fynd ar Lwybr y Pedwar Sgwd. Dechreuwn ein taith ym maes parcio Cwm Porth, lle mae Afon Mellte’n diflannu i ogof sydd â’r ceudwll mwyaf yng Nghymru. Mae ogofawyr wrth eu bodd yn dod yma, a gallwn glywed lleisiau’r gwahanol grwpiau o blant ysgol yn adleisio oddi tanom.
Wrth i ni gerdded ar hyd gwely sych yr afon, mae’n beth rhyfedd meddwl bod yr afon honno’n byrlymu drwy dwnelau o dan ein traed. Fe ddaw i’r golwg ryw ganllath neu ddwy i lawr yr allt, ar ffurf nant hyfryd sy’n troelli drwy’r coed ac yn arllwys i’r Pwll Glas. Mae hwn yn lle da i ni gael seibiant am funud neu ddwy wrth wylio pâr o drochwyr, adar bach del sy’n cerdded ar hyd gwely’r afon yn chwilio am fwyd.
Cyn bo hir fe gyrhaeddwn Sgwd Clun Gwyn – dwy raeadr ar wahân mewn gwirionedd, gydag ychydig gannoedd o fetrau rhyngddynt. Y sgwd uchaf sy’n plymio bellaf i’r dŵr islaw – yn llydan fel Niagara ac yn ddigon uchel i godi braw ar rywun – ond y rhai isaf sydd orau gennym ni: cadwyn o gwympiadau prydferth sy’n llifo i’r ceunant dwfn fel pe baent yn mynd i lawr grisiau. Mae’n lle da i ganŵio ar y dŵr gwyn a bydd ceunentwyr yn dod yma’n llu dros yr haf, ond nid oes unrhyw un yn gwmni i ni heddiw
Awn ymlaen wrth lannau’r afon at Sgwd y Pannwr, lle fyddai pobl yn dod ers talwm i lanhau gwlân – ‘pannu’. Fel unrhyw riant da mae gen i fflasg o siocled poeth yn barod i ni ei fwynhau, a byddwn angen yr egni cyn cerdded am hanner awr i ben y daith, sef Sgwd yr Eira.
Mentro y tu ôl i len o ddŵr
Fe fyddwch chi wedi gweld mwy o luniau o’r rhaeadr yma nag unrhyw un arall yng Nghymru, gan fod pobl yn medru mentro y tu ôl i’r rhaeadr ar lwybr defaid, wrth i’r dŵr ddisgyn yn un llen fawr o’u blaen. Mae’n arbennig o hyfryd yma heddiw, gyda phibonwy yn disgleirio ar yr ymylon, a siglennod brithion yn sboncian yn llwch y dŵr islaw. Gall pob gwlad yn y byd hawlio fod ganddi ‘drysorau cudd’, ond dyma beth yw trysor cudd go iawn. Mae fel paradwys yma, yn enwedig gan ein bod mor bell o’r ffordd fawr.
Mae’n well i mi gynnig gair o gyngor, fodd bynnag: y peth saffaf fyddai cadw at y llwybr a dilyn yr arwyddion, a fydd yn dueddol o fynd â chi dros dir uwch. Fe allech chi fynd ar hyd y llwybrau geirwon ar lannau’r afonydd, ond mewn rhai mannau fe gewch eich gwasgu at y graig gyda dibyn dychrynllyd ar eich naill ochr – fyddai hyn yn bendant ddim yn syniad da os oes plant bach gyda chi, yn enwedig felly pan fydd llif mawr yn yr afonydd. Mae Llwybr y Pedwar Sgwd yn dipyn o daith, hefyd – yn mynd dros bant a bryn am o leiaf tair awr, ac amser ar ben hynny i gael rhywbeth i fwyta, ac nid oes yr un toiled ar hyd y ffordd.
Er gwaethaf hynny mae’n brofiad bythgofiadwy i’r teulu – does gan Hollywood ddim byd i'w gymharu â Bro'r Sgydau. Ddim hyd yn oed Batman.