Yr adeg yma yw fy hoff amser o'r flwyddyn am sawl rheswm. Mae’r hydref a’r gaeaf yn amser i ddechrau arafu a meddwl am baratoi ein hunain a’n cartrefi ar gyfer y tywydd oer fydd yn dilyn dros y misoedd nesaf. Mae’r dail yn troi a’r tywydd yn oeri a theimlad hynod o gysurus i’r nosweithiau. 

Mae bywyd modern yn gyffredinol yn hynod o brysur ac rydym i gyd yn euog o fod ar awtobeilot, heb feddwl ddwywaith am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae’r pwysau sydd arnom o ganlyniad i weithio, edrych ar ôl ein teulu a chymdeithasu yn gallu rhoi gymaint o straen ar ein corff a’n meddwl, heb sôn am y pwysau rydym yn dueddol o roi arnom ni ein hunain i fyw mewn ffordd arbennig.  

Dyma pam mae’r adeg yma o'r flwyddyn i mi felly yn fy annog, yn fwy nag unrhyw amser arall, i arafu, i ganolbwyntio ar sut rwy’n teimlo a dechrau gwerthfawrogi'r pethau bach mewn bywyd fel darllen llyfr o flaen y tân, coginio pryd blasus a maethlon, mynd am dro o amgylch fy ardal leol, yn ogystal ag ymarfer ychydig o ioga. 

Dyma ambell syniad i’ch ysbrydoli i deimlo’n egnïol, tawel eich meddwl a hapus dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf…

Lle i enaid gael llonydd

Rwy'n teimlo'n lwcus byw mewn rhan mor brydferth o'r byd ac mae mynd am dro o gwmpas fy nghartref, Dyffryn Nantlle, i lawr at Lyn Nantlle ac o amgylch y chwareli bob amser yn fy atgoffa pa mor anhygoel yw natur a'r tymhorau.

Ers symud i Nantlle, un peth rwy'n ei garu yn fwy nag unrhyw beth yw nofio yn y llyn! Mae nofio gwyllt mewn llyn oer mor dda i’r enaid ac yn fy helpu i deimlo'n fwy positif yn syth. Mae’n holl bwysig wrth gwrs i gymryd gofal arbennig os yn nofio mewn llyn – mae nofio mewn dŵr gwyllt neu agored yn hollol wahanol i bwll nofio, ac mae cerrynt, tymheredd y dŵr, tonnau a sawl ffactor arall wneud nofio o’r fath yn llawer mwy heriol. Mae’n bendant yn werth ymuno â chlwb lleol, mynd gydag arbenigwyr neu o leiaf fynd mewn criw os am nofio mewn dŵr gwyllt, naturiol.

Ar ôl nofio, os ydi’r tywydd yn braf yna mi fase ni yn mynd ati i ymarfer ychydig o ioga o flaen y llyn, gan gymryd mantais o'r olygfa fwyaf prydferth yn y byd, yn fy marn i!

Mae cerdded o gwmpas y chwareli yr un mor therapiwtig, gyda golygfeydd gwych o'r dyffryn a chrib Nantlle o dop chwarel Pen-yr-Orsedd. Rwyf hefyd yn dwli ar yr arogl coffi anhygoel sy'n dod o rosty Poblado Coffi yn y pentref - trît bach arall i unrhyw un sydd yn mynd i gerdded yn yr ardal peth cyntaf yn y bore!

Menyw yn gwisgo ffrog coch yn eistedd ar y glaswellt yn yfed coffi
Menyw yn gwisgo cit du yn gwneud yoga o flaen llyn gyda mynyddoedd yn y cefndir

Ceri Lloyd yn gwneud ioga o flaen Llyn Nantlle

O'r Pridd i'r Plât

Mae’n syniad da i fwyta cymaint o fwydydd iachus, llawn fitaminau â phosib yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae hefyd yn gyfnod da i gyflwyno prydau twym sy’n defnyddio llawer o lysiau gwraidd, a hefyd diodydd sy’n cynnwys llysiau a sbeisys fel sinsir a thyrmerig er mwyn helpu eich system imiwnedd ymdopi gyda’r newid tymor.

Mae bwyta’n dymhorol a siopa’n lleol am gynhwysion organig yn bwysig iawn i mi. Mae bwyta fel hyn yn ein galluogi i gysylltu â natur, a phatrwm naturiol natur. Gan gymryd cipolwg agosach ar ba fwydydd sydd yn tyfu ar ba adeg, rydym yn cael ein hatgoffa bod natur yn darparu’r hyn rydym ei angen ar yr adeg rydym ei angen. Yn y gaeaf, llysiau sy’n amsugno llawer o ddŵr o’r tir sy’n tyfu, fel moron, cennin, bresych, gan helpu’r tir ymdopi gyda chyfnodau gwlyb y gaeaf. Maent hefyd yn gynhwysion perffaith ar gyfer prydau blasus i’n cadw’n gynnes drwy’r tywydd oer.

Dyma rysáit o fy llyfr O’r Pridd i’r Plât, y llyfr coginio fegan cyntaf yn Gymraeg. Mae’n ofnadwy o flasus a hynod o syml i’w greu!

Llun o dwylo yn dal cwpan gwydyr gyda latte tyrmerig

Latte tyrmerig

Latte Tyrmerig

Mae’n bosib prynu powdr latte tyrmerig mewn sawl lle erbyn hyn, ond does dim byd yn blasu cystal a latte tyrmerig ffres sydd wedi ei greu gartre.

Cynhwysion

1 fodfedd o wreiddyn tyrmerig
1 llwy fwrdd o sudd masarn
1⁄4 llwy de o bupur
1 cwpan o laeth ceirch neu laeth almon

Digon i 1                                    

Dull                       

  1. Torrwch ddarnau o dop a gwaelod y tyrmerig yn unig, a’u rhoi yn y cymysgydd gyda holl gynhwysion y latte am tua 30–40 eiliad nes bod popeth wedi’i gymysgu’n dda.
  2. . Yna rhowch y cymysgedd mewn sosban a’i gynhesu’n araf, neu ei roi yn y ffrothiwr llaeth er mwyn ei gynhesu. Mwynhewch y latte yn syth!

Cymryd saib

Fy hoff beth i helpu gyda newid tymor yn ogystal â helpu gydag unrhyw boen meddwl neu straen yw ioga. Mi nes i sefydlu SAIB, stiwdio ioga ar-lein, er mwyn annog pobl i gymryd saib allan o’u bywydau prysur a gwneud rhywbeth sydd yn mynd i’w helpu i deimlo’n gryfach yn gorfforol ac emosiynol, ac yn dawelach yn feddyliol.

Yn ogystal â’r ochr gorfforol o ioga, rwyf hefyd wedi dysgu gymaint am bwysigrwydd technegau anadlu a chanolbwyntio ar ein hanadl fel ffordd i reoli ein hemosiynau. Mae ymarfer ioga yn gyson a chanolbwyntio ar fy anadl, drwy ddilyn technegau Pranayama, wedi rhoi hwb i fy hyder a fy iechyd hyd yn oed yn fwy, ac wedi bod yn declyn allweddol i reoli fy emosiynau a dod o hyd i’r tawelwch sydd ei angen pan mae bywyd yn gyflym a’n brysur.

Menyw yn gwisgo cit du yn gwneud symudiad yoga o flaen y tân

Ceri Lloyd yn gwneud symudiad ioga 

Dyma flas ar ddosbarth o’r stiwdio. Mae’r dosbarthiadau yn addas ar gyfer unrhyw allu ac yn cynnig cymysgedd o ymarferion corfforol ac anadlu.

Ioga gyda Ceri Lloyd

Os oes gennych ddiddordeb mewn mwy o ddosbarthiadau tebyg ewch i SAIB neu Instagram @ceri_lloyd.

Straeon cysylltiedig