Saif tref Blaenau Ffestiniog yng nghesail y Moelwynion, yn nadreddu ei ffordd ar hyd gwaelodion y creigiau. Mae yna ryw wefr mewn cyrraedd Stiniog dros Fwlch y Gorddinan, a gweld creithiau chwarel yn ymestyn o’ch blaen, ôl ei diwydiant a’i hanes a’i phobol yn drwm ar y tir. Yn reddfol, mae golygon rhywun yn troi tua’r uchelfannau – y mynyddoedd yn gwahodd cerddwyr, yr haul yn bownsio’n ddisglair oddi ar domenni llechi, ac ambell anturiaethwr yn gwibio uwchlaw’r dre. Ond cyn esgyn tua’r ucheldiroedd, mae hi’n werth cadw’ch traed ar y llawr a chrwydro’r dref, sy’n frith o gaffis, siopau a thafarndai annibynnol, croesawgar. Yn fan hyn, cewch brofi’r lliw dw i’n ei weld yn y llwydni, a’r cynhesrwydd sy’n llechu dan y llechi.
Breichled o dref...
Tyfodd y Blaenau yn sgil y chwareli llechi yn y 19eg ganrif, ac mae hi’n anodd methu’u dylanwad ar y dref. Mae pileri o lechi’n croesawu ymwelwyr ynghanol y dref, a thros y ffordd i’r orsaf drên mae murluniau lliwgar gan yr artist lleol, Lleucu Gwenllian, yn gyfeiriad at chwedloniaeth y fro a’i chysylltiad â’r Mabinogi.
Os ydi hi’n niwlog a’r Moelwyn yn gwisgo’i gap, gallwch ddilyn taith drefol gan ddysgu am lenyddiaeth a diwylliant y dref. O un pen i’r dref i’r llall, mae detholiad o ddywediadau lleol, termau chwarelyddol, cyfeiriadau hanesyddol, a dyfyniadau wedi cael eu naddu ar y pafin. Ceir esboniadau a chyfieithiadau o’r dywediadau mewn llyfryn, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein neu mewn siopau yn y dref. Tu allan i’r siop jips, Trish & Chips, ceir un o linellau enwocaf y bardd Gwyn Thomas sy’n cyfeirio at y Blaenau fel ‘Breichled o dref ar asgwrn o graig’, ac os ydi’ch traed yn cosi ac yn ysu am antur yna mae gan yr asgwrn o graig hon ddigon i’w gynnig.
Anturiaethau anhygoel
Mae Antur Stiniog yn gartref i 14 gwahanol lwybr beicio mynydd, rhai’n addas i ddechreuwyr ac eraill yn ddigon o her i feicwyr gorau’r byd. Os yw’r holl feicio wedi codi chwant bwyd, mae caffi ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o brydau o gawl cartref a brechdanau i Fyrger Arbennig Stiniog.
Mae canolfan Antur Stiniog wedi’i lleoli ar safle Chwarel Llechwedd, ac os nad yw beicio mynydd at eich dant, mae’r safle’n gartref i Zip World. Yno, gallwch hedfan dros geudyllau Llechwedd ar uchder o 1,400 troedfedd, a dotio at olygfeydd o’r Rhinogydd yn y pellter, Llyn Trawsfynydd yn llonydd ar y gorwel, a thai teras Stiniog yn rhesi taclus oddi tanoch. Os ydi hi’n well gennych chi fod o dan y ddaear nag uwch ei phen, cewch neidio, bownsio, a sleidio’ch ffordd o amgylch maes chwarae a thrampolinau tanddaearol Bounce Below.
Roedd chwareli llechi Stiniog yn rhai tanddaearol, ac mae teithiau tywys yn hebrwng ymwelwyr i berfeddion Llechwedd ar reilffordd cebl mwyaf serth gwledydd Prydain. Bydd y cloc yn troi’n ôl tua 160 mlynedd, ac yn eich cludo’n ôl i oes aur y diwydiant llechi er mwyn dysgu am rai o’r dynion fu’n naddu eu bywoliaeth o’r graig.
Danteithion a dilladau
Mae gan y Blaenau ddigon o siopau difyr i bori drwyddyn nhw, gan gynnwys Siop Seren, sy’n gwerthu dillad a bagiau deniadol, a Siop y Gloddfa sy’n llawn anrhegion Cymreig a lleol. Mae Siop Antur Stiniog ynghanol y dref yn gwerthu amrywiaeth o ddillad cerdded, neu gallwch eistedd o dan oleuadau bach disglair y caffi yn bwyta cacennau melys neu’n sipian ar baneidiau poeth. Mae hi’n bosib ymgolli ymysg hen gyfrolau am hanes lleol yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, sy’n gwerthu llyfrau newydd ac ail law, neu beth am brynu map a throi tua’r mynyddoedd?
Creithiau cymuned
Boed haul neu law, un o drofeydd mwyaf trawiadol y dref yw taith fer i fyny i Gwmorthin, gan ddechrau yn Nolrhedyn uwchlaw pentref Tanygrisiau. Yno, gellir gweld adfeilion hen dai Chwarel Cwmorthin, Plas Cwmorthin, a Chapel Rhosydd, a dilyn glannau Llyn Cwmorthin tua phen draw y dyffryn. Wrth gyrraedd pen pella’r llyn, mae’r llwybr yn codi fyny inclên serth, sydd reit anwastad ac ansad dan draed, tua Chwarel Rhosydd. Gellir gweld mwy o greithiau’r gymuned fu yma gynt yno, gan gynnwys adfeilion melin. O’r fan honno, mae’n bosib dilyn llwybrau tua chopaon y Moelwynion. Mae’r Llwybr Llechi yn pasio drwy Stiniog hefyd, gan godi a disgyn drwy gymoedd a thros foelydd.
Cwrw Cymreig a gyros Groegaidd
Ar ôl yr holl grwydro, mae Caffi Kiki ger Llyn Tanygrisiau yn cynnig gwledd o fwyd Groegaidd gyda’r nos, Canolfan a Chaffi Prysor ger Llyn Trawsfynydd yn gwneud prydau cartref heb eu hail dros ginio, neu mae bwyty Indiaidd y Red Chillies yn y Blaenau yn siŵr o dynnu dŵr i’ch dannedd. Os am bryd ysgafnach i ginio, mae’r Gorlan yn y dref yn cynnig brechdanau a bwydydd cartref, ffres.
Mae hi’n debyg mai rhwng waliau tafarndai’r fro y dewch chi o hyd i rai o gymeriadau mwyaf lliwgar Stiniog. Beth am dreulio ychydig oriau’n yfed cwrw Cymreig yn nhafarn gymunedol y Pengwern yn Llan Ffestiniog, neu yn y King’s Head, neu’r Tap i bobol leol, yng Nglanpwll? Bob hyn a hyn, mae bandiau ac artistiaid yn canu yn nhafarn y Bryn yng Ngellilydan, neu ar nosweithiau diflas gallwch gysgodi rhag y glaw o flaen ffilm dda yn CellB, hen orsaf heddlu’r dref sydd hefyd yn hostel.
O ran llefydd aros, mae hostel Treks Bunkhouse yn Llan Ffestiniog mewn safle bendigedig gyda golygfeydd godidog tua Phenrhyn Llŷn. Mae yna ambell faes campio unigryw yn yr ardal hefyd, neu gallwch glampio mewn steil yn Llechwedd.
Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud yn Stiniog, gallwch fod yn sicr y bydd y croeso’n gynnes a’r anturiaethau’n aros yn y cof. Ond cofiwch gôt law... rhag ofn.
Byddwch yn ddiogel
Ewch i wefan AdventureSmart.UK am yr holl wybodaeth rydych ei hangen i’ch helpu i wneud eich antur yng Nghymru yn un ddiogel a hwyliog!