Dim ond 75 milltir sydd rhwng pen draw Ynys Môn a’r ffin â Lloegr, ond mae Ffordd y Gogledd yn mynd â chi ar daith drwy miloedd o flynyddoedd o hanes, ar hyd llwybr masnach a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y Rhufeiniaid gynt.
Fe allech chi’n hawdd wneud y daith mewn pedwar diwrnod os nad oes gennych chi lawer o amser. Does dim rhaid i chi yrru chwaith: mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a’i golygfeydd arbennig yn ogystal â Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn rhedeg ochr yn ochr â Ffordd y Gogledd.
Diwrnod un: Yr Wyddgrug i Ruddlan
Pellter: tua 25 milltir/40km
Mae Ffordd y Gogledd yn dechrau ar y ffin yn nhref yr Wyddgrug. Dechreuwch drwy aros noson ac fe allech chi fynd i wylio perfformiad yn Theatr Clwyd, cartref un o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu’ch tocynnau ymlaen llaw. Mae Plas Hafod yn ddewis da o rywle cyfagos i aros.
Os ydych chi yma a hithau’n ddiwrnod marchnad, beth am grwydro’r stondinau sy’n llawn o gynnyrch lleol cyn dechrau ar y daith fore trannoeth.
O’r fan hyn, plymiwch i ganol hanes hudolus gogledd Cymru. Mae’r Fflint 20 munud i’r gogledd, lleoliad y cyntaf y cestyll grymus sydd ar hyd y Ffordd. Dechreuwyd y gwaith o godi Castell y Fflint yn 1277 a dyma amddiffynfa gyntaf Edward I yn ei ymdrech i oresgyn Cymru.
Eisiau Crwydro Ymhellach? Hoffi cerdded? Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ymestyn o’r fan hon yng ngogledd Cymru i lawr hyd at fynyddoedd y Berwyn a safle UNESCO traphont ddŵr Pontcysyllte.
Nesaf, mwynhewch yr awyr agored a dysgwch am dreftadaeth ddiwydiannol gogledd Cymru ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Mae yma dros 70 acer o goetir, abaty hynafol, amgueddfa, llynnoedd a nentydd. Bydd plant wrth eu boddau â’r parc chwarae anturus. Mae Ffynnon Gwenffrewi dafliad carreg oddi yma hefyd.
Os oes gennych egni ar ôl, beth am fynd am dro hamddenol ddiwedd y prynhawn at raeadr byrlymus? Mae ym mhentref bychan Dyserth raeadr sy’n dipyn o sioe, yn 70 troedfedd sy’n tasgu i’r pwll oddi tanno. Mae sawl taith gerdded hawdd i’w gwneud o’r fan hon pe baech chi awydd ymestyn eich coesau.
Dros nos: Gerllaw, mae gwesty moethus Castell Bodelwyddan neu westy clyd y Kinmel Hotel and Spa ill dau yn opsiynau da.
Diwrnod dau: Rhuddlan i Landudno
Pellter: tua 20 milltir/32km
Dechreuwch eich diwrnod drwy ddysgu mwy am hanes Cymru. Mae Castell Rhuddlan yn gyfres o borthdai a thyrau yn uchel uwch afon Clwyd. Mae’n sicr gwerth crwydro’r dref. Fel arall, galwch heibio Llanelwy â’i chadeirlan hynafol sy’n gartref i ffenestri lliw hardd.
Mae Ffordd y Gogledd yn anelu am yr arfordir erbyn hyn. Mae glannau a thywod Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel yn gartref i adar, planhigion morol prin a hyd yn oed ambell forlo bob hyn a hyn. Mae’n lle heddychlon yng nghanol y byd naturiol.
Efallai y bydd gwylwyr rhaglen deledu I’m a Celebrity... am alw heibio Castell Gwrych. Gallwch ymweld â nifer o’r ardaloedd a ddefnyddiwyd wrth ffilmio. Mae gweddill y castell yn gyfres o adfeilion. Gallwch hyd yn oed aros yma mewn bwthyn wedi ei adnewyddu.
Amser cinio? Anelwch am draeth tywodlyd Porth Eirias, sydd hefyd yn ffefryn o ran bwyd. Yma mae’r cogydd Bryn Williams a’i dîm yn coginio prydau arbennig mewn gofod eang a golau ar lan y môr. Bwyd môr yw’r prif fath o fwyd ar y fwydlen ond mae digon o ddewis i lysieuwyr ac i rai sy’n hoff o gig ffres o fferm.
Ar ôl cinio, ewch i grwydro glan y môr Llandrillo-yn-Rhos. Mae yno draeth tywodlyd, prom newydd sbon a chaffis a siopau bwtîc ychydig yn wahanol. Efallai yr hoffech gamu i mewn i hen Gapel Sant Trillo. Mae’n debyg mai dyma’r capel lleiaf ym Mhrydain, gyda lle i chwech o bobl yn unig!
Ydi’r plant wedi dod gyda chi? Beth am anelu yn lle am y Sw Fynydd Gymreig sydd wedi ei leoli o fewn 37 acer o dir gwledig. Er y byddwch chi wrth eich bodd yn gweld llewpardiaid yr eira, teigrod Swmatra, aligatoriaid, eirth a morlewod, cadwraeth yw’r peth pwysicaf gan y sŵ ac rydych chi i gyd yn siŵr o ddysgu digon wrth ymweld.
Efallai y byddai’n well gan yr oedolion ymweld â Gwinllan Conwy. Ar daith dywys, gallwch chi weld y mathau anarferol o rawnwin sy’n tyfu yma ar y gwinwydd yn yr haf, a blasu’r ffrwyth unwaith mae wedi ei gynaeafu a’i droi’n win.
Os cymerwch chi droad byr i fyny’r A470, fe ddewch chi i dref glan môr hanesyddol Llandudno.
Dros nos: Mae llawer o lefydd i aros yn Llandudno, gan gynnwys B&B bwtîc the Escape, gwesty urddasol y St George a gwesty a sba yr Empire.
Diwrnod tri: Llandudno
Pellter: 0 milltir
Bydd angen diwrnod llawn arnoch chi yn Llandudno. Crwydrwch ar hyd lan y môr Fictoraidd, wedi ei addurno â gwestai o liwiau losin. Neu llenwch eich ysgyfaint â gwynt y môr drwy gerdded ar hyd y pier hanesyddol.
Mae Pen y Gogarth yn codi uwchben y prom, yn warchodfa natur â blodau prin a – choeliwch chi fyth? – geifr Kashmir gwyllt. Gallwch gyrraedd y top drwy fynnu reid ar y tram hanesyddol fel tasech chi yn San Francisco, neu gwneud fel tasech chi yn yr Alpau a dal car cebl.
Yn ôl yn y dref ei hun, mae Oriel MOSTYN yn gwneud dipyn o enw iddo’i hun fel oriel gelf gyfoes, arbrofol. Os hoffech chi rhywbeth i gynhesu’r llwnc, galwch yn Nistyllfa Penderyn i gael gweld sut maen nhw’n gwneud wisgi Cymreig sy’n ennill gwobrau, ac efallai y gallech chi gael blas bach tra rydych chi yno.
Ar gyfer adloniant gyda’r nos, mae Venue Cymru yn un o theatrau gorau gogledd Cymru, lle cewch fwynhau perfformiadau gan Opera Cenedlaethol Cymru a llawer mwy.
Diwrnod pedwar: Llandudno i Gonwy
Pellter: tua 5 milltir/7km
Dim ond taith fer iawn i Gonwy sydd ar y gweill heddiw. Dychmygwch strydoedd cul wedi eu cau oddi mewn i waliau gwreiddiol y dref, tai hanesyddol, ac yn teyrnasu dros y cyfan, Castell Conwy â’i gerrig tywyll.
Gallwch ddringo’r grisiau troellog a chrwydro’r bylchfuriau i weld golygfeydd anhygoel dros yr aber. Dysgwch ragor am hanes y dref yng Nghanolfan Diwylliant Conwy ac ewch i gael golwg ar waith celf gan artistiaid newydd yn y Royal Cambrian Academy. Wrth fynd am dro ar hyd y cei, fe ddewch chi ar draws y tŷ lleiaf ym Mhrydain ymysg pethau eraill!
Mae llawer o ddewis o lefydd i fynd am ginio. Ac os oes gennych chi ddant melys, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â siop y gwneuthurwyr siocled artisan, Baravelli’s, sy’n llawn dop o felysion wedi eu crefftio’n ofalus.
Beth am fynd am dro bach ar ôl cinio? Mae llwybrau’n igam ogamu dros fynydd Conwy uwch y dref a gallwch chi grwydro gweddillion caerau o’r Oes Haearn a chytiau crwn Neolithig tra’n gwerthfawrogi’r golygfeydd godidog o fynyddoedd y Carneddau.
Dros nos: Rhowch gynnig ar westy’r Castle yn y dref, neu ar gyrion y dref yn Neganwy fe gewch chi westy sba y Quay a thafarndai atmosfferig gyda stafelloedd fel Y Groes a’r Erskine Arms.
Diwrnod pump: Conwy i Fiwmares
Pellter: tua 25 milltir/32km
Dechreuwch y diwrnod heddiw yn nhref prifysgol Bangor. Crwydrwch o amgylch Gastell Penrhyn, y plasty gor-foethus o’r 19eg ganrif a godwyd gan berchennog cyfoethog y chwarel lechi. Yna ewch am dro ar hyd y pier. Mae Pier Garth yn un o’r rhai mwyaf atyniadol yng Nghymru ac yno siopau bwtîc a chaffis yn swatio yn y cytiau Fictoraidd.
Rydych chi dafliad carreg i ffwrdd o safle UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yma. Os am daith gerdded go iawn, dilynwch ran cyntaf Llwybr Llechi Eryri i Fethesda. Mae’n tua 6 milltir (10km). Mae’r golygfeydd yn anhygoel ac mae’n gyflwyniad gwych i dreftadaeth llechi’r ardal.
Eisiau Crwydro Ymhellach? Dylai unrhyw un sy’n hoff o adrenalin anelu am Zip World ym Methesda lle gallwch chi hedfan drwy’r awyr ar wifren wib yn uchel uwch ben yr hen chwarel lechi! Neu os hoffech chi weld mwy o gestyll heddiw, mae Caernarfon i lawr y lôn â’i gastell yn un o’r rhai mwyaf trawiadol yng Nghymru.
Nesaf, anelwch dros y Fenai am ynys fwyaf Cymru – Ynys Môn.
Amser cinio? Mae Dylan’s ym Mhorthaethwy yn gweini bwydlen dymhorol leol ac mae'r bwyd môr yn ardderchog. Hefyd ym Mhorthaethwy mae'r bwyty seren Michelin Sosban and the Old Butchers. Mae angen i chi archebu lle fisoedd ymlaen llaw er mwyn cael gwledda yma, a dim ond rhai noswethiau mae'r bwyty ar agor. Does dim bwydlen fel y cyfryw; mae'r cogydd Stephen Stevens yn paratoi cyfres syfrdanol o seigiau gan ddefnyddio'r cynnyrch lleol mwyaf ffres sydd ar gael ar y diwrnod.
Ychydig yn uwch ar hyd yr arfordir, mae Biwmares yn dref glan môr hardd ag yno gastell trawiadol arall. O bob castell o’r 13eg ganrif a gododd Edward I yng Nghymru, Castell Biwmares yw’r un mwyaf uchelgeisiol.
Dros nos: Mae’r Bull ym Miwmares yn fwyty ac yn westy braf.
Diwrnod chwech: Biwmares i Gaergybi
Pellter: tua 30 milltir/48km
Fe allech chi ddechrau’r diwrnod heddiw drwy fynd am dro o amgylch Porthaethwy, gan edmygu’r pontydd a’r golygfeydd o’r Fenai. Cadwch lygad am y ‘ddau lew tew’ sy’n gwarchod Pont Britannia a chrwydrwch i weld a allwch chi ddod o hyd i’r cerflun o’r Arglwydd Nelson a fyddai’n defnyddio dyfroedd peryglus y Fenai i hyfforddi ei longwyr. Gallwch weld yr afon o ongl wahanol â’r gwynt yn eich gwallt drwy fynd am reid ar y dŵr mewn cwch cyflym RIB.
Cafodd enw hiraf Prydain - Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch - ei ddyfeisio yn y 1860au fel ffordd o ddenu twristiaid. Mae’n dric sy’n dal i weithio o edrych ar y nifer o ymwelwyr sy’n dod i dynnu lluniau wrth arwydd yr orsaf drenau. O’i dorri i lawr, mae’r enw yn cyfeirio at Eglwys y Santes Fair ym mhant y coed cyll gwynion ger y trobwll ffyrnig ac Eglwys Sant Tysilio a’r ogof goch.
I lawr y lôn fe ddewch chi ar draws Plas Newydd oedd unwaith yn gartref i Farcwis Ynys Môn. Mae bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn llawn o drysorau antîc ac wedi ei amgylchynu gan erddi godidog.
Yn Halen Môn gallwch chi ddysgu sut mae peth o halen môr gorau’r byd yn cael ei ddistyllu o’r dyfroedd pur sydd yn yr ardal. Wedi ei leoli mewn adeilad newydd modern, mae’r ganolfan ymwelwyr yn ddifyr dros ben ac mae yno gaffi gwych sy’n cynnig cinio.
Eisiau Crwydro Ymhellach? Teimlo’n gariadus? Ynys Llanddwyn yw’r lle mwyaf rhamantus yng Nghymru, ar arfordir de-orllewin Môn. Dyma ynys hudolus ac yno eglwys fechan ar gilgant o dywod sy’n coffáu santes cariadon Cymru, Dwynwen.
Trowch am yn ôl y ffordd ddaethoch chi at y brif ffordd ac os ydych chi’n llwglyd gallech chi alw heibio fferm deuluol Hooton's Homegrown rhwng Llanfairpwll a Brynsiencyn. Mae’r siop fferm yn anhygoel yno ac maen nhw’n gweini prydau wedi eu coginio’n ffres gan ddefnyddio eu cynnyrch eu hunain.
Wrth barhau ar hyd Ffordd y Gogledd ar draws yr ynys, yn Llangefni gallwch chi edmygu gwaith celf unigryw, yn hen a newydd, yn Oriel Môn. Mae’r amgueddfa a’r oriel atyniadol yma’n cynnig darlun llawn o hanes, treftadaeth, bywyd gwyllt, daeareg a chelf yr ynys.
Caergybi yw pen Ffordd y Gogledd. Does yna’n llythrennol ddim mwy o lôn ac mae llongau o’r porthladd yma yn mynd yn ôl ac ymlaen i Ddulyn.
Mae arfordir cyfan Ynys Môn wedi cael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac yn hynny o beth does dim curo ar glogwyni Ynys Lawd rownd yr arfordir o Gaergybi. Yma gallwch chi wylio heidiau o wylogod, palod a gweilch y penwaig o Ganolfan Adar Môr yr RSPB, Tŵr Elin.
Dros nos: Mae Bae Trearddur yn lle hardd i orffen eich taith â chilfachau clyd i’w darganfod, ac mae’r Trearddur Bay Hotel yn lle braf i orffwys.