Dydy cerdded o un dref neu bentref i’r llall a newid llety bob nos ddim at ddant pawb, ond nid dyma’r unig ffordd i brofi Llwybr Arfordir Cymru. Wrth wneud fy ngwaith ymchwil ar gyfer ysgrifennu dau o lyfrau tywys swyddogol y llwybr, penderfynais gwblhau darnau sylweddol ohono gan ddefnyddio trenau a bysiau – a chefais fy synnu ar yr ochr orau pa mor hawdd a chymaint o hwyl oedd hynny.

Eryri ar y trên

Mae Rheilffordd Arfordir Cambria yn dilyn arfordir Bae Ceredigion o Bwllheli i Aberystwyth (trwy Fachynlleth). Mae’n syndod cymaint o orsafoedd sydd ar hyd y darn cymharol fyr hwn o’r llinell – 30 i gyd – gyda threnau’n rhedeg bob cwpl o oriau. Mae hyn yn caniatáu cryn hyblygrwydd i gerddwyr Llwybr Arfordir Cymru wrth benderfynu pa mor bell maen nhw eisiau cerdded bob dydd.

Pan gerddodd fy mhartner Heleyne a minnau y darn 49 milltir (79km) o Borthmadog i Aberdyfi ar hyd arfordir Parc Cenedlaethol Eryri, roedden ni'n aros yn Harlech a’r Bermo. Defnyddion ni’r trên i gerdded rhai darnau o’r llwybr, bob yn ail ddiwrnod o 12 i 14 milltir (19-23km), gyda theithiau cerdded byrrach rhwng 6 a 9 milltir (10-15km). Daeth mynd ar ac oddi ar y trenau, gwylio’r llwybrau roedden ni newydd eu cerdded drwy ffenestri’r cerbydau a sgwrsio â cherddwyr eraill yn gwneud rhywbeth tebyg, yn rhan o’r antur.

Rhoddodd ydull gweddol hamddeno hwnl, yn enwedig ar y dyddiau haws, fwy o amser i ni ymweld ag atyniadau fel pentref Eidalaidd PortmeirionChastell Harlech. Roedd hefyd yn golygu ein bod ni’n gallu cymryd ein hamser, a mwynhau’r golygfeydd – gyda’r Wyddfa i’w gweld ar ddiwrnodau clir – neu wylio adar yn chwilio am fwyd allan ar y banciau tywod. Mae arfordir Eryri yn cynnwys aberoedd coediog, morfeydd heli sy’n gyforiog o fywyd gwyllt, systemau twyni anferth a thraethau hir, tywodlyd sy’n ymddangos fel pe baent yn ymestyn yn ddiddiwedd. Rydych chi angen digon o amser i fwynhau'r harddwch a'r tawelwch sydd yma trwy gydol y flwyddyn.

Golygfa o bentref Portmeirion o’r awyr gyda’r môr a’r mynyddoedd yn y cefndir.
Tu allan i furiau’r castell.

Portmeirion a Chastell Harlech

Roedden ni yn ein fan wersylla, felly’n aros mewn gwersylloedd, ond mae dwsinau o westai, llety a bythynnod hunanarlwyo ar hyd yr arfordir hefyd. Yn ogystal â Harlech a’r Bermo, mae mannau da eraill ar gyfer crwydro’r ardal yn cynnwys Porthmadog a Thal-y-bont, a Tywyn ac Aberdyfi.

Ceredigion y ffordd hawdd

Y tu hwnt i Aberdyfi, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi tua'r tir i groesi Afon Dyfi ger Machynlleth cyn troi'n ôl i'r arfordir yn Borth. Mae’r dirwedd yn dechrau newid yma, wrth i gerddwyr gamu allan ar hyd clogwyni Ceredigion. Dros y dyddiau nesaf, mae'r golygfeydd yn tyfu mewn mawredd, gan arwain at fannau uchel, gwyntog sy'n dringo dros draethau diarffordd a staciau môr garw. Un o’r uchafbwyntiau niferus yw’r llwybr clogwyni dramatig, agored i’r de o Gwmtydu, ger Cei Newydd.

 

Grisiau wedi’u hamgylchynu gan goed a llwyni
A view from above showing the cliffs and sea.

Cwmtydu ger Cei Newydd

Ar ôl dal trên yn syth o Wolverhampton, defnyddiais dref brifysgol fywiog Aberystwyth fel canolbwynt i gerdded 60 milltir (96km) o Lwybr Arfordir Ceredigion. Rhannais y daith yn bum rhan – Ynyslas (i’r gogledd o Borth) i Aberystwyth; Aberystwyth i Lanon; Llanon i Gei Newydd); Cei Newydd i Aberporth; ac Aberporth i Aberteifi.

Golygfa o dai o wahanol liwiau’n edrych dros draeth tywodlyd a môr.

Tref fywiog Aberystwyth

Heblaw am y deuddydd cyntaf, roedd hyn yn golygu dal bysiau ar ddechrau a diwedd pob dydd, ond gyda bws T5 i Aberteifi yn cychwyn yn gynnar ac yn gorffen yn hwyr yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, roedd yn hawdd gwneud hyn. I ddod o hyd i amseroedd cyn eich taith gerdded ddyddiol – gan gynnwys y bws 512 i Ynyslas a’r trenau i’r Borth – defnyddiwch gwefan Traveline Cymru.

Mae opsiwn hefyd o rannu’r llwybr yn fwy na phum diwrnod drwy dorri’r cymalau yn Llanrhystud, Aberarth ac Aberaeron, sydd i gyd yn cael eu gwasanaethu gan y T5. Fel arall, os byddai’n well gennych beidio â threulio cymaint o amser ar fysiau, gallech ddewis dau neu hyd yn oed dri lleoliad gwahanol. Er bod gan Aberystwyth rywbeth i blesio'r mwyafrif, mae dewis da o lety yn nhref harbwr hyfryd Aberaeron, trefi glan môr Cei Newydd ac Aber-porth hefyd, ac yn Aberteifi, sydd hefyd yn fan cychwyn ar gyfer rhan nesaf Llwybr Arfordir Cymru – trwy Sir Benfro…

Bythynnod o wahanol liwiau’n edrych dros yr harbwr.
Cwch hwylio ar y môr gyda thai yn y cefndir.

Trefi glan môr Aberaeron a Chei Newydd

Sir Benfro ar fws

O bosib y darn gwylltaf, mwyaf trawiadol o’r llwybr cyfan yw Llwybr Arfordir Sir Benfro sy'n ymdroelli ar hyd ymyl garw cornel de-orllewin Cymru – o Landudoch, ger Aberteifi, i Gastell Amroth ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ffurfiannau arfordirol syfrdanol, cildraethau diarffordd, safleoedd claddu cynhanesyddol, adar môr chwim, trefi a phentrefi cyfeillgar, tafarndai a bwytai rhagorol. Mae’r cyfan yma, a'r bysus…

As coastal car parks in Pembrokeshire are extremely busy this year, the coastal buses offer a great way to avoid the...

Posted by Pembrokeshire Coast on Sunday, August 8, 2021

Y Pâl Gwibio, Gwibiwr Poppit a'r Gwibiwr Celtaidd. Dyma enwau atgofus rhai o’r gwasanaethau sy’n caniatáu i gerddwyr gerdded 186 milltir (300km) llawn y Llwybr Cenedlaethol o ddim ond llond llaw o fannau, yn hytrach nag aros mewn llety gwahanol bob nos. Byddwn yn argymell teithio ar fws ar ddechrau pob diwrnod ar y llwybr ac yna cerdded yn ôl i’ch llety – yn enwedig os nad ydych, fel fi, yn hoffi teimlo dan bwysau i ruthro eich taith gerdded.

Mae safleoedd bysiau mewn trefi a phentrefi, ond unwaith y byddwch yng nghefn gwlad, gallwch fflagio bws unrhyw le ar ei daith. Mae'r gyrwyr cyfeillgar yn wybodus am yr ardal leol a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i fannau gollwng a chasglu addas. Mae gwasanaeth bws y Cardi Bach (552) yn rhedeg rhwng Aberteifi a Chei Newydd, gan alw yn Llangrannog, Aberporth, Cwmtydu a Mwnt ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, a rhwng Aberteifi a Llangrannog ar ddydd Iau.

Mae Sir Benfro hefyd yn rhan o’r cynllun Fflesci sy’n caniatáu i deithwyr bws archebu eu taith trwy ap neu dros y ffôn, ac yna cael eu codi a’u gollwng mewn man cyfleus. Mae Cledrau Cymru yn cynnig llawer o wybodaeth am atyniadau a llwybrau ar y llwybrau bysiau a threnau.

Yn yr un modd â rhannau eraill o’r llwybr, gwiriwch yr amserlenni ar wefan Traveline Cymru wrth gynllunio’ch taith, yn enwedig os ydych chi’n ystyried ymweld y tu allan i’r tymor prysur. Mae gwefan Cyngor Sir Benfro hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y gwasanaethau a sut i'w defnyddio.

Straeon cysylltiedig