Yng Ngorffennaf 2021 daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn bedwerydd safle treftadaeth y byd UNESCO Cymru, ynghyd â Chestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.
Mae stori Llechi Cymru yn un oesol. Mae lle arbennig yn nhudalennau stori hanes Cymru i’r dirwedd ôl-ddiwydiannol a’u chymunedau sydd wedi gadael ei hôl ar yr ardal, y wlad, a’r byd.
Daeth y llechi a’u chwyldro eu hunain i ardaloedd distaw, mynyddig gogledd Cymru. Roedd cloddfeydd y chwareli, a’r tomennydd rwbel o’u hamgylch, yn ffurfio tirwedd weledol newydd. Crëwyd cymunedau diwylliannol bywiog ac mae’r dirwedd ddiwylliannol yn y chwe ardal yma mor bwysig heddiw ag y bu erioed.
Dyffryn Ogwen
Ar un adeg, Chwarel Penrhyn oedd y chwarel fwyaf yn y byd, ac mae hi’n parhau i weithio hyd heddiw. Mae safle’r chwarel wreiddiol yn anferthol, ac un o’r ffyrdd gorau i werthfawrogi’r raddfa yw gwibio drosti ar wifren wib cyflymaf y byd. Mae taith chwarel Zip World hefyd yn gyflwyniad gwych i hanes y chwarel yn ogystal â chyfle i fwynhau golygfeydd dros y dyffryn a’r Fenai.
Codwyd Castell Penrhyn yn ddatganiad o statws cymdeithasol y teulu o ddiwydianwyr oedd yn berchnogion ar y chwarel, ac mae bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Er y bensaernïaeth ysblennydd ac ystafelloedd moethus, i lawer, mae’r adeilad yn cynrychioli hanes o orthrwm a chaledi, ac mae hanes tywyll o fasnach gaethweision trawsiwerydd ym mhlanhigfeydd siwgr Jamaica.
Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy dir Ystâd Penrhyn. Mae’r llwybr yn mynd â cherddwyr trwy goedlan hynafol ar hyd yr arfordir sydd ym mherchnogaeth breifat Ystâd y Penrhyn, gan gysylltu ardal Porth Penrhyn gyda’r llwybr presennol ger gwarchodfa natur Aberogwen.
Datblygodd tref Bethesda i fod yn gymuned i’r chwarelwyr a’u teuluoedd dros y cyfnod; ac mae’r awyrgylch glos gymunedol dal yr un mor gryf diolch i fentrau fel Partneriaeth Ogwen. Maent yn gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen ac yn rhedeg siop a llyfrgell gymunedol yn y dref a gymaint mwy. Mae hwb cymunedol a chelfyddydol Neuadd Ogwen hefyd yn trefnu rhaglen arbennig o ddigwyddiadau byw, gyda cherddoriaeth, theatr, comedi a sesiynau llenyddol yn digwydd yn rheolaidd.
Os am fentro tuag at Lyn Ogwen i fwynhau taith cerdded gyda golygfeydd o Dryfan a’r Glyderau, mae’n well parcio ym Methesda a dal y bws T10 i fyny i Gwm Idwal neu wasanaeth Bws Ogwen - sef bws trydan 9 sedd sy’n rhedeg o Fethesda i Lyn Ogwen. Dyma un arall o fentrau Partneriaeth Ogwen gyda’r nod o leihau allyriadau carbon y Parc Cenedlaethol a cheisio cael mwy o ymwelwyr i gefnogi busnesau lleol ym Methesda wrth ymweld â’r ardal.
I ddysgu mwy am stori llechi Dyffryn Ogwen dilynwch Taith y Lechen ar hyd llwybr Lôn Las Ogwen. Mae paneli dehongli a chodau QR wedi eu gosod ar hyd y llwybr, ac mae'r wybodaeth i'w gael ar ffurf pdf hefyd. Datblygiad diweddar yw’r ganolfan groeso newydd yn Nant Ffrancon gyda chyfleusterau dehongli rhyngweithiol, gwybodaeth a lluniaeth.
Chwarel Dinorwig
Mae ardal Chwarel Dinorwig yn arbennig o hardd. Mae’r Wyddfa gerllaw, llynnoedd Padarn a Pheris, a Chastell Dolbadarn yn gwylio’r dyffryn islaw ers y 13eg ganrif.
Calon yr ardal yw Amgueddfa Lechi Cymru. Ers hanner canrif mae’n adrodd a chofnodi stori diwydiant llechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl mewn hanes i weld y ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru. Peidiwch â cholli un o’r sgyrsiau â’r crefftwyr dawnus sy’n dangos eu sgiliau hollti llechi.
O chwaraeon dŵr i gerdded, o fywyd gwyllt i dreftadaeth ddiwydiannol mae popeth ym Mharc Gwledig Llyn Padarn. Mae canolfan antur Ropeworks yn cynnig profiadau hwyl i unigolion, teuluoedd a grwpiau mawr sy’n barod i fentro ar y cwrs rhaffau uchel ac mae Boulder Adventure yn cynnig anturiaethau dŵr fel caiacio a chanŵio.
Dros wyliau’r Pasg a’r haf mae hen Ysbyty’r Chwarel uwchben Llyn Padarn yn agor fel amgueddfa gan gynnig cyfle i weld offer meddygol, ystafell llawdriniaeth, peiriant pelydr X gwreiddiol ac amryw o declynnau arswydus o’r 19eg ganrif.
Yn yr 1840’au adeiladwyd rheilffordd ar hyd glan Llyn Padarn - hon fyddai’r cyntaf yn ardaloedd y chwareli i ddefnyddio injans stêm. Erbyn heddiw mae Rheilffordd Llyn Padarn yn dathlu hanner canrif o deithiau trên i ymwelwyr, ac yn trefnu nifer o ddigwyddiadau tymhorol i’r teulu gan gynnwys teithiau arswyd Calan Gaeaf. Trên arall i’w dal yn yr ardal wrth gwrs yw trên bach yr Wyddfa. Yn dilyn gwaith cynnal a chadw bydd Hafod Eryri yn agor eto yn 2023 felly cadwch lygaid am docynnau trên Rheilffordd yr Wyddfa o’r gwanwyn ymlaen.
Mae Llanberis yn hynod boblogaidd a phrysur yn ystod y gwyliau ond i’r rhai sy’n ddigon lwcus i gael bwrdd yn y Pantri cewch foliad da o fwyd lleol. Tafled carreg o Lanberis mae’r Caban ym Mrynrefail - menter gydweithredol gymdeithasol gyda galeri gelf a chaffi yn gwerthu’r gorau o gynnyrch lleol gan gynnwys llysiau, ffrwythau a mêl o’r ardd gymunedol. Lle arall gwych i brynu cynnyrch lleol yw siop Menter Fachwen ar stryd fawr Llanberis sy’n gwerthu dewis da o gacennau a jam cartref, Coffi Eryri, Jin Llechen Las, a chyflenwad gwych o gwrw lleol gan gynnwys Bragdy Lleu, bragdy yn nyffryn Nantlle sy’n enwi bob cwrw ar ôl cymeriadau’r Mabinogi.
Dyffryn Nantlle
Mae Dyffryn Nantlle yn ardal efo hanes archeolegol hir ac amrywiol. Oherwydd y dirwedd a’r ddaeareg mae’r chwareli wedi eu gwasgu i ardaloedd cyfyng. Ffordd wych o grwydro’r ardal yw dilyn Taith Gerdded Llechi Bro Nantlle. Mae pum taith i gyd, gan gynnwys taith o amgylch Rhostryfan a Rhosgadfan, cartref Kate Roberts a ysgrifennodd am ymdrechion y tyddynwyr chwarelyddol.
Mae gwinllan a pherllan Pant Du wedi ei lleoli ar lethrau Dyffryn Nantlle. Dyma’r winllan gyntaf yng Nghymru i redeg oddi ar egni solar. Os ydych chi'n ymweld rhwng Mehefin a Medi gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno ac un o deithiau tywys difyr a gwybodus y perchennog Richard Huws i glywed hanesion a heriau rhedeg gwinllan ar lethrau’r dyffryn - a threfnwch fwrdd yn y bwyty wedyn i fwynhau pryd o fwyd lleol wrth flasu’r gwin a seidr.
Mae’r Orsaf ym Mhenygroes yn fenter gymunedol arbennig sy’n anelu i ddatblygu sgiliau creadigol a digidol trigolion yr ardal, yn ogystal â chynnig lle i gwrdd am banad a phryd bwyd. Mae gigs, barddoniaeth a ffilmiau yn ystod y nos hefyd. Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor o’r enw Siop Griffiths Cyf i sicrhau bod yr adeilad hanesyddol yn aros yn nwylo'r gymuned.
Mae un o brif grefftwyr coffi Cymru yn Nyffryn Nantlle hefyd, Poblado, sy’n rhostio yn hen farics y chwarelwyr yn Nantlle. Mae gweledigaeth gymdeithasol Poblado cyn gryfed â’u coffi, ac mae’r prynhawniau coffi a cherddoriaeth byw, Bandiau’r Rhosty, yn hynod boblogaidd.
Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor
Datblygwyd chwareli Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor yn nhirwedd llechi Cwmystradllyn a Chwm Pennant yn y cyfnod rhwng 1850 a 1870, sef ‘Oes Aur’ y diwydiant llechi yng Ngwynedd. Buddsoddwyd llawer iawn o bres yn y ddwy chwarel, ond methu bu eu hanes oherwydd ansawdd gwael y graig. Ond diolch i falchder pobl leol, a gofal y Parc Cenedlaethol, mae olion gwreiddiol chwareli’r 19eg ganrif wedi parhau ac maent yn fannau pwysig. Mae’n le arbennig i fynd am dro ac am baned i Tyddyn Mawr Tea Room.
Mae Tŷ Mawr Ynysypandy yn un o adeiladau eiconig ardal Llechi Cymru - hen felin slabiau wedi’i selio ar batrwm ffowndri ond mae’n edrych yn debycach i abaty.
Ffestiniog a Porthmadog
Blaenau Ffestiniog - ‘prifddinas y llechi’ a’r ‘dref a roddodd do ar y byd’ - yw un o ganolfannau gweithgareddau awyr agored gorau Cymru erbyn heddiw.
Mae olion allanol y chwareli yn drawiadol iawn, ond mae cymaint mwy o weithfeydd Blaenau wedi eu cuddio dan ddaear. Mae incleiniau, rhwydweithiau o reilffyrdd a pheiriannau o bob math wedi goroesi ac mae modd cael cip arnynt ar deithiau tanddaearol Zip World, wrth neidio ar drampolîn tanddaearol Bounce Below neu’n chwarae golff dan ddaear.
Mae’r tomen llechi yn gartref i feicwyr mynydd Antur Stiniog lle ceir 14 o lwybrau beicio mynydd lawr allt gwych, wedi eu graddio o wyrdd i ddu, a hynny ar gyfer beicwyr o bob gallu. Ac i’r rai sy’n ffafrio gwibio uwchben y tomeni yn hytrach na i lawr gallwch hedfan ar uchder o 1,400 troedfedd dros geudyllau Llechwedd.
Am daith ychydig yn fwy hamddenol mae Teithiau Cerdded Bro Ffestiniog yn gyfres o naw taith gan gynnwys Cwmorthin a Llan Ffestiniog.
Mae Plas Tan y Bwlch heb fod rhy bell i ffwrdd, ond mewn byd gwahanol. Hwn oedd cartref perchnogion Chwarel yr Oakeley. Mae ym mherchnogaeth y Parc Cenedlaethol erbyn hyn ac mae modd aros yno neu logi ystafell ar gyfer cyfarfod neu ddigwyddiad.
O harbwr Porthmadog, roedd ‘Llongau Port’ yn cludo llechi Blaenau Ffestiniog ar draws y byd. Adeiladwyd y llongau ym Mhorthmadog, a chriwiau lleol oedd yn eu llywio. Mae Amgueddfa Forwrol y dref yn adrodd yr hanes ac mae’r harbwr yn boblogaidd erbyn heddiw fel angorfa i fadau hwylio a chychod hamdden.
Yn cysylltu Stiniog a Phort mae Rheilffordd Ffestiniog. Ar ôl teithio dros y Cob dros aber Afon Glaslyn mae’r daith 13 ½ milltir yn troelli trwy fynyddoedd a choedwigoedd, heibio llynnoedd a rhaeadrau.
Darllen mwy: Gwibdaith drwy Stiniog
Abergynolwyn a Tywyn
Mae’r ardal yma yn ne Gwynedd yn bell o Fethesda, Llanberis, Nantlle a Blaenau Ffestiniog, sy’n dangos pwysigrwydd y diwydiant llechi drwy’r sir. Ffermio, coedwigaeth, a chyfres o bentrefi a threfi glan môr braf sy’n nodwedd o’r ardal erbyn heddiw. Ond fe fu llechi’n bwysig iawn yma, ac mae’r diwydiant wedi gadael ei hôl yn enwedig gyda’i thraciau rheilffyrdd.
Rheilffordd Talyllyn oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i’w hachub a’i gweithredu’n llwyddiannus gan wirfoddolwyr fel atyniad ymwelwyr yn 1951. Mae’r ddwy injan wreiddiol, ‘Talyllyn’ a ‘Dolgoch’, yn parhau mewn defnydd gan deithio’n gyson trwy ddyffryn Fathew. Maent hefyd yn trefnu digwyddiadau tymhorol arbennig fel teithiau trên gyda Siôn Corn.
Darllen mwy: Trysorau Tywyn
Llwybr Llechi Eryri
Wedi’ch ysbrydoli i grwydro a darganfod ardal Llechi Cymru? Mae llwybr 83 milltir Llwybr Llechi Eryri yn le gwych i gychwyn. Gellir cerdded y daith lawn mewn wythnos, neu dorri’r adranau mewn i deithiau llai. Cofiwch gasglu stampiau mewn mannau penodol ar hyd y ffordd i’w rhoi mewn ‘pasport’ i’w gyfnewid am fedal Llwybr Llechi Cymru ar ôl gorffen y daith.
Diogelwch Ymwelwyr
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.
Cyn i chi gychwyn allan i grwydro gwnewch yn siŵr bod hawl gennych i ymweld â’r safle a bod gennych yr offer, gwybodaeth a sgiliau cwir. Ewch i Mentro'n Ddiogel i drefnu eich ymweliad yn ddiogel.
Am fwy o wybodaeth am hanes a threftadaeth ardal Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin ewch i wefan Llechi Cymru.
Am fwy o ysbrydoliaeth am lefydd i fynd am dro, bwyd a diod, neu i ffeindio llety yn ardal Llechi Cymru ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr.