Bangor
Poblogaeth: 18,000
Ystyr Saesneg: ‘Ffens bleth’ (wedi ei henwi ar ôl mynachlog o'r 6ed ganrif ar y safle a oedd â ffens bleth)



Bangor yw'r ddinas hynaf yng Nghymru ac un o ddinasoedd lleiaf y DU. Cafodd statws dinas ei roi’n swyddogol i Fangor gan y Frenhines Elizabeth II yn 1974, ond mae safle'r gadeirlan yn dyddio'n ôl i'r 6ed ganrif.
Mae’r ddinas wedi’i lleoli yng Ngwynedd yng Ngogledd-orllewin Cymru, ger dyfroedd hardd Afon Menai. Mae gan Fangor bier gyda swyn glan môr, plasty dramatig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o'r enw Castell Penrhyn a'r hyn a gredir yw Stryd Fawr hiraf Cymru.
Er bod y boblogaeth yn agos i 20,000, mae dros hanner ohoni'n cynnwys myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae'r brifysgol yn cael ei graddio’n uchel am foddhad myfyrwyr ac ansawdd addysgu, gyda chyn-fyfyrwyr yn cynnwys yr awdur, y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Danny Boyle a'r bardd R S Thomas. Cafodd y cantorion enwog Aled Jones a Duffy eu geni ym Mangor, yn ogystal â'r cerflunydd Richard Deacon a enillodd Gwobr Turner.
Caerdydd
Poblogaeth: 362,750
Enw Cymraeg: Caerdydd
Caerdydd, yn Ne Cymru, yw prifddinas Cymru. Mae'n ddinas gryno, fywiog ac amlddiwylliannol sy'n cynnal digwyddiadau chwaraeon ac adloniant mawr gan gadw teimlad cymunedol cyfeillgar.
Yn wahanol i rai prifddinasoedd lle trafnidiaeth gyhoeddus yw’r unig ffordd i deithio o’u cwmpas, mae'n hawdd cerdded o amgylch Caerdydd. Yng nghanol y ddinas mae Castell Caerdydd, a gafodd ei adeiladu yn y 19g gan y pensaer William Burges. Ar y tu allan, mae'n gaer ganoloesol gyda muriau Rhufeinig trwchus. Y tu mewn i’r castell, mae'r ystafelloedd wedi'u haddurno'n hardd, gyda nenfydau euraidd, gwydr lliw, cerfiadau pren a manylion cywrain.


Y tu ôl i'r castell mae Parc Bute sy’n cael ei alw’n "ysgyfaint gwyrdd" canol y ddinas, ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r amgueddfa'n gartref i'r casgliad gorau o gelf yr Argraffiadwyr y tu allan i Baris, yn ogystal ag arddangosfeydd am hanes Cymru a sioeau teithiol.
Mae canol y ddinas yn gyrchfan bwysig ar gyfer siopa, bwyta, adloniant, bywyd nos a chwaraeon, gyda lleoliadau fel Stadiwm Principality yn cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol a chyngherddau gan artistiaid ar frig y siartiau. Mae Canolfan Mileniwm Cymru - lleoliad i bob peth celfyddydol, cerddoriaeth, llwyfan a diwylliant ym Mae Caerdydd, cyn ardal y dociau a chwaraeodd ran hanfodol yn y Chwyldro Diwydiannol.

Mae dwy brifysgol yng Nghaerdydd, sef Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, y ddwy ohonynt yn uchel eu parch – un am ragoriaeth ymchwil ac academaidd, a'r llall am ei rhaglenni creadigol.
Casnewydd
Poblogaeth: 151,500
Enw Cymraeg: Casnewydd
Dinas i'r gogledd o Gaerdydd yn Ne-ddwyrain Cymru yw Casnewydd. Roedd ganddi borthladd allforio glo mwyaf y wlad ar un adeg, ac mae'n parhau'n ardal ddiwydiannol.
Gellir dadlau mai ei thirnod mwyaf adnabyddus yw Pont Gludo Casnewydd, un o ddim ond chwe phont gludo gwaith yn y byd. Gallwch chi hwylio oddi tano ar gondola neu ddringo i fyny ei thyrau a cherdded ar draws y dramwyfa. Mae selogion trafnidiaeth yn mwynhau ystafell yr injan a'r ganolfan ymwelwyr, yn ogystal â Chanolfan y Pedwar Loc ar Ddeg gerllaw.


Mae Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn atyniad i seiclwyr. Mae gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd arddangosfeydd ar y Siartwyr, tra bod olion Rhufeinig i'w gweld yng Nghaerllion. Mae'r sin gelfyddydol danddaearol yn tyfu, gyda sioeau a chynyrchiadau theatr.
Llanelwy
Poblogaeth: 3,500
Enw Cymraeg: Llanelwy
Llanelwy yw'r ail ddinas leiaf yng Nghymru ac yn y DU. Mae Llanelwy yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, rhwng tref Dinbych a chyrchfan arfordirol Y Rhyl.
Eglwys Gadeiriol Llanelwy sy'n dyddio'n ôl i'r 13g yw'r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain Fawr. Dyma le mae Beibl William Morgan yn cael ei gadw - y fersiwn gyntaf o'r Beibl cyfan a gafodd ei gyfieithu i'r Gymraeg o'r Groeg a'r Hebraeg.
Bob blwyddyn, mae amryw o leoliadau ar draws Llanelwy yn cynnal Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.


Tyddewi
Poblogaeth: 1,840
Enw Cymraeg: Tyddewi
Tyddewi yn Sir Benfro yw dinas leiaf y DU. Mae wedi’i henwi ar ôl Dewi Sant, nawddsant Cymru, a gafodd ei eni a’i gladdu yno. Roedd Dewi Sant (c. 500 – c. 589) yn esgob a helpodd i ledaenu Cristnogaeth o gwmpas Ewrop, gan adeiladu 12 mynachdy a dysgu miloedd o bobl yn ystod ei oes.
Cafodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei adeiladu rhwng y 12fed a'r 14g ar hen safle capel o'r 6ed ganrif yn y ddinas. Mae wedi’i guddio mewn pant rhwng y bryniau, ond mae’n lleoliad ysblennydd. I fyny ym mhrif ran y ddinas, mae llawer o siopau bach, tafarndai a llefydd bwyta. Mae'r traethau gerllaw, fel Traeth Porth Mawr, yn ddihalog.
Oherwydd ei lleoliad arfordirol (mae wedi’i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro), mae Tyddewi yn cael ei defnyddio fel man cychwyn a gorffen ar gyfer teithiau cwch adnabod bywyd gwyllt. Oddi yno, gallwch chi ymweld ag Ynys Dewi, Ynys Sgomer a llawer mwy, lle mae’n bosibl gweld palod, morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion. Cafodd arfordira ei ddyfeisio yn Nhyddewi, felly mae'n lle da i wneud rhywfaint o sgrialu a neidio i'r môr o dan oruchwyliaeth arweinydd.


Abertawe
Poblogaeth: 245,480
Enw Cymraeg: Abertawe
Abertawe yw dinas ail fwyaf Cymru. Mae'r ddinas brifysgol drefol yn ne'r wlad, ar yr arfordir, ac mae ffocws cryf ar dreftadaeth Cymru.
Allforyn enwocaf y ddinas yw'r bardd Dylan Thomas (1914-53); mae amgueddfa wedi ei chysegru iddo yno sef Canolfan Dylan Thomas, ac mae Llwybr Dylan Thomas o gwmpas rhai o dirnodau ei fywyd a'i waith. Ymhlith yr amgueddfeydd eraill mae Oriel Gelf Glynn Vivian ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru


Rhan fwyaf pert Abertawe yw Penrhyn Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain. Mae'n ardal hynod ddarluniadol gyda thraethau hyfryd, llwybrau arfordirol a bryniau tonnog. Mae llawer o fannau golygfaol i'w dewis ohonynt, fel Pen Pyrod a Bae Rhosili.
Wrecsam
Poblogaeth: 65,359
Enw Cymraeg: Wrecsam.
Yn 2022, daeth Wrecsam yn seithfed ddinas Cymru yn dilyn ei chais llwyddiannus am statws dinas fel rhan o Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Wedi'i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae ffeithiau hanesyddol hynod ddiddorol yn ymwneud â Wrecsam sy’n cynnwys y tîm pêl-droed. Clwb Pêl-droed, Wrecsam yw trydydd clwb hynaf y byd; o Wrecsam y daeth y 'Miss World' cyntaf un. Cafodd Teils Brics Coch Ruabon eu defnyddio i adfer y Taj Mahal; ac yn ôl pob sôn cafodd Wrexham Lager - sydd wedi’i fragu ers 1881 - ei weini ar y Titanic!
Mae’r ddinas yn cynnal yr Ŵyl Gerdd Newydd Ryngwladol Focus Wales bob blwyddyn, gan arddangos 250 o fandiau ar draws 20 o lwyfannau dros dridiau.
Dewch i adnabod Cymru gyda'n canllaw i Ddaearyddiaeth Cymru.


