
Rysáit Brecwast Abertawe
Gall y rysáit yma gael ei weini fel byrbryd ysgafn unrhyw bryd o'r dydd neu ei weini ar dost trwchus am frecwast iachus a blasus! Mae'n cyfuno bwyd môr lleol o'r Gŵyr gan gynnwys cocos Penclawdd a bara lawr - math o wymon sy'n cael ei gasglu ar hyd yr arfordir.