Clydwch y cynfas
Mae safle glampio anturus Llechwedd Glamping ym Mhlas Weunydd wedi ennill gwobrau lu ac mae’n lle hyfryd i gael profiad o chwareli hanesyddol Blaenau Ffestiniog.
Hoe mewn lle hynod
Yn Apple Glamping, mae’r llety unigryw yn dod law yn llaw â moethusrwydd sy’n ystyriol o’r amgylchedd. Dafliad carreg o draethau godidog Sir Benfro, ymhlith y dewis fan hyn mae geogromenni arloesol, UFO sydd wedi glanio yma o’r dyfodol, neu jet breifat llawn moethau. Fe gewch chi gysur cartre yma, gan gynnwys Wi-fi, cyfleusterau sba, a gwresogi clyd, wrth i anturio ac ymlacio ddod ynghyd.
Mae gan gerbyd hyfryd yr Apple Express le i bedwar o amgylch bwrdd bwyd sy’n troi yn wely dwbl. Yn y gegin Elfin fechan, mae popeth i wneud prydau syml, er mwyn i chi gael gwledda mewn moethusrwydd fel tasech chi mewn Pullman go iawn.
Camwch i foethusrwydd y saithdegau gyda JetStar! Mae caban y peilot wedi’i droi yn stafell chwarae gemau ryfeddol, lle mae Xbox a gemau awyrennau, ac mae modd mwynhau’r cyfan o seddi peilot go iawn.
Dadflino ar y dŵr
Cabanau sy’n arnofio yw’r Floatel Rooms, a’r rheini wedi’u hangori ger y cychod ym Marina Aberdaugleddau. Mae lle i ddau ym mhob caban, sydd hefyd yn cynnwys ystafell gawod en-suite, dodrefn moethus a balconi preifat. Mae yma ffenestri o’r nenfwd i’r llawr sy’n rhoi golygfeydd eang o’r dŵr, a chyfle i fwynhau prydferthwch y machlud.
Cysur mewn cocŵn
Pod glampio yw’r Red Kite Earth Conker sydd wedi’i ddylunio’n aeroddynamig. Mae’n sefyll yng nghanol Mynyddoedd Cambria ac mae’r golygfeydd yma’n odidog. A hwnnw’n llawn moethusrwydd mawr, pod y Moon conker ar lan yr afon yw’r lle delfrydol i swatio a syllu ar y sêr o’ch gwely anferth. Dyma ddau’n unig o’r llefydd aros cudd sydd gan Chillderness, a’r rheini’n rhoi cyfle i chi fod yn un â byd natur. Mae pob opsiwn yn rhoi profiad cwbl wahanol ac yn gyfle i ymlacio a dadflino.
Cwsg ym mrigau’r coed
Yn y Squirrel's Nest yn Llandrindod, mae’r tai moethus yn y coed yn cynnig llety arbennig a phrofiad hudolus, a hynny ym mherfeddion byd natur. Ymlaciwch ger y tân coed, yn y twba twym, neu mewn hamog, gan edmygu golygfeydd godidog cefn gwlad.
Ffoi i’r fforest
A’r rheini wedi’u nythu yng nghanol llonyddwch Coedwig Rhiw, mae tai Cnocell y Coed yn cynnig dihangfa yng nghanol prydferthwch heddychlon byd natur. Mae’r tai hudolus hyn ym mrigau’r coed yn rhoi’r cyfuniad perffaith o fywyd gwladaidd a moethusrwydd modern. Dychmygwch ddeffro i glywed siffrwd y dail a thrydar yr adar, gan fwynhau coffi’r bore ar ddec preifat gyda golygfeydd eang o’r coed. Efallai mai chwilio am wyliau rhamantus ydych chi, neu’ch bod chi’n awyddus i ymlacio. Yng Nghnocell y Coed, mae profiad bythgofiadwy yn eich aros, gan roi cyfle i chi fod yn un â byd natur yn y ffordd fwyaf hudolus dan haul.
Cysur coedwig
Mae By the Wye yn eich gwahodd i fwynhau llonyddwch y goedwig yn eu caban o dan y dail. Dyma le sy’n cyfuno harddwch yr awyr agored â holl foethusrwydd eich cartre.
Dihangfa sy’n dda i’r ddaear
I’r rheini sy’n awyddus i aros mewn rhywle cynaliadwy, mae eco-gabanau Fferm Treberfedd yn cyfuno moethusrwydd modern â dyluniad sy’n llesol i’r amgylchedd, gan roi cyfle i westeion ymlacio yn un â byd natur.
Gwyliau gwir glasurol
Dewch i fwynhau treftadaeth gyfoethog Cymru yn rhai o gestyll a phlastai hanesyddol gorau’r wlad, a’r rheini bellach wedi’u troi yn llety moethus. Treuliwch y noson yng nghanol y crandrwydd, lle mae’r hanes yn cysylltu’r gorffennol â’r presennol.
Mae Chateau Rhianfa, sy’n chateau yn y dull Ffrengig o’r 1850au, yn sefyll ar lannau prydferth afon Menai ond hefyd yn rhoi golygfeydd eang o gopaon Eryri. Plasty Fictoraidd moethus yw Neuadd y Palé, sydd wedi ennill 5 o sêr coch yr AA, ac mae’n lle delfrydol i ymlacio yng nghanol harddwch dyffryn Dyfrdwy. Yn Llangoed Hall, sy’n blasty hanesyddol, fe gewch chi lety braf gyda gerddi hudolus a chasgliadau celf o’ch cwmpas. Mae hanes operatig i Gastell Craig y Nos, lle mae’r cywair wastad yn iawn. Yng Nghastell Roch wedyn, daw cysur modern law yn llaw â hanes, a hynny mewn llety sy’n cyfuno’r hen a’r newydd a’r cyfan gyda moethusrwydd di-ben-draw. Mae’r llefydd hyn yn fwy na gwestai braf; maen nhw’n byrth i straeon a threftadaeth Cymru.
Trefnwch eich antur nesaf yn un o’r llefydd eithriadol hyn, lle cewch chi noson fythgofiadwy o gwsg!
Nos da!