Yng Nghymru, mae’r awyr ymysg y tywyllaf, cliriaf a dilygredd yn y byd. Cymru yw'r wlad sydd â'r ganran uchaf o'i thir â statws gwarchodfa awyr dywyll yn y byd.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri yn Warchodfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol swyddogol. Mae llynnoedd anghysbell Cwm Elan yn Barc Awyr Dywyll Ryngwladol, sy'n golygu bod ei 45,000 erw yn cael ei amddiffyn rhag llygredd golau, gan ei wneud yn noddfa i fywyd gwyllt a natur (a seryddwyr).
Yma yng Nghymru, cawn arddangosfeydd anhygoel o sêr, comedau, sêr gwib a galaethau - gan gynnwys y Llwybr Llaethog. Gallwch wylio'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) a lloerennau - mae 8,000 ohonyn nhw'n cylchdroi'r Ddaear - ewch ar siwrne syfrdanol seryddol.
Byddwch yn sylweddoli nad ydych ar eich pen eich hun yn gwylio'r sioe. Bydd synau natur o’ch cwmpas. Mae mwy o rywogaethau nosol na dyddiol, felly byddwch chi'n rhannu'r olygfa gyda thylluanod, ystlumod, moch daear, llwynogod a cheirw i enwi dim ond rhai.
Mae syllu ar y sêr yn dda i'r enaid hefyd. Mae’n gwneud i chi anghofio'r pethau bychain a meddwl am y pethau mwy. Gofod ac amser.
Gallwch syllu ar y sêr yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn ond nosweithiau hydrefol a gaeafol sydd orau. Yn ddelfrydol, byddwch chi'n ei amseru gydag un o'n cawodydd meteor rheolaidd, lle mae llwch o gomedau a thameidiau wybrennol yn troi'n sêr gwib. Yn ystod y rhai mwyaf - y Perseids (Awst), Geminids (Tachwedd) a Quadrantids (Ionawr) - gallwch weld hyd at 150 meteor bob awr. Mae hynny'n llawer o ddymuniadau!
Felly, ble ddylech chi fynd?
Os ydych chi ar gychwyn eich siwrne seryddol, gallwch ddarganfod pum lle gorau'r astroffotograffydd Alyn Wallace, neu edrych ar ein canllaw i'r lleoliadau awyr dywyll gorau yng Nghymru. Os ydych chi am gymryd lluniau, mae'r astroffotograffydd Alyn Wallace yn cynnig awgrymiadau i'ch rhoi ar ben ffordd.
Felly, dewiswch noson heb leuad, ac ewch a’ch cadair wersylla, het wlanog a fflasg o rywbeth cynnes gyda chi. Mae’r sêr yn canu.