Fel teulu, rydyn ni wastad wedi mwynhau beicio gyda’n gilydd. Wrth i'r plant symud ymlaen o drelars i dandems ac yna eu beiciau eu hunain, fe wylion ni'r byd yn rhydd o gyfrwy a dwy olwyn. Ond mae rhai o'n teithiau gorau wedi bod yn agos at adref. A phan glywsom fod llwybr o amgylch holl arfordir Cymru roedd rhaid i ni ei ddarganfod. 

Dyma rai o’n hoff lwybrau o’n taith haf ar ac o gwmpas Llwybr Arfordir Cymru.

Casnewydd i Gaerdydd

Pontydd, morgloddiau a baeau

Peirianneg a phensaernïaeth ger y dŵr yw sêr y sioe ar y darn trefol hwn, gan ddechrau yng Nghasnewydd. Yng ngolau’r bore, roedd Pont Gludo Casnewydd (un o’r ychydig iawn ar ôl yn y byd) yn edrych fel ei bod yn arnofio uwchben afon Wysg. Daeth bwrlwm trwy faestrefi’r brifddinas â ni i mewn i Fae Caerdydd ar ei newydd wedd, gan gynnig digon o fwytai i’n hail-lenwi â thanwydd. Aeth llwybr fflat, chwe milltir o amgylch Morglawdd Bae Caerdydd â ni i Farina Penarth, cyn i ni wylio hi'n nosi gyda’r hwyaid ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.

Pellter: Tua 20 milltir

Gondola ar bont dros afon.
Golygfa o Fae Caerdydd o’r dŵr sy’n dangos adeiladau ac olwyn fawr

Pont Gludo Casnewydd a golygfa ar draws Bae Caerdydd

Ynys y Barri i Monknash

Gavin, Stacey ac dipyn o deisennau

Fel un o ddilynwyr cyfres y BBC Gavin and Stacey rydw i wrth fy modd â Ynys y Barri, ond y gwyrddni tonnog oedd uchafbwynt y llwybr hwn. Ym Mharc Gwledig Porthceri fe ymwelon ni â’r patisserie yn Mrs Marco’s cyn croesi o dan draphont eiconig y rheilffordd. Arweiniodd y llwybr o amgylch perimedr y maes awyr at Lanilltud Fawr, (a chacennau eraill o safon), cyn mwynhau’r lonydd tawel i Sain Dunwyd. Roeddem wrth ein bodd yn darganfod clogwyni calchfaen a thonnau Traeth Monknash, rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Yna cawsom brydau sylweddol yn y Plough and Harrow gerllaw.

Pellter: Tua 16 milltir

Person yn beicio trwy barc ac o dan y draphont

Beicio drwy Barc Porthceri

Abertawe i Dalacharn

Beirdd a llwybrau di-draffig

Taith hirach ond gwastad yn bennaf. Roedd y glannau ar ei newydd wedd yn borth i Abertawe, tref enedigol ‘hyll, hyfryd’ Dylan Thomas. Aeth Llwybr Beic Abertawe â ni wedyn i’r Mwmbwls, lle arall i’r bardd a man cychwyn Penrhyn Gŵyr. Gallwch reidio dolen AoHNE Gŵyr, ond fe wnaethom ni wthio ymlaen. Uchafbwynt llwyr ein taith oedd y llwybr beicio cyflym a llydan drwy Barc Arfordirol y Mileniwm, gan alw yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli a thref harbwr Porth Tywyn. Ar ôl ymweliad â Chastell Cydweli ymweliad a swper yng Nghaerfyrddin, gorffennom yn Nhalacharn Dylan Thomas, yn y boathouse lle ysgrifennodd.

Pellter: Tua 50 milltir

Beic wedi'i osod y tu allan i gastell
Tŷ gwyn a gardd yn edrych dros y môr

Castell Cydweli a Chychod Dylan Thomas

Dinbych-y-pysgod i Hwlffordd

Enfys a chribau

Mae'n anodd dod o hyd i ddechrau mwy bywiog i ddiwrnod allan na Dinbych-y-pysgod. Beiciwch trwy hen furiau'r dref sy'n dal labyrinth o siopau a bwytai. Ar ôl brecwast yng Nghlwb Rygbi Dinbych-y-pysgod, fe wnaethom ni feicio trwy barc gwyliau enfawr i gefnen lydan Llwybr Beicio Cenedlaethol 4. Yna, heibio Castell Penfro hardd wrth i ni deithio ar draws yr afon tuag at Ddoc Penfro. Gallwch aros tua’r arfordir am Aberdaugleddau, ond aethom i’r gogledd i Hwlffordd i aros dros nos a gweld un castell olaf.

Pellter: Tua 23 milltir

Beiciau a phobl yn sefyll ar hyd rheiliau yn edrych dros y traeth a'r môr.
Pobl a beiciau y tu allan i Gastell Penfro

Dinbych-y-pysgod a Chastell Penfro

Hwlffordd i Dyddewi

Bryniau tonnog a gemau pensaernïol

Ychydig filltiroedd allan o Hwlffordd mae’r arfordir yn codi ac yn disgyn drwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd golygfeydd o’r bae yn tynnu ein sylw oddi ar y llethrau wrth i ni hedfan drwy bentrefi Aberllydan a Nolton Haven. Mae traeth dwy filltir Niwgwl yn lle gwych i rhoi cynnig ar syrffio, ond roedd ffeindio fan bwyd stryd yn gwerthu slush yn ddigon i ni. Roedd y ddringfa serth allan o’r bae ar ffordd brysur braidd yn straen, ond y tu hwnt i hynny fe ddaethon ni o hyd i lonydd tawelach. Roedd dinas Tyddewi yn uchafbwynt arall o’n taith wrth i ni barcio a chrwydro’r dyffryn sy’n gartref i eglwys gadeiriol hynafol Tyddewi a Phlas yr Esgob.

Pellter: Tua 20 milltir

 Dau berson yn seiclo heibio castell
Safai beiciwr y tu allan i eglwys gadeiriol

Castell Hwlffordd ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Abergwaun i Langrannog

Siop goffi a syrffio

Roedd brecwast yn y Siop Goffi yn Ocean Lab yng Ngwdig yn ddechrau da i'n diwrnod yn beicio o Abergwaun wrth i ni barhau ar hyd Arfordir Penfro. Arweiniodd goledd ysgafn i ddyffryn coetir Cwm Gwaun at rai o'r llwybrau beicio gorau ar hyd y llwybr cyfan. Roedd gardd gwrw Dyffryn Arms yn darparu byrbrydau cyn i lonydd gwledig fynd â ni drwy Nanhyfer a Llandudoch i mewn i Aberteifi. Golygfeydd gwych a llu o luniau Instagram! Chwiliwch am y cerflun maint llawn o ddolffiniaid yn Aberporth a Sant Carannog sy'n goruchwylio'r padlwyr ym mae Llangrannog, lle mae caffi The Beach Hut yn lle gwych i ymlacio.

Pellter: Tua 30 milltir

Aberystwyth i Fachynlleth

Gweld dolffiniaid ac ymlacio yn yr oriel

Mae dolffiniaid yn mynd i’r bae yn aml yn Aberystwyth, ond rydych chi’n fwy tebygol o weld myfyrwyr wrth feicio ar lan y môr yn y dref brifysgol hon. Wrth aros dros nos, fe wnaethon ni fwynhau pysgod a sglodion ar y prom a'r pier ar fachlud haul. Aeth ein llwybr â ni drwy ran o gampws y brifysgol cyn amrywiaeth o fryniau. Yn Borth, fe feicio ni ar hyd y promenâd hir yna dringon ni’n sydyn o’r bae cyn troelli ar hyd lonydd coediog a llwybrau di-draffig i mewn i Fachynlleth.

Pellter: Tua 18 milltir

Golygfa ar draws y dŵr i dref Aberystwyth

View of Aberystwyth

Machynlleth i Abermaw

Trenau a thollau

Dechrau da i'r diwrnod oedd dringfa hamddenol trwy Cwm Maethlon, ac yna reid ar draeth Tywyn. Yna dilynodd ein prif lwybr ffordd yr arfordir i Fairbourne. Yno fe wnaethon ni feicio ar lwybr hyfryd o wastad, di-draffig o amgylch yr aber - rhan o lwybr Mawddach i'r Bermo sy'n dilyn hen reilffordd. Buom yn chwifio at deithwyr yn mwynhau taith stêm bychan ar Reilffordd Fairbourne cyn croesi pont hanesyddol Bermo. Mae ffi fechan i'w thalu ond cadwch newid bach yn ôl am donuts a choffi ar dwyni Traeth Bermo.

Pellter: Tua 26 milltir

Beicio drwy gefn gwlad heibio trên bach glas

Mynd heibio'r trên bach o Reilffordd Fairbourne

Harlech i Gaernarfon

Llethrau serth a gorsafoedd trên

Mae golygfan o flaen Harlech yn cynnig golygfeydd gwych o Gastell Harlech ar ochr y clogwyn. Ar un adeg roedd Harlech yn gartref i Stryd Serthaf y Byd nes i dref yn Seland Newydd gipio’r teitl – fe wnaethon ni ei weld ond doedden ni ddim yn ddigon dewr i fynd lawr. Gallwch ddargyfeirio i Bortmeirion ychydig cyn tref harbwr Porthmadog, lle mae stêm o Reilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn llenwi'r awyr wrth i chi rasio ar y trenau treftadaeth cul i’r dref. Aeth darn godidog o feicio di-draffig â ni i Gaernarfon – arhosfan arall i Reilffordd Ucheldir Cymru – lle cawsom ginio dan dyrau mawreddog Castell Caernarfon.

Pellter: Tua 30 milltir

Person yn sefyll gyda beic yn edrych allan dros gefn gwlad gyda chastell yn y pellter

Golwg gyntaf ar Gastell Harlech

Conwy i Brestatyn

Traethau ger y ffin

Yn wastad ac yn hwyl, gyda digon o seibiannau, roedd y darn hwn yn hynod bleserus. O Gonwy beiciwch ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 trwy Ddeganwy. Wrth i chi agosau at Landudno mae'r llwybr yn cael ei guddio gan dwyni tywod, felly mae'r daith yn mynd yn araf. Am yr ugain milltir nesaf, trwy Landrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, y Rhyl a Phrestatyn, mae traethau enfawr yn arwain at feysydd carafanau a chyrchfannau gwyliau, i gyd oddi ar bromenâd eang. Os ydych chi eisiau mynd am y ffin, (20+ milltir arall), bydd llwybr trwy Lanasa yn arwain at eich safle tynnu lluniau olaf.

Pellter: Tua 20 milltir

Person ar feic yn edrych allan dros y môr i gychod a Chastell Conwy mewn pellter

Yn agosáu at Gonwy

Straeon cysylltiedig

Dau feiciwr yn beicio i ffwrdd o'r camera i lawr y trac

Gwibio ar i waered

Caiff beicwyr mynydd profiadol fodd i fyw ym mynyddoedd Cymru. Buan y gwêl Iestyn George fod croeso i feicwyr beth bynnag eu hoedran a'u gallu.

Pynciau: