Ar ôl pedwar diwrnod ar Ynys Môn roeddwn i wedi gwirioni. Ces i’r teimlad hyfryd hynny bob tro yr es i i rywle newydd neu y gwelais i rywbeth gwahanol: yr haul yn machlud dros Oleudy Ynys Lawd, hanes syfrdanol Castell Biwmares. Roedd y cyfan wedi fy llorio’n llwyr. Ond y peth gorau am Ynys Môn i mi – a'm Terrier Manceinion, Arty – yw pa mor gyfeillgar i gŵn yw’r ynys.
Mae'r ardal hon o ogledd Cymru, ynys sy'n cysylltu â'r tir mawr drwy ddwy bont dros ddyfroedd ffyrnig yr Afon Menai, yn hollol hyfryd. Mae ganddi arfordir 130 milltir (200km) o hyd gyda llwybr troed sy'n cynnig mynediad i bob rhan ohoni, gyda rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru, gan gynnwys golygfeydd draw tuag at fynyddoedd trawiadol Parc Cenedlaethol Eryri o'i hochr ddeheuol.
Roedd Arty wrth ei fodd wrth iddo rasio ar hyd traethau tywodlyd niferus Ynys Môn sydd yn caniatáu cŵn yn ystod yr haf. Pleser o’r mwyaf iddo oedd aroglu isdyfiant Coedwig Niwbwrch a dringo ar draws y twyni sy’n cefni ar Draeth Llydan ger Rhosneigr. Ond nid y rhyfeddodau naturiol yn unig oedd ar gael i ni – cawsom ddiwrnod i’r brenin o fewn muriau cadarn Castell Biwmares, ac roedd y daith ar gwch allan i Ynys Seiriol yn antur fawr.
Ychwanegwch ambell dŷ tafarn gwych a hyd yn oed bwyty ffansi a rhaid cyfaddef ein bod ni'n dau wedi'n swyno gan uchafbwyntiau'r ynys.
Darganfod: Castell Biwmares
Gallai Castell Biwmares fod y castell mwyaf trawiadol yng Nghymru. Dyma oedd y pièce de résistance ar gyfer Henry I, a oedd eisoes wedi adeiladu'r cadarnleoedd trawiadol yn Nghonwy a Chaernarfon. Ond yn 1320, aeth i drafferthion ariannol ac, ynghyd ag anghydfod yn yr Alban, cafwyd oedi ar yr adeiladu ym Miwmares, ac ni aethpwyd ati i ailgychwyn y gwaith.
Heddiw, mae'n adfail lled-orffenedig, gyda ffos wedi'i llenwi â dŵr, 12 tyred a waliau consentrig cwbl gymesur gyda 300 o ddolenni saeth trawiadol wedi'u cerfio allan ohonyn nhw. Caniateir cŵn a'u perchnogion ym mhob rhan o lawr gwaelod ac awyr agored y castell, yn ogystal â’r ystafell arfau, y cwrt mewnol a sinema fach lle mae ffilm yn olrhain hanes y castell.
Mae modd dringo'r grisiau i ben y waliau am olygfeydd ar draws Biwmares a'r Fenai (dyw’r grisiau llithrig, serth ddim yn addas i gŵn). Ar ôl i chi archwilio'r castell, peidiwch da chi â cholli’r cyfle i flasu’r hufen iâ bara brith yn y Red Boat Ice Cream Parlour.
Cerdded: Coedwig Niwbwrch
Ar ddiwrnod heulog, yn cerdded yn hamddenol drwy Goedwig Niwbwrch gyda'r ci, hawdd yw dychmygu eich bod mewn gwlad ym Môr y Canoldir. Mae'r warchodfa yn cynnwys coed pinwydd main Corsica sy'n creu cysgod tywyll hyfryd ar lawr y goedwig, gan gynnig seibiant i gŵn bach blinedig o'r haul. Y lle gorau i ddechrau oddi yma yw'r maes parcio ym Malltraeth (LL62 5BA) a chymryd y trac llydan sy'n gweu ei ffordd drwy'r goedwig ac yna’n agor allan ar draeth tywodlyd gyda thwyni tywod ac Ynys Llanddwyn.
Archebu ymlaen llaw: taith ar gwch i Ynys Seiriol
Mae Ynys Seiriol sy'n eistedd ychydig y tu hwnt i Drwyn Du yn llecyn bach hynod ddiddorol ar gyfer ei fywyd adar a'i forloi. Mae'r enw Saesneg, Puffin Island, ychydig yn gamarweiniol erbyn heddiw, gan fod y palod bach niferus a fu unwaith yn nythu yma yn yr haf wedi diflannu ar ôl i nythfa llygod mawr gael ei chyflwyno i'r ynys rai blynyddoedd yn ôl. Efallai y byddwch chi’n dal i weld palod, serch hynny, a bydd y tywyswyr ar y Seacoast Safaris yn gwneud eu gorau glas i ddod o hyd iddyn nhw er mwyn i chi eu gweld ar eu teithiau sy'n addas i gŵn. Hefyd, gellir gweld mulfrain, gwylanod coesddu a morloi os yn lwcus.
Bwyta: bwyd môr Ynys Môn
Ar ynys sydd wedi'i hamgylchynu gan gefnfor byddai'n wirion i beidio ag archebu bwyd môr o leiaf unwaith. Gellir blasu rhai o'r bwydydd môr gorau ar Ynys Môn yn The Oystercatcher, bwyty sydd y tu ôl i dwyni Traeth Llydan ger Rhosneigr. Caniateir cŵn y tu mewn ond mae'r teras awyr agored yn hyfryd pan fydd y tywydd yn braf; archebwch granc, cregyn bylchog neu hyd yn oed ‘surf and turf’, yna, ar ôl hynny ewch â nhw i redeg ar hyd y traeth.
Aros: mewn steil yn Rhosneigr
Ewch am dro ar hyd y ffyrdd arfordirol yn Rhosneigr a hawdd iawn meddwl eich bod wedi cyrraedd yr Hamptons yn UDA. Dyma lle mae trigolion ac ymwelwyr Ynys Môn yn treulio’u hamser, yn bennaf yn y cartrefi sy’n wynebu’r cefnfor enfawr ac yn debyg iawn i dai traeth enfawr America. Yma y byddwch chi hefyd yn dod o hyd i un o westai gorau'r ardal: Sandy Mount House.
Mae’r awyrgylch yn atgoffa rhywun o wlad ym Môr y Canoldir, gydag ystafelloedd golau a siriol mewn lliwiau niwtral a glas y cefnfor, ac mae gan rai o'r ystafelloedd ymolchi baddonau ‘roll-top’. Mae'r gwesty'n croesawu dau gi i bob ystafell am ffî o £15 y ci y noson, ac mae nhw hyd yn oed yn cael mynd gyda chi i’r ystafell frecwast yn y boreau.