P'un a ydych yn cynllunio aduniad, digwyddiad arbennig neu wyliau teuluol, dyma ddetholiad o lefydd i aros ar gyfer grwpiau mawr ar hyd a lled Cymru. Yr hyn sy'n gwneud y rhestr hon yn wirioneddol arbennig yw fod yr elw sy’n cael ei wneud o’r llety yn cefnogi'r elusennau a’r sefydliadau sy’n eu rhedeg, sydd i gyd yn cyfrannu at warchod treftadaeth a diwylliant Cymru. Ewch amdani felly i archebu lle aros i’ch teulu neu’ch ffrindiau oll, mewn gwesty sy’n gwneud gwahaniaeth!
Glan Llyn Isa’, Y Bala
Pan ddaeth Glan-llyn i ofal yr Urdd yn y 1950au roedd Glan-llyn Isa’ yn cael ei ddefnyddio fel llety ar gyfer bechgyn (gyda’r merched yn cysgu yn y Plas), ac yna o’r 1960au ymlaen Glan-llyn Isa’ oedd cartref staff Glan-llyn a’u teuluoedd.
Ar ôl gwaith datblygu sylweddol agorwyd Glan-llyn Isa’ yn 2021 fel gwersyll hunan-arlwyo annibynnol. Er dafliad carreg o wersyll Glan-llyn, mae’n llety cwbl ar wahân.
Mae’n cysgu hyd at 40, gydag ystafelloedd sydd gan gyfleusterau anabl. Mae cegin fawr bwrpasol ac adnoddau coginio a chyfarfod tu allan, yn cynnwys popty pitsa, adnoddau barbeciw a chrochan tân, ynghyd â lolfa braf i ymlacio a chymdeithasu.
Gallwch hefyd fanteisio ar yr amrywiaeth o adnoddau awyr agored a’r cynnig arlwyo sydd yng Ngwersyll Glan-llyn, ac mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol tafliad carreg o’r gwersyll.
Dilynwch lwybr cerdded neu feicio i bentref Llanuwchllyn, neu ddringo mynyddoedd Penllyn - Cadair Bronwen, yr Aran a’r Arennig.
Am bryd o fwyd cartrefol ewch i dafarn gymunedol yr Eagles, Llanuwchllyn, neu’r Cyfnod yn Y Bala. Eisiau brêc o’r popty pitsa sydd yn y llety? Ewch i Fwyty Mawddach am bitsa ffres o’r ffwrn. Am rywbeth ychydig yn fwy crand mae Palé Hall, Llandderfel a Thyddyn Llan, Llandrillo yn wledd a hanner i unrhyw fonheddwr mawr o’r Bala.
Darllen mwy: Croeso cynnes yng ngwersylloedd eiconig yr Urdd
Tŷ Newydd, Llanystumdwy
Ar gyrion pentref Llanystumdwy, yn edrych dros Fae Ceredigion, mae Tŷ Newydd - Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Mae cyrsiau ysgrifennu ar gael yma trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chyrsiau ac encilion celfyddyd a lles, o gyfansoddi caneuon i nofio gwyllt ac ioga.
Mae modd llogi Tŷ Newydd ar gyfer partïon teuluol, gwyliau grŵp, priodasau neu gynadleddau bychan, gyda digon o wlâu i gysgu 24 yn yr adeilad rhestredig Gradd II. Mae gan yr ardd fawr amryw o ardaloedd eistedd, lawnt fawr sy’n berffaith i blant chwarae a llwybr i lawr at yr arfordir. Mae troeon cerdded braf hefyd ar hyd lan afon Dwyfor a’r enwog Lôn Goed.
Dyma gartref olaf David Lloyd George, ac mae amgueddfa fechan yn y pentref yn adrodd hanes y cyn Brif Weinidog. Dros y ffordd mae tafarn gymunedol Y Plu - curiad calon y pentref. Mae Menter y Plu wedi prynu’r ‘Capel Bach’ cyfagos i gynnig llety, ac wedi creu llwyfan ar gyfer digwyddiadau byw yn yr ardd.
Darllen mwy: Creu campwaith yn Nhŷ Newydd
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen
Hen bentref chwarelyddol sydd bellach yn ganolfan ddysgu Cymraeg yw Nant Gwrtheyrn. Mae’n cynnig cyrsiau preswyl ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd o bob lefel, ond mae hefyd yn Ganolfan Dreftadaeth, yn cynnal priodasau, ac yn lleoliad braf i fynd ar wyliau.
Mae yma lety hunan-ddarpar neu wely a brecwast, ac opsiynau ar gyfer gwyliau grŵp - gyda digon o wlâu i gysgu hyd at 109 o bobl.
Mwynhewch ginio a golygfeydd arfordirol yng Nghaffi Meinir, ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, neu ymweld â choeden symbolaidd stori garu drist Rhys a Meinir. Mae croeso i gŵn mewn ambell ’stafell wely a’r caffi hefyd.
Mae tafarn gymunedol y Fic rhyw filltir i fyny’r rhiw ym mhentref Llithfaen, bragdy Cwrw Llŷn ym mhentref cyfagos Nefyn, a pharc antur Glasfryn yn lle da i ddiddanu’r plant.
Darllen mwy: Tafarndai Cymunedol Cymru
Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth
Yn 1974 daeth grŵp o bobl â diddordebau amgylcheddol at ei gilydd i greu Canolfan y Dechnoleg Amgen mewn hen chwarel lechi, dair milltir i'r gogledd o Fachynlleth. Mae wedi ysbrydoli cenedlaethau, ac yn dal i wneud hyd heddiw. Mae’r ganolfan yn cynnal cyrsiau dydd, cyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau dysgu o bell ar bynciau ymarferol fel poptai pridd, toiledau compostio, uwchgylchu, crefftau traddodiadol ac ynni adnewyddadwy.
Mae’r elusen amgylcheddol hefyd yn darparu llety i grwpiau, gyda’r prif lety wedi’i leoli yn adeilad WISE (Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy). Mae 24 ystafell wely en-suite twin a dwbl yn cael eu gwresogi gan gyfleusterau biomas y safle, a chawodydd yn cael eu pweru gan ynni solar. Mae cabanau eco yno hefyd gyda gwlâu i hyd at 18 o bobl ym mhob caban. Mae brecwast, cinio a phrydau nos llawn cynnyrch lleol yn cael eu gweini yng nghaffi llysieuol y safle.
Ym Machynlleth ei hun mae siopau, caffis ac orielau annibynnol, gŵyl gomedi byd-enwog a Chanolfan a Senedd-dŷ Owain Glyndŵr. Mae’r dref hefyd yn ganolbwynt gwych i ddarganfod bywyd gwyllt bendigedig safle UNESCO Biosffer Dyfi - yr ardal o gwmpas afon Dyfi a’i foryd sy’n gartref i adar, anifeiliaid a phlanhigion prin.
Darllen mwy: Mach a mwy: Crwydro cyffiniau prifddinas hynafol Cymru
Gregynog, Tregynon
Mae ystad trawiadol Gregynog yn enwog fel cyn-gartref y chwiorydd Davies, y casglwyr celf wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i hanes celfyddyd yng Nghymru. Yn 1920, fe brynodd Gwendoline Davies a Margaret Davies, wyresau i David Davies, Neuadd Gregynog gyda’r bwriad o greu cymuned gelf a chrefft yno. Daeth yn gartref i Wasg Gregynog, ac erbyn hyn mae’n ffynnu fel canolfan gerdd a chynadledda. Mae’r gerddi, llwybrau a gwarchodfa natur yn werth eu gweld.
Mae gan Gregynog lety i hyd at 100 o bobl, gyda 56 ystafell wely (14 en-suite) yn y Neuadd a 6 ystafell mewn bwthyn gerllaw. Mae dau bwynt gwefru ceir ar y safle a chaffi sy’n croesawu cŵn.
Darllen mwy: Canllaw i'r Canolbarth
Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan
Gwersyll yr Urdd sy’n rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles, a’r Gymraeg yw Pentre Ifan, wedi ei leoli rhwng Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mynyddoedd Preseli.
Mae Pentre Ifan yn ddihangfa ddigidol sydd yn annog pobl ifanc i gysylltu â’u tirlun amgylcheddol a diwylliannol a phrofi ffordd o fyw sy'n fwy cynaliadwy.
Mae lle i 40 person gysgu yn y gwersyll dros y gaeaf, a lle i dros 75 dros gyfnodau'r haf, gyda phebyll saffari yn cael eu defnyddio fel rhan o'r profiad gwersylla. Mae cyfleusterau anabl ar y safle.
Ynghyd â llety en-suite a phebyll glampio, mae ardaloedd arlwyo ac ymolchi sy'n defnyddio pŵer solar, ardd perlysiau, cegin a phopty pitsa awyr agored a llecynnau lles ar y safle.
Ymysg y sesiynau ar gynnig mae sesiynau gwyllt grefft, coginio o'r pridd i'r plât, ffasiwn gynaliadwy, yoga a serydda, a chyfle arbennig i adrodd chwedlau wrth y tân fin nos.
Llenwch bantri’r gegin gymunedol gyda’r gorau o gynnyrch y Gorllewin - bara Popty JK Lewis, Llaeth Carningli a hufen iâ Preseli.
Llety’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
O blastai moethus i gestyll crand, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar nifer o dai a gerddi hanesyddol Cymru. Mae’r elusen gadwraethol hefyd yn cynnig gwyliau unigryw i griwiau mewn adeiladau amrywiol.
Mae Neuadd Craflwyn ar gyrion Beddgelert yn blasty o’r 1890au. Gall grwpiau mawr o hyd at 39 aros ar ystâd Craflwyn yn y Neuadd a’r chwe bwthyn llai.
Mae Byncws Watkin, sydd ar waelod y llwybr o’r un enw sy’n arwain at gopa’r Wyddfa, yn cysgu hyd at 18, Fferm Gutpon yn dŷ mawr ger tonnau Freshwater West, a Ffermdy Dinefwr yn leoliad da i grwydro parcdir a Chastell Dinefwr.