Yn swatio rhwng mynyddoedd y Moelwynion, mae Blaenau Ffestiniog yn lle garw ond syfrdanol iawn. Wedi’u creu dros gyfnod o ganrifoedd gan gymuned lechi gadarn Cymru, mae ei chwareli, ei gafnau a’i ogofâu yn ychwanegu dimensiwn arall at y dirwedd syfrdanol hon — hynafol ac wedi’i hailddychmygu.
Dechreuwch eich antur gyda beicio mynydd o’r radd flaenaf yn Antur Stiniog. Adnewyddwch eich hun gyda noson glyd mewn pabell saffari foethus cyn taclo weiren sip uchel, trampolinau tanddaearol ac ogofâu troellog Zip World Lechwedd.
Diwrnod 1: Taclwch lwybrau prifddinas beicio mynydd gogledd Cymru
Mae Antur Stiniog yn cael ei hystyried yn feca ar gyfer beicio mynydd, ac mae’n denu beicwyr uchelgeisiol o bob rhan o’r DU sy’n awyddus i gerfio llinellau newydd drwy’r hen dref lechi hon. Mae’r Antur yn croesawu pob oedran a gallu, ac mae ganddi gyfanswm o 14 llwybr.
Unwaith y byddwch wedi ymgyfarwyddo a rasio drwy byllau dŵr rhewllyd, cofiwch gymryd eiliad neu ddwy i edmygu’r olygfa wych sy’n gwneud y rhan hon o Gymru mor unigryw.
Edrychwch ar y llwybrau beicio mynydd gorau ledled Cymru.
Ar ôl cael eich dos o adrenalin am y diwrnod, mae’n bryd cael seibiant. Mae ‘fan goffi fach’ Ffika wedi gwneud argraff fawr ers iddi ddechrau teithio o amgylch gogledd Cymru. Daw Ffika o’r gair Swedeg fika — yr adeg draddodiadol o’r dydd pan fydd pobl yn Sweden yn cymryd seibiant am ddiod poeth, rhywbeth melys a chyfle i gymdeithasu.
Hyfforddodd y perchennog Megan fel barista a gwneuthurwr coctêls ym Melbourne, Awstralia, sy’n golygu y gallwch ddisgwyl coffi ffres o’r radd flaenaf ochr yn ochr â the dail rhydd o ansawdd uchel. Mae bwydlen organig drawiadol a hyd yn oed diodydd alcoholig blasus. Mae Ffika fel arfer wedi parcio gyferbyn â Rheilffordd yr Wyddfa ar benwythnosau.
Diwrnod 2: Cyffro llawn adrenalin uwchben y ddaear ac oddi tani.
Diwrnod dau ac yn ôl yn awchu am antur. Ni fyddai’r hen chwarelwyr byth wedi dychmygu’r trawsnewidiad rhyfeddol sydd wedi digwydd i brifddinas lechi gogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Ewch ar hen lori’r fyddin a nadreddu eich ffordd i fyny ochr y mynydd i uchelderau o 1,400tr a man neidio Titan 2, y llinell sip gyntaf yn Ewrop i bedwar person.
Rhannwch y wefr o hwylio drwy aer y mynydd ar gyflymder o 70mya, gan hedfan uwchben ogofâu Llechwedd gyda mynyddoedd y Rhinogydd a Llyn Trawsfynydd yn y pellter.
Unwaith y byddwch wedi gorffen edmygu’r dirwedd o fyny fry, mae’n bryd mynd i mewn i’r ogofâu eu hunain. Yn Bounce Below, byddwch yn dod o hyd i rwydwaith o rwydi ar ffurf trampolîn wedi’i osod mewn ardal mor fawr â Chadeirlan Sant Pawl, heb sôn am fod y trampolîn tanddaearol mwyaf yn y byd.
Darllenwch am weithgareddau antur i'r teulu.
Ar ôl gwthio eich hun i’r eithaf, ni fyddai neb yn eich beio am deimlo eich bod yn haeddu trît.
Yng Nglampio Llechwedd, byddwch yn dod o hyd i chwe phabell saffari. Mae gan bob un ohonyn nhw ei stôf llosgi coed ei hun ac maen nhw wedi’u hinswleiddio’n llawn yn erbyn yr elfennau, sy’n golygu y gallwch i gyd fwynhau noson haeddiannol o gwsg heb boeni am gadw’n gynnes. Mae gan bob pabell ei chawod bŵer ei hun hefyd. O, a wifi, fel y gallwch chi rannu gyda phawb yn ôl adref yn union beth maen nhw wedi bod yn colli allan arno!
Byddwch yn ddiogel
Ewch i wefan AdventureSmart.UK am yr holl wybodaeth rydych ei hangen i’ch helpu i wneud eich antur yng Nghymru yn un ddiogel a hwyliog!