Traethau i’ch cyfeillion pedair coes
Trowch eich trwynau, a thrwynau’ch cŵn, am y traethau hyn ar arfordir ysblennydd Cymru. Mae yma ddewis eang o draethau lle bydd croeso i’ch cyfeillion pedair coes gydol y flwyddyn... mae’n bryd mynd am dro!
Mae Cymru yn lle gwych i fynd ar wyliau gyda’ch cŵn, gyda dewis helaeth o lety sy’n croesawu cŵn, digonedd o atyniadau i ymwelwyr sy’n addas i gŵn, ac ardaloedd eang o gefn gwlad i’w crwydro wrth fynd â’r ci am dro.
Mae prydferthwch Llwybr Arfordir Cymru, y cyntaf o’i fath unman yn y byd, yn ymestyn am 870 milltir yr holl ffordd o amgylch glannau anhygoel ac amrywiol y wlad. Mae arno lefydd perffaith i fynd â’r ci am dro, gyda golygfeydd godidog o’r arfordir. Ond os yw bryd eich cŵn annwyl ar chwarae yn y tywod, neu fwynhau heli a thonnau’r môr, mae yma hefyd yng Nghymru draethau di-ben-draw sy’n croesawu cŵn.
Wrth fynd ar antur yng nghwmni’ch cŵn, cofiwch fod yn gyfrifol, gan ddilyn y Cod Cefn Gwlad a’r Cod Cerdded Cŵn.
Ar rai traethau yng Nghymru, mae cyfyngiadau tymhorol ar gerdded cŵn. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y cyfyngiadau hyn, a gallan nhw newid o dro i dro. Wrth gynllunio’ch diwrnod, chwiliwch am y wybodaeth leol ddiweddaraf ar wefan y cyngor dan sylw. Mae modd dod o hyd i ardaloedd awdurdodau lleol gan ddefnyddio’r cod post ar y wefan hon.
Traethau sy’n croesawu cŵn yn y gogledd
Trwyn Penmon, Ynys Môn
Mae traeth gwyllt a garw Trwyn Penmon i’w ganfod yn ne-ddwyrain pellaf Ynys Môn. Yr ochr draw i’r traeth caregog, mae goleudy streipïog Trwyn Du o’r ddeunawfed ganrif yn sefyll yn falch, a chewch olygfeydd o Ynys Seiriol y tu hwnt iddo. Yn eu tymor, bydd morloi’n aml i’w gweld yn y dŵr yma, a bydd y pyllau glan môr yn llawn o grancod ac anemonïau. Ar ôl cerdded drwy’r gwynt, mae caffi bach prydferth uwch y traeth i gael hoe.
Sut i gyrraedd yno: Ewch dros Bont Menai, troi i’r dde ar hyd ffordd yr arfordir heibio i Gastell Biwmares, cyn dilyn y lôn droellog at y trwyn. Mae toll fechan i’w thalu i yrru ar hyd y darn olaf (£3.50), lle mae maes parcio.
Beth arall? Mwynhewch frecwast swmpus neu de prynhawn yn y Pilot House Café uwchben y traeth. Mae hefyd nifer o adfeilion diddorol i’w crwydro, gan gynnwys hen fynachdy, colomendy ac eglwys.
Traeth Porth Ceiriad, Pen Llŷn
Ym mhen draw deheuol Pen Llŷn, mae’r bae eang ym Mhorth Ceiriad yn cynnig golygfeydd dramatig a digonedd o dywod agored i’w fwynhau. A hwnnw’n lle tawel yn ystod yr wythnos, mae’n prysuro ar benwythnosau yn yr haf wrth i deuluoedd a’r rheini sydd am wneud chwaraeon dŵr heidio yno. Bae tywodlyd, cysgodol sy’n wynebu’r de yw hwn, felly mae’n lle poblogaidd i dorheulo. Yn y gaeaf, mae ymchwydd y môr yn denu syrffwyr profiadol.
Sut i gyrraedd yno: Gyrrwch i’r de o Abersoch ar hyd Lôn Sarn Bach, heibio i’r troad am Fwlchtocyn, a dilyn y troad nesaf i’r chwith. Mae ffordd gul bengaead yn troelli tua’r maes parcio ar gopa’r clogwyn. Oddi yno, mae’n bum munud o waith cerdded dros gae ac i lawr ychydig o risiau serth.
Beth arall? Mwynhewch y golygfeydd ysblennydd o Gilan Uchaf, sydd gerllaw. Ar ddiwrnod clir, fe allwch chi edrych draw dros y bae disglair a gweld copaon yr Wyddfa a’i chriw.
Morfa Conwy, Conwy
Mae Traeth Morfa Conwy ymhlith yr ychydig draethau tywodlyd ym Mae Conwy sy’n croesawu cŵn gydol y flwyddyn. Mae i’w ganfod ar ochr ddeheuol yr aber, gyda golygfeydd draw i’r Gogarth. A hithau’n drai, bydd Morfa Conwy yn dod yn ddarn helaeth o dywod sy’n cysylltu â rhai o draethau tywodlyd eraill y bae. A hithau’n benllanw, dim ond stribyn cul o gerrig mân fydd yma. I osgoi siomi eich ci, edrychwch ar amseroedd y llanw. Pan fydd y llanw’n troi, cofiwch y bydd hwnnw’n dod i mewn yn go gyflym.
Sut i gyrraedd yno: Mae’n hawdd dod o hyd i Forfa Conwy, sydd yn daith fer mewn car i’r gorllewin o Gonwy. Mae maes parcio bychan yno sydd am ddim (cyrhaeddwch yn gynnar ar ddiwrnodau braf o haf).
Beth arall? Ewch i grwydro strydoedd hanesyddol cyfagos Conwy, neu ewch am y marina i gael rhywbeth bach i’w fwyta.
Traethau sy’n croesawu cŵn yn y canolbarth
Traeth sydd wedi ennill Gwobr Glan Môr a Gwobr Arfordir Glas yw Cilborth, a hwnnw i’w ganfod i’r gogledd o Langrannog. Yn ôl y rhai sy’n gwybod, dyma’r rhan fwyaf ysblennydd o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngheredigion. Mae modd ei gyrraedd o draeth Llangrannog pan fydd y môr ar drai, neu drwy ddringo’r grisiau dros y clogwyn. Mae’r cildraeth diarffordd hwn yn edrych draw ar Garreg Bica, y graig anferth siâp daint. O amgylch honno, mae ogofeydd a phyllau glan môr i’w canfod. Gall eich cŵn fwynhau fan hyn heb gyfyngiadau gydol y flwyddyn gron.
Sut i gyrraedd yno: Trowch oddi ar yr A487 ym Mrynhoffnant, i’r gogledd o Aberteifi, cyn dilyn y B4334 am Langrannog. Mae gwasanaeth bws 552 (Cardi Bach) yn teithio rhwng Ceinewydd ac Aberteifi drwy Langrannog.
Beth arall? Mae Llangrannog hefyd yn gartref enwog i Wersyll yr Urdd. Sefydlwyd y ganolfan yn 1932 ac mae’n dal i gynnig cyfleusterau rhagorol a gweithgareddau i weddill y teulu.
Traeth Ynyslas, Borth, Ceredigion
Er bod gan draeth y dref yn Borth gyfyngiadau ar gŵn yn ystod yr haf, mae traeth Ynyslas gerllaw yn eu croesawu drwy’r flwyddyn. Mae’r darn agored hwn o dywod yn wyllt ac yn brydferth, ac yn gefnlen iddo mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Mae gan Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas ger y traeth arddangosfeydd a gwybodaeth ddiddorol am yr ardal.
Sut i gyrraedd yno: Anelwch i’r gogledd o Borth am Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas, a dilynwch yr arwyddion i faes parcio’r traeth. Sylwch y bydd y maes parcio dan ddŵr pan fydd hi’n llanw uchel iawn, felly cadwch lygad ar yr arwyddion.
Beth arall? Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn croesawu cŵn, ond dylid eu cadw ar dennyn mewn rhai mannau, yn enwedig yn ystod yr haf pan fydd y morfa heli a’r twyni’n dod yn fridfa bwysig i adar.
Traethau sy’n croesawu cŵn yn y gorllewin
Bae Barafundle, Sir Benfro
Mae’r tywod euraidd a’r dyfroedd clir fel grisial yn Nhraeth Bae Barafundle wedi cael eu cymharu â rhai’r Caribî. Drwy lwc, bydd modd i’ch anifail anwes fwynhau’r traeth godidog hwn hefyd, gan fod croeso i gŵn yno gydol y flwyddyn. Wyff! Mae’r llwybr cerdded i lawr i’r traeth yn serth, ond mae’r grisiau cerrig yn addas i gŵn, ac mae’r ddringfa’n sicr yn werth yr ymdrech.
Sut i gyrraedd yno: Mae llefydd parcio i’w cael yng Nghei Ystagbwll, Ystagbwll, a De Aberllydan.
Beth arall? Mae Pyllau Lili Bosherston yn cynnig math arall o lwybr cerdded ar lannau’r dŵr, lle mae croeso i gŵn hefyd. Mae’r daith hamddenol hon ger y llyn yn gyfle i weld bywyd gwyllt o bob math, felly cadwch eich cŵn ar dennyn. Gerllaw, mae St Govan’s Country Inn yn croesawu cŵn ac yn cynnig bwydlen amrywiol, gan gynnwys dewisiadau llysieuol, figan a heb glwten.
Traeth Maenorbŷr, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Am draeth sy’n llawer mwy na thraeth, ewch draw i Faenorbŷr. Nid yn unig y mae yma fae tywodlyd a charegog, ond mae gan hwn hefyd gastell mawreddog yn ei gysgodi. Ewch yno gyda’ch ci, gan ddychmygu sut beth fyddai byw mewn caer mor ysblennydd gyda’r arfordir y tu hwnt i’ch ffenest. Mae’r traeth yn boblogaidd ymhlith syrffwyr oherwydd ei leoliad de-orllewinol, ond cadwch olwg ar eich cŵn wrth ochr y dŵr, gan y gall y cerrynt fod yn gryf.
Sut i gyrraedd yno: Ewch tua’r gorllewin o dref glan môr Dinbych-y-pysgod ac yn eich blaenau drwy Benalun. Gallwch barcio yn y maes parcio i lawr yn y dyffryn y tu ôl i’r traeth, neu’n uwch ar y clogwyn i wylio’r syrffwyr.
Beth arall? Mae pentref Maenorbŷr dafliad carreg i ffwrdd. Yno fe ddewch chi ar draws The Castle Inn, caffi a siop lan môr. Os bydd eich bryd ar grwydro ymhellach, cerddwch i’r gorllewin ar hyd llwybr yr arfordir i Fae Swanlake (sydd hefyd yn croesawu cŵn gydol y flwyddyn).
Traethau Porth Tywyn, Porth Tywyn, Sir Gâr
Mae’r ddau draeth ym Mhorth Tywyn i’w canfod ar ddwy ochr y marina. Harbwr oedd yma unwaith i allforio glo. Mae’r naill draeth a’r llall yn croesawu cŵn gydol y flwyddyn. Mae’r traeth dwyreiniol yn filltir o hyd, gyda thwyni y tu ôl iddo. Mae ganddo hefyd lwybr beicio sy’n arwain i Lanelli. Mae’r traeth gorllewinol wedyn yn un agored a thywodlyd, cyn iddo droi’n gilfach. Mae gan hwnnw lwybr beicio i Ben-bre. Mae digonedd o lefydd i’w crwydro fan hyn.
Sut i gyrraedd yno: Gadewch yr M4 ar gyffordd 48 (i’r A4138), cyn dilyn yr A476 a’r A484. Mae ychydig o lefydd i barcio am ddim ar waelod Heol Vaughan, ynghyd â maes parcio talu ac arddangos yn yr harbwr.
Beth arall? Mae canol y pentref bum munud o’r traeth. Mae yno orsaf reilffordd, becws a sawl lle bwyta a thafarn. Cofiwch fynd am dro i’r harbwr; yn fan hyn y glaniodd Amelia Earhart ar ôl hedfan dros Gefnfor Iwerydd – y fenyw gyntaf erioed i wneud hynny.
Rhosili, Gŵyr
Mae’r Times wedi glaw’r traeth hwn yn draeth gorau’r Deyrnas Unedig i gŵn, ac mae’n un o ddeg traeth gorau TripAdvisor drwy’r ddaear gron. Yn wir, mae modd dadlau mai traeth Rhosili a’i dair milltir o dywod yw traeth enwocaf Cymru. Mae yma groeso i gŵn gydol y flwyddyn. Fe allan nhw chwarae yn y gwlybaniaeth pan fydd hi’n drai, neu ymestyn eu coesau ar y tywod helaeth. Mae holl draethau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngŵyr yn croesawu cŵn drwy'r flwyddyn.
Sut i gyrraedd yno: Mae modd cyrraedd y traeth drwy ddilyn llwybr o bentref Rhosili, ym mhen draw’r B4247. Mae’r maes parcio yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae yno lefydd i wefru cerbydau trydan a llefydd i gadw beiciau hefyd.
Beth arall? Mwynhewch daith gerdded hamddenol ar Lwybr Arfordir Cymru drwy Langynydd, cyn dilyn y clogwyni uwchben y traeth godidog a dod yn ôl ar hyd y tywod. Man perffaith am hoe gyda’ch cŵn yw tafarn y King’s Head ym mhentref Llangynydd. Fan hyn cewch chi ddisgwyl bwyd cartref a chwrw da. Os ydych chi am wneud y cyfan yfory eto, mae yma lety sy’n croesawu cŵn hefyd.
Traethau sy’n croesawu cŵn yn y de
Traeth Newton, Bro Morgannwg
Fymryn i’r dwyrain o Borthcawl, mae traeth Newton yn rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Dyma draeth eang a thywodlyd sy’n ymestyn mewn bwa o’r trwyn yn Newton i geg afon Ogwr. Dyma un o draethau tawel ardal Porthcawl, lle cewch chi ddarnau helaeth o dywod ynghyd â chreigiau gwasgaredig. Pan fydd hi’n drai, mae dwsinau o byllau glan môr i’w canfod, tra bo twyni Merthyr Mawr yn ffinio â darn o’r traeth.
Sut i gyrraedd yno: Ewch tua’r dwyrain o Borthcawl a dewis rhwng dau faes parcio bach ar hyd ffordd y traeth. Opsiwn arall yw parcio ym mhentref bach prydferth Newton, sy’n ddeng munud ar droed o’r bae.
Beth arall? Beth am fwynhau diwrnod cyfan yma a pharhau i gerdded i’r twyni cyfagos, drwy Warchodfa Natur Merthyr Mawr ac i Draeth Ogwr, sydd hefyd yn croesawu cŵn.
Temple Bay, Bro Morgannwg
Mae cildraeth diarffordd Temple Bay hefyd yn rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg, a hwnnw’n cynnig lle ychydig yn fwy gwyllt i fynd â’r ci am dro. Cildraeth bychan yw Temple Bay, ac mae’n rhan o Fae Dwnrhefn (Traeth Southerndown) lle mae cyfyngiadau tymhorol ar gŵn ar y traeth. Mae’r clogwyni uchel yn rhoi golygfeydd eang ar draws y bae. Trowch eich golygon tua’r tir, ac fe welwch chi adfeilion Castell Dwnrhefn ynghyd ag olion hen gaer o’r Oes Haearn.
Sut i gyrraedd yno: Mae lle i barcio ym Mae Dwnrhefn (Traeth Southerndown). Oddi yno, mae hi’n daith gerdded hanner milltir ar hyd yr arfordir cyn i’r llwybr ddisgyn yn serth i’r traeth.
Beth arall? Mae digonedd o bethau i’w gwneud ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg mewn llefydd sy’n croesawu cŵn, gan gynnwys pentrefi hanesyddol, cestyll a sawl llwybr arfordirol. Mae Gerddi Muriog Dwnrhefn o fewn pellter cerdded agos i faes parcio Bae Dwnrhefn (Traeth Southerndown) ac maen nhw’n croesawu cŵn sy’n ymddwyn yn dda.